Sicrhau iechyd a diogelwch gyrwyr a theithwyr tacsis a cherbydau hurio preifat
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymwneud â sicrhau eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac unrhyw deithwyr sy’n teithio yn eich cerbyd.
Mae’r Safon hon yn cynnwys tair elfen:
1. Deall peryglon ac asesu risgiau i iechyd a diogelwch
2. Atal neu warchod eich hun a theithwyr rhag peryglon a risgiau posibl
3. Ymateb i argyfwng sy’n effeithio ar deithwyr
Mae’r Safon hon ar gyfer
Mae’r Safon hon ar gyfer gyrwyr tacsis a cherbydau hurio preifat.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Deall peryglon ac asesu risgiau i iechyd a diogelwch
P1 deall eich cyfrifoldebau o fewn y fframwaith rheoleiddio sydd wedi’i lunio i’ch gwarchod chi a theithwyr rhag peryglon a risgiau posibl
P2 bod yn ymwybodol o beryglon a risgiau yn yr amgylchedd gwaith a allai amlygu gyrrwr a theithwyr i beryglon posibl
P3 cynnal asesiad risg
P4 cael cymorth a chyngor gan unigolyn priodol os bydd ansicrwydd ynglŷn â lefel y risg
P5 cymryd camau i ddileu neu ynysu’r risg
P6 cofnodi a rhannu manylion am berygl a risg benodol fel y bydd modd i bobl briodol gyflwyno mesurau wrth gefn a chynlluniau ar gyfer y dyfodol
Atal neu warchod eich hun a theithwyr rhag peryglon a risgiau posibl
P7 cydweithredu â phobl a pholisïau sydd wedi’u creu i leihau amlygiad i beryglon a risgiau posibl
P8 dilyn polisïau neu weithdrefnau i gyfyngu ar risgiau i chi ac i deithwyr yn y cerbyd
P9 cymryd camau prydlon ac effeithiol lle mae diogelwch neu lesiant teithwyr mewn perygl
P10 cymryd camau o fewn terfynau eich awdurdod personol a’ch gallu
P11 rhoi gwybod am ddigwyddiadau niweidiol i’r unigolyn neu’r corff priodol
Ymateb i argyfwng sy’n effeithio ar deithwyr
P12 ymateb i sefyllfaoedd argyfyngus a all effeithio ar ddiogelwch teithwyr gan gynnwys:
P12.1 cysylltu â’r gwasanaeth priodol am gymorth
P12.2 defnyddio cyfarpar argyfwng priodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Deall peryglon ac asesu risgiau i iechyd a diogelwch
K1 y prif fframweithiau a pholisïau Iechyd a Diogelwch sy’n gwarchod y gyrrwr, teithwyr a defnyddwyr eraill y ffordd
K2 y gwahaniaeth rhwng perygl a risg
K3 peryglon y gall gyrwyr eu hwynebu
K4 ymatebion i beryglon a ganfyddir i gyfyngu ar y risg i chi eich hun, i deithwyr ac i ddefnyddwyr eraill y ffordd
K5 sut i gynnal asesiad risg i gyfyngu ar y risg i chi eich hun, i deithwyr ac i ddefnyddwyr eraill y ffordd
K6 y ‘ddyletswydd gofal’ sydd ar yrrwr o ran teithwyr ac i ddefnyddwyr eraill y ffordd K7 canlyniadau peidio â dilyn rheolau a rheoliadau iechyd a diogelwch
K8 y mathau o yswiriant sydd eu hangen ar yrrwr i indemnio ei hun neu gwsmeriaid am niwed neu golled
K9 sut i leihau risgiau corfforol o ganlyniad i godi a chario, symudiadau ac ystum y corff
Atal neu warchod eich hun a theithwyr rhag peryglon a risgiau posibl
K10 gwahanol rolau’r gwasanaethau brys a phersonél a all helpu gyrwyr i gyflawni eu dyletswyddau
K11 sut i leihau ac atal straen emosiynol a dicter wrth yrru
K12 sut i ddefnyddio cyfarpar priodol a systemau larwm i atal a lleihau risg bersonol i’r gyrrwr
K13 y defnydd o dechnegau rheoli gwrthdaro i leihau risgiau personol
K14 pwysigrwydd ffordd iach o fyw o safbwynt eich dyletswyddau
K15 pwysigrwydd cynllunio wrth gefn ar gyfer digwyddiadau ac argyfyngau na ellir eu rhagweld
Ymateb i argyfwng sy’n effeithio ar deithwyr
K16 pam mae’n bwysig dilyn cyfarwyddiadau cwsmeriaid mewn digwyddiad neu argyfwng sy’n cynnwys y cwsmer hwnnw
K17 y camau i’w cymryd pan fydd cerbyd yn torri ar fin y ffordd
K18 yr angen i sicrhau diogelwch a llesiant cwsmeriaid mewn digwyddiad neu ddamwain
K19 pwysigrwydd rhoi sicrwydd i deithwyr a all fod mewn sioc, sy’n bryderus, ofnus neu os ydynt yn defnyddio iaith gyntaf heblaw Saesneg
K20 y gweithdrefnau y gallwch eu dilyn yn achos damwain ar y ffordd neu argyfwng difrifol arall
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwybodaeth Ychwanegol
Tacsi
Mae’n cynnwys Cerbyd Hacni trwyddedig