Rheoli a gweinyddu busnes bach yn y diwydiannau cludiant cymunedol, tacsis neu gerbydau hurio preifat
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymdrin â rheoli a gweinyddu busnes bach.
Mae’r Safon hon yn cynnwys dwy elfen:
1. Cynllunio a rhedeg busnes bach
2. Rheoli swyddogaethau cyfrifyddu a gweinyddu
Mae’r Safon hon ar gyfer
Mae’r Safon hon ar gyfer gyrwyr sy’n berchnogion neu gyfarwyddwyr busnesau bach yn y Diwydiannau Cludiant Cymunedol, Tacsis neu Gerbydau Hurio Preifat.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cynllunio a rhedeg busnes bach
P1 datblygu cynllun sylfaenol ar gyfer sefydlu a rhedeg y busnes
P2 canfod y galw am eich busnes ac amcangyfrif lefelau posibl yr incwm
P3 ystyried sut a phryd y byddwch yn gweithredu i gyflawni’r lefelau incwm hynny
P4 amcangyfrif y gost o redeg eich busnes
P5 paratoi rhagolwg ariannol sy’n dangos costau, enillion, cyflogau ac ati, fesul wythnos a mis
P6 canfod ffynonellau benthyciadau a grantiau priodol
P7 nodi cryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau i’r busnes
P8 canfod cyfleoedd i ddatblygu’r busnes, fel contractau
Rheoli swyddogaethau cyfrifyddu a gweinyddu
P9 cadw cofnodion ariannol y busnes, fel treuliau, cardiau credyd, taliadau, enillion, mantolenni banc ac anfonebau
P10 gwneud taliadau Yswiriant Gwladol, Treth a TAW yn unol â gofynion a gweithdrefnau statudol
P11 canfod math a lefel yr yswiriant sydd ei angen ar gyfer y busnes
P12 cadw a phrosesu gwybodaeth cwsmeriaid sy’n cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cynllunio a gweithredu busnes bach
K1 y gwahaniaethau rhwng masnachwyr unigol, partneriaethau, cwmnïau cyfyngedig, masnachfreintiau, mentrau cydweithredol, elusennau a mentrau cymdeithasol
K2 rôl ymddiriedolwyr os yn gymwys
K3 cyfrifoldebau a dyletswyddau rhedeg busnes
K4 cyfrifoldebau a dyletswyddau’r gwahanol gyrff rheoleiddio
K5 telerau ac amodau masnachu a rheoli contractau
K6 y costau a’r gorbenion sy’n gysylltiedig â rhedeg y busnes
K7 ffynonellau cyllid, fel grantiau, benthyciadau a morgeisi
K8 ffynonellau cyngor fel Canolfannau Cyswllt Busnes, cyfreithwyr, y Gwasanaeth Busnesau Bach a chyfrifyddion
K9 y dylanwadau allanol a all effeithio ar eich busnes a’i enillion
K10 sut i ganfod a chynnig am gontractau gwaith
Rheoli swyddogaethau cyfrifyddu a gweinyddu
K11 pwysigrwydd a rhwymedigaethau cyfreithiol cadw cofnodion ariannol y busnes
K12 y gwahanol ddulliau cadw cyfrifon, fel systemau papur neu gyfrifiadur
K13 sut i gyfrifo enillion, costau, llif arian ac elw
K14 y gofynion sy’n gysylltiedig â thalu Yswiriant Gwladol, a TAW a thaliadau statudol eraill
K15 pwysigrwydd y Ddeddf Diogelu Data
K16 rôl banciau, gwahanol gyfrifon banc, llog a chostau banc
K17 y lefelau gwarchod a gynigir gan wahanol bolisïau yswiriant
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwybodaeth Ychwanegol
*
*
Tacsi
Mae’n cynnwys Cerbyd Hacni trwyddedig