Cynllunio llwybrau yn y diwydiant trafnidiaeth teithwyr ffyrdd
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymwneud â dehongli mapiau a dewis y llwybr mwyaf priodol ar gyfer y teithwyr. Dylech allu dehongli mapiau ffyrdd a strydoedd a’r symbolau sydd ynddynt, a meddu gwybodaeth am y prif draffyrdd, ffyrdd, ysbytai, gorsafoedd trenau a thirnodau eraill. Dylech allu cynllunio llwybr sy’n mynd â’r teithwyr i’w cyrchfan gan gadw ffactorau fel gwaith ar y ffyrdd a’r tywydd mewn cof.
Mae’r Safon hon yn cynnwys dwy elfen:
1. Paratoi ar gyfer siwrnai
2. Cyfathrebu â theithwyr ynghylch y ffyrdd a ddewisir.
Mae’r Safon hon ar gyfer**
Mae’r Safon hon ar gyfer gyrwyr trafnidiaeth teithwyr ffyrdd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Paratoi ar gyfer siwrnai
P1 darllen map ffyrdd gan ddefnyddio’r mynegai a’r system cyfeirnod grid
P2 darllen map ffyrdd neu fap strydoedd (er enghraifft, map strydoedd A-Z) a dod o hyd i fan neu gyrchfan benodedig
P3 cynllunio siwrnai rhwng dau neu fwy o leoliadau
P4 cynllunio siwrnai drwy ganfod y ffordd fyrraf neu fwyaf cyfleus
P5 canfod llwybr amgen os oes oedi o ganlyniad i waith ar y ffordd, damwain neu ddigwyddiadau eraill
P6 crynhoi cyfarwyddiadau gan ddefnyddio gwybodaeth fel rhifau ffyrdd, tirnodau a phellteroedd
P7 cyfrifo’r pellter ac amcangyfrif yr amser teithio rhwng dau neu fwy o leoliadau
P8 cyfrifo, pan yn briodol, y cyfnodau gorffwys a all fod yn ofynnol i gydymffurfio â rheoliadau ac anghenion y teithwyr
P9 cyfrifo faint o danwydd fydd ei angen ar gyfer y siwrnai
Cyfathrebu â theithwyr ynghylch y ffyrdd a ddewisir
P10 cyfathrebu’n effeithiol â theithwyr i wneud yn siŵr eich bod wedi cael yr wybodaeth gywir am y cyrchfan
P11 dweud wrth y teithwyr pa lwybr yr ydych am ei ddilyn
P12 dweud wrth y teithwyr am wyriadau y bydd yn rhaid eu cymryd oddi ar y llwybr y cytunwyd arno a’r rheswm pam (er enghraifft, gwaith ar y ffordd, damweiniau neu resymau eraill)
P13 rhoi amcangyfrif i deithwyr o unrhyw newid i amser y siwrnai o ganlyniad i wyriad neu oedi
P14 cael gwybodaeth drwy newyddion teithio
P15 dweud wrth y teithwyr faint fydd cost y siwrnai’n
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Paratoi ar gyfer siwrnai
K1 mathau a ffynonellau’r mapiau a’r rhai sy’n briodol i’w defnyddio
K2 lleoliad a chyfeiriad prif ddinasoedd, meysydd awyr, tirnodau, traffyrdd a chefnffyrdd mewn perthynas â man diffiniedig yn eich ardal
K3 enwau’r prif draffyrdd, y cefnffyrdd a’r tirnodau yn eich ardal
K4 sut mae defnyddio symbolau ar fapiau i gael gwybodaeth am ddosbarth ffyrdd, systemau trafnidiaeth a nodweddion y tir
K5 y rheoliadau perthnasol sy’n gysylltiedig â’r ffiniau a’r terfynau lle caniateir y gwasanaeth i deithio neu redeg
K6 y marciau ffordd, gwybodaeth i dwristiaid a byrfoddau tirnodau
K7 sut mae systemau llywio mewnol y cerbyd yn gweithio
Cyfathrebu â theithwyr ynghylch llwybrau
K8 pwysigrwydd hysbysu’r teithwyr am gynnydd y siwrnai ac unrhyw wyriadau o’r llwybr y cytunwyd arno yn wreiddiol
K9 y rheoliadau a’r cyfyngiadau perthnasol i’r mannau lle cewch ollwng teithwyr gan gynnwys y gwahanol gyfyngiadau parcio ar gyfer deiliaid bathodynnau glas (er enghraifft, mewn meysydd awyr neu orsafoedd trenau)
K10 pwysigrwydd ystyried unrhyw oedi posibl neu anghenion teithwyr (er enghraifft, cadw apwyntiadau ysbyty neu ddal awyren neu drên)
K11 sut i gael gafael ar y newyddion teithio sydd ar gael am waith ar y ffyrdd, amseroedd trenau, pa bryd mae awyrennau’n glanio ac yn gadael