Gwaith cyffredinol i lanhau cerbydau trafnidiaeth teithwyr
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymdrin â gwaith cyffredinol i lanhau cerbydau sy’n cludo teithwyr ffyrdd. Dylech allu glanhau cerbydau’n ddiogel fel eu bod yn edrych yn dderbyniol i deithwyr sy’n teithio yn y cerbyd.
Mae’r Safon hon yn cynnwys dwy elfen:
1. Glanhau’r cerbyd yn effeithiol
2. Cadw at arferion iechyd a diogelwch da wrth lanhau’r cerbyd
Mae’r Safon hon ar gyfer
Mae’r Safon hon ar gyfer gyrwyr a staff cynorthwyo teithwyr yn y diwydiant trafnidiaeth teithwyr ffyrdd mewn trafnidiaeth bws, coetsys a chludiant cymunedol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Glanhau’r cerbyd yn effeithiol
P1 cael y gorffeniad gorau wrth lanhau’r cerbyd
P2 glanhau’r cerbyd mewn ffordd sy’n cynnal safonau ymddangosiad
P3 gwneud defnydd effeithiol o ddeunyddiau glanhau a dulliau gweithio
P4 cyflwyno cerbyd sy’n rhoi delwedd broffesiynol o ran glanweithdra
P5 canfod a chael gwared ar sylweddau a adawyd gan deithwyr (er enghraifft, hylifau’r corff)
Cadw at arferion iechyd a diogelwch da wrth lanhau’r cerbyd
P6 glanhau’r cerbyd heb berygl i chi eich hun nac eraill
P7 defnyddio, trafod a storio sylweddau a ddefnyddir i lanhau’n gywir a diogel
P8 gwaredu sylweddau’n gywir ac mewn ffordd sy’n cydymffurfio â gofynion neu ganllawiau deddfwriaethol
P9 deall peryglon posibl sylweddau a ddefnyddir
P10 cynnal, o fewn terfynau eich gallu, archwiliad o gyfarpar trydanol a mecanyddol a ddefnyddir i lanhau’r cerbyd
P11 mabwysiadu arferion gweithio diogel
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Glanhau’r cerbyd yn effeithiol
K1 pwysigrwydd cael cerbyd glân
K2 sut i baratoi’r cerbyd ar gyfer ei lanhau
K3 y broses o gael gwared ar faw, halen a gweddillion
K4 y deunyddiau glanhau sydd ar gael ar gyfer gwahanol rannau o gorff a gorffeniadau’r cerbyd
K5 y dulliau o gael gwared ar sylweddau a adawyd gan deithwyr
K6 sut i gael y gorffeniad gorau wrth lanhau’r cerbyd
Cadw at arferion iechyd a diogelwch da wrth lanhau’r cerbyd
K7 y risgiau iechyd a diogelwch wrth lanhau cerbyd
K8 pa ddeunyddiau a sylweddau a all achosi anafiadau neu niwed i chi neu i deithwyr
K9 sut i ddileu neu leihau’r risg o anaf neu niwed
K10 pwysigrwydd hylendid personol (er enghraifft, golchi dwylo ar ôl defnyddio rhai sylweddau)
K11 sut i ddefnyddio, trafod a storio sylweddau peryglus yn ddiogel
K12 sut i ddefnyddio offer trydanol yn ddiogel
K13 arferion gweithio diogel
K14 y ffordd gymeradwy o waredu sylweddau a gwrthrychau peryglus gan gynnwys gwybodaeth am unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gorffeniad gorau
Wedi glanhau i’r safon a bennwyd gan eich sefydliad
Terfynau eich awdurdod
Y canllawiau a bennwyd gan y cwmni rydych yn gweithio iddo neu, os ydych yn hunangyflogedig, y rheolau rydych wedi’u gosod eich hun i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch perthnasol.
Wrth lanhau cerbydau efallai y bydd terfynau i awdurdod a bennwyd gan ddeddfwriaeth neu godau ymarfer ar gyfer defnyddio sylweddau a chyfarpar glanhau.