Datblygu a chynnal eich sgiliau gwaith a’ch gwybodaeth yn y diwydiannau cludiant cymunedol, chauffeur a thacsis a cherbydau hurio preifat

URN: PPLRPVD13
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau Cludo Teithwyr ar y Ffordd
Datblygwyd gan: Cogent
Cymeradwy ar: 31 Maw 2013

Trosolwg

​Mae’r Safon hon yn ymwneud â sut yr ydych yn asesu pa lefelau o gymhwysedd sydd eu hangen arnoch yn eich rôl ac i benderfynu a oes angen rhagor o hyfforddiant neu ddatblygiad arnoch i gyrraedd neu i gynnal y safonau hynny.

Mae’r Safon hon ar gyfer
Mae’r Safon hon ar gyfer y bobl hynny sy’n gweithio yn y diwydiannau Cludiant Cymunedol, Chauffeur a Thacsis a Cherbydau Hurio Preifat gan gynnwys gyrwyr a rhai mewn rolau cynorthwyo teithwyr.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 deall a meintioli eich anghenion i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen yn eich rôl
P2 cydbwyso eich anghenion eich hun ac anghenion eich sefydliad
P3 trafod a chytuno pan yn briodol â’r unigolyn priodol yn eich sefydliad sut y byddwch yn cael y datblygiad sydd ei angen arnoch, a chael adborth
P4 cyflawni gweithgareddau i ddatblygu eich sgiliau
P5 cymryd camau os yw eich cynnydd yn is na’r safon angenrheidiol
P6 canfod y prif ddarparwyr trafnidiaeth teithwyr sy’n gysylltiedig â’ch rôl


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​K1 safonau’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen yn eich rôl
K2 sut i fesur eich sgiliau cyfredol a chanfod meysydd sydd angen eu datblygu                                                                                                                       K3 unrhyw broses yn eich sefydliad sy’n galluogi trafod a chytuno ar eich cynlluniau datblygu a chael adborth
K4 sut i fonitro eich cynnydd yn erbyn eich cynlluniau datblygu
K5 bod gan rolau penodol ofynion cyfreithiol ar gyfer mathau penodol o hyfforddiant
K6 cyfansoddiad y diwydiant trafnidiaeth teithwyr ar lefel genedlaethol a lleol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gwybodaeth Ychwanegol

Tacsi   *
Mae’n cynnwys cerbydau Cerbyd Hacni trwyddedig
*
Eich sefydliad

Hwn fyddai’r cwmni rydych yn gweithio iddo (gan gynnwys gwirfoddolwyr) neu, os ydych yn hunangyflogedig, y rheolau rydych wedi’u gosod ar eich cyfer eich hun i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a thrwyddedu perthnasol


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLRPVD13

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth

Cod SOC

8213

Geiriau Allweddol

Datblygu; sgiliau; dealltwriaeth; asesu