Teithwyr trafnidiaeth yn y diwydiant cludiant cymunedol sydd â gofynion arbennig
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymdrin â chludo teithwyr sydd â gofynion arbennig ac na ellir eu symud heb gymorth ychwanegol (er enghraifft, gallant fod yn ddefnyddwyr cadair olwyn, wedi’u cyfyngu i stretsier neu droli). Dylech allu paratoi ar gyfer cludo teithwyr a symud a chludo teithwyr yn ddiogel. Dylech wybod a deall y mathau o broblemau sy’n debygol o godi, sut i ddelio â’r problemau hyn a sut i ddefnyddio unrhyw gyfarpar neu systemau arbennig y mae eu hangen ar deithwyr â gofynion arbennig.
Mae’r Safon hon yn cynnwys dwy elfen:
1. Paratoi i symud teithwyr
2. Symud a chludo teithwyr
Mae’r Safon hon ar gyfer
Mae’r safon hon ar gyfer gyrwyr cerbydau cludiant cymunedol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Paratoi i symud teithwyr
P1 gwirio bod gennych yr adnoddau i symud y teithiwr
P2 cadarnhau bod gennych y math cywir a’r nifer cywir o gyfarpar ar gyfer seddi ac i ddiogelu teithwyr a/neu gadeiriau olwyn, stretsieri neu droliau cyn cychwyn ar eich siwrnai
P3 cynnal gwiriadau diogelwch ar unrhyw gyfarpar a ddefnyddir ar gyfer seddi a
a diogelu teithwyr a/neu gadeiriau olwyn, stretsieri neu droliau cyn cychwyn ar eich siwrnai
P4 cyfathrebu’n eglur â theithwyr a, phan yn berthnasol, â’u gofalwyr
P5 egluro’n glir i’r teithiwr a, phan yn berthnasol, i’w gofalwyr, y gweithdrefnau ar gyfer eu symud
P6 trin y teithwyr ag urddas bob amser
P7 gwirio, pan yn berthnasol, bod unrhyw ddogfennau cysylltiedig angenrheidiol ar gael
P8 gwirio bod yr holl gyfarpar ar gyfer symud y teithiwr yn ddiogel ac yn gweithio’n iawn e.e. rampiau, platfform cadair olwyn
P9 cydweithredu â gofalwyr eraill pan yn berthnasol i symud y teithiwr mor ddiogel a chyfforddus â phosibl
P10 cymryd y camau priodol pan fydd problemau’n codi os ydynt yn debygol o effeithio ar sut yr ydych yn cludo eich teithwyr
P11 dilyn y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer perthnasol wrth benderfynu ar ba help i’w roi
Symud a chludo teithwyr
P12 cynorthwyo’r teithwyr a gofalwyr perthnasol i fynd i mewn i’r cerbyd ar ddechrau’r daith yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad
P13 rhoi cymorth i deithwyr yn ystod eu cludo’n unol â’u hanghenion
P14 cyfathrebu’n eglur â theithwyr a, phan yn berthnasol, â’u gofalwyr
P15 trin y teithwyr ag urddas bob amser
P16 gwneud yn siŵr bod teithwyr yn ddiogel drwy gydol yr amser pan fyddant yn cael eu symud
P17 dewis y llwybr sydd fwyaf addas i’r teithwyr
P18 cydweithredu â gofalwyr eraill pan yn berthnasol i symud y teithiwr mor ddiogel a chyfforddus â phosibl
P19 cynorthwyo teithwyr a gofalwyr perthnasol i adael y cerbyd ar ddiwedd y siwrnai
P20 gwneud yn siŵr bod teithwyr yn cael lefel briodol o gymorth ar ddiwedd y siwrnai (er enghraifft, gwneud yn siŵr bod teithwyr yn cael eu trosglwyddo i ofalwyr addas)
P21 dilyn y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer perthnasol drwy gydol y siwrnai
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Paratoi i symud teithwyr
K1 pwysigrwydd darparu help i deithwyr a, phan yn berthnasol, i’w gofalwyr
K2 gofynion y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer sy’n gysylltiedig â darparu cymorth
K3 sut i wirio bod modd symud cyfarpar cymorth y teithiwr yn ddiogel
K4 cyfyngiadau ar eich gallu a’ch cyfrifoldeb pan fyddwch yn helpu teithwyr
K5 sut i gyfathrebu â theithwyr a gofalwyr sydd angen eich help
K6 cyfle cyfartal a hawliau teithwyr anabl i deithio’n ddiogel, cyfforddus ac ag urddas
K7 sut i ddefnyddio gwahanol fathau o gyfarpar i alluogi teithwyr i eistedd yn ddiogel, yn ogystal â chadeiriau olwyn, stretsieri neu droliau
Symud a chludo teithwyr
K8 pwysigrwydd darparu help i deithwyr a, phan yn berthnasol, i’w gofalwyr
K9 sut i ymgysylltu a chymryd rhan mewn asesiad risg
K10 gofynion y ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol wrth ddarparu help
K11 sut ddeall y gwahaniaethau rhwng gofynion arbennig teithwyr
K12 amodau’r ffordd yn yr ardal lle’r ydych yn gweithio a’r effaith mae’r amodau hyn yn ei chael ar lesiant a chyfforddusrwydd teithwyr ag anableddau difrifol
K13 sut i gludo teithwyr yn ddiogel gan ddefnyddio’r cyfarpar a’r systemau arbennig sydd eu hangen ar deithwyr â gofynion arbennig
K14 sut i gyfathrebu â theithwyr a gofalwyr wrth roi help a gwneud iddynt deimlo’n gartrefol yn ystod y siwrnai
K15 cyfleoedd cyfartal a hawliau teithwyr anabl i deithio’n ddiogel, cyfforddus ac ag urddas
K16 y mathau o broblemau sy’n debygol o godi, a gwybod sut i ddelio â hwy
K17 pan fydd angen cymorth ychwanegol (er enghraifft, i drafod cyfarpar arbennig yn ddiogel)
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwybodaeth Ychwanegol
Teithiwr ag anabledd difrifol
Teithiwr na ellir ei symud heb gymorth sylweddol, er enghraifft: gall y teithiwr fod yn ddefnyddiwr cadair olwyn; wedi’u cyfyngu i stretsier neu droli
Eich sefydliad
Hwn fyddai’r cwmni rydych yn gweithio iddo (gan gynnwys gwirfoddolwyr) neu, os ydych yn hunangyflogedig, y rheolau rydych wedi’u gosod ar eich cyfer eich hun i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a thrwyddedu perthnasol