Gweithredu gwasanaeth cludiant cymunedol
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymwneud â gweithredu gwasanaethau a systemau teithwyr. Dylech allu casglu’r wybodaeth fydd ei hangen arnoch i redeg y gwasanaeth, rheoli systemau cyfforddusrwydd teithwyr lle maent wedi’u gosod a gweithredu’r gwasanaeth yn gywir. Dylech wybod a deall sut mae gweithredu unrhyw wasanaethau teithwyr sydd wedi’u gosod ar eich cerbyd. Mae cyfathrebu â theithwyr yn rhan bwysig o’r Safon hon.
Mae’r Safon hon yn cynnwys tair elfen:
1. Paratoi i weithredu’r gwasanaeth
2. Rheoli systemau cyfforddusrwydd teithwyr yn y cerbyd
3. Gweithredu’r gwasanaeth
Mae’r Safon hon ar gyfer
Mae’r safon hon ar gyfer gyrwyr cerbydau cludiant cymunedol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Paratoi i weithredu’r gwasanaeth
P1 cychwyn eich dyletswyddau ar yr amser iawn ac yn y lle cywir
P2 cael gwybodaeth am lwybrau ac amserlenni, gan gynnwys gwybodaeth am amodau anffafriol, a chadarnhau ei bod yn gywir
P3 delio, ymlaen llaw, ag unrhyw anawsterau y gellir eu rhagweld o ran gweithredu’r gwasanaeth
P4 cadarnhau bod y systemau gwybodaeth i deithwyr yn dangos manylion cywir am y gwasanaeth pan fydd hynny’n gymwys
P5 cael cyngor ar lwybrau amgen gan yr unigolyn priodol os yw’r llwybrau a’r amserlenni a gynlluniwyd wedi eu heffeithio
P6 rhoi gwybod i deithwyr ar unwaith os yw’r gwasanaeth yn mynd i gael ei effeithio neu ei newid yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
Rheoli systemau cyfforddusrwydd teithwyr yn y cerbyd
P7 cadarnhau bod y systemau cyfforddusrwydd teithwyr yn gweithio yn y modd cymeradwy cyn dechrau rhedeg y gwasanaeth
P8 gweithredu’r systemau cyfforddusrwydd teithwyr yn unol â’r cyfarwyddiadau gweithredu a’r canllawiau cymeradwy
P9 gweithredu’r systemau cyfforddusrwydd mewn ffordd sy’n ateb gofynion y teithwyr a’u haddasu mewn ffordd sy’n ystyried yr amodau ar y pryd
P10 delio ag unrhyw broblemau sy’n gysylltiedig â gweithredu’r systemau cyfforddusrwydd teithwyr yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
Gweithredu’r gwasanaeth
P11 Gweithredu’r gwasanaeth ar yr amser cywir
P12 cadw at yr amserlenni i’r graddau sy’n bosibl o dan yr amgylchiadau ar y pryd
P13 cael diweddariadau a fydd yn eich helpu i weithredu’r gwasanaeth
P14 cael cyngor ar opsiynau amgen ar gyfer y gwasanaeth gan yr unigolyn priodol pan fydd angen
P15 rhoi manylion prydlon a chwrtais i deithwyr am unrhyw amhariad, oedi neu newidiadau i’ch sefydliad yn unol â chanllawiau eich sefydliad, a defnyddio dogfennau mewnol pan fydd angen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Paratoi i weithredu’r gwasanaeth
K1 sut mae cael yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch i redeg y gwasanaeth, a chadarnhau ei bod yn gyflawn, fel gwybodaeth am y tywydd neu’r amodau ar y ffyrdd, damweiniau, cerbydau wedi torri neu ddargyfeiriadau
K2 ffynonellau gwybodaeth sydd eu hangen i redeg y gwasanaeth, fel rhestrau dyletswyddau, hysbysfyrddau, cydweithwyr, gweithredwyr eraill a defnyddwyr gwasanaeth
K3 pam ei bod yn bwysig i gadw at y llwybr a’r amserlenni swyddogol
K4 gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer newid llwybrau neu amserlenni
K5 sut i asesu unrhyw anawsterau posibl wrth redeg y gwasanaeth
K6 sut i gyfathrebu â theithwyr pryd a pham mae angen i chi newid y llwybr
K7 sut i weithredu systemau gwybodaeth i deithwyr pan yn gymwys
Rheoli’r systemau cyfforddusrwydd teithwyr ar y cerbyd
K8 gwybod sut i reoli systemau cyfforddusrwydd teithwyr er mwyn eich teithwyr, gan gynnwys, y goleuo, aerdymheru, systemau sain, gwres ac awyru
K9 y canllawiau cymeradwy ar gyfer gweithredu systemau cyfforddusrwydd teithwyr
K10 sut i gyfathrebu â’ch teithwyr mewn ffordd gyfeillgar a chymwynasgar
K11 gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer delio â phroblemau gweithredol yn gysylltiedig â systemau cyfforddusrwydd teithwyr
Gweithredu’r gwasanaeth
K12 gwybod lle a sut mae cael gwybodaeth a allai effeithio’n negyddol ar y gwasanaeth, gan gynnwys diweddariadau gan gydweithwyr, newyddion traffig, adroddiadau tywydd, gweithredwyr eraill a defnyddwyr gwasanaeth
K13 gwybod sut i ddiweddaru teithwyr â gwybodaeth berthnasol am y gwasanaeth
K14 hybu gwasanaeth i gwsmeriaid ac ewyllys da
K15 gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer newidiadau i wasanaethau a gynlluniwyd
K16 sut i ddefnyddio ffurflenni a dogfennau mewnol eich gwasanaeth**
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwybodaeth Ychwanegol
Eich sefydliad
Hwn fyddai’r cwmni rydych yn gweithio iddo (gan gynnwys gwirfoddolwyr) neu, os ydych yn hunangyflogedig, y rheolau rydych wedi’u gosod ar eich cyfer eich hun i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a thrwyddedu perthnasol
Systemau cyfforddusrwydd teithwyr
Mae hyn yn cynnwys y goleuo, aerdymheru, systemau sain, gwresogi ac awyru sydd yn rhan o’r cerbyd.