Darparu gwasanaeth cludo yn y diwydiant cludiant cymunedol i deithwyr sydd angen cymorth
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymwneud â darparu gwasanaeth cludiant i deithwyr sydd angen cymorth. Gall y rhain gynnwys rhieni â phlant, yr henoed, a chleifion ag anawsterau corfforol, meddyliol a synhwyraidd. Dylech allu adnabod teithwyr sydd angen cymorth, paratoi ar gyfer a darparu cymorth o’r fath yn ôl yr angen. Dylech wybod a deall y ffyrdd priodol o gynnig cymorth a sut i ddefnyddio cyfarpar a all fod ei angen i ddarparu cymorth o’r fath. Dylech wybod a deall beth sydd wedi’i gynnwys mewn asesiad risg teithiwr a pha bryd y dylid cynnal asesiad risg newydd.
1. Deall pa bryd fydd angen cymorth ar deithwyr a darparu’r cymorth hwnnw
2. Paratoi ar gyfer siwrneiau gyda theithwyr sydd angen cymorth
3. Darparu’r gwasanaeth i deithwyr sydd angen cymorth
Mae’r Safon hon ar gyfer**
Mae’r safon hon ar gyfer gyrwyr cerbydau cludiant cymunedol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Deall pa bryd fydd angen cymorth ar deithwyr a darparu cymorth priodol
P1 deall pan fydd angen cymorth ar rywun
P2 gofyn mewn ffordd briodol, a oes angen help ar yr unigolyn
P3 gofyn pa help sydd ei angen arnynt
P4 cynnig cymorth ar unwaith ac mewn ffordd sy’n gwrtais a sensitif ac sy’n parchu urddas teithwyr
P5 penderfynu ar ba gymorth sydd ei angen, ac y dylai fod o fewn eich gallu a’ch cyfrifoldeb, ac sydd wedi’i gynnwys yn yr asesiad risg
P6 asesu a fydd y cymorth sydd ei angen yn achosi unrhyw risg i chi neu i eraill
P7 cymryd camau priodol os na allwch ddarparu’r cymorth sydd ei angen
P8 cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer perthnasol wrth benderfynu ar y cymorth y byddwch yn ei roi
P9 cydnabod hynny os na fydd yr unigolyn yn dymuno cael help
*
*
Paratoi ar gyfer siwrneiau gyda theithwyr sydd angen cymorth
P10 gwneud yn siŵr bod manylion perthnasol am gyrchfannau, llwybrau, amseroedd ac unrhyw wybodaeth arbennig am eich teithwyr yn gyflawn
P11 cadarnhau bod y trefniadau cadw seddi ar gyfer eich siwrneiau yn gywir
P12 cadarnhau bod gennych y math a’r nifer cywir o gyfarpar ar gyfer seddi ac i sicrhau teithwyr yn ddiogel a/neu gadeiriau olwyn cyn cychwyn ar eich taith a chynnal y gwiriadau diogelwch cymeradwy
P13 rhoi gwybod am unrhyw ddiffygion ar eich cerbyd neu ei gyfarpar yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad
P14 cadarnhau bod yr holl ddogfennau sy’n gysylltiedig â’ch siwrneiau yn gywir ac yn cydymffurfio â gofynion y sefydliad
Darparu’r gwasanaeth i deithwyr sydd angen cymorth
P15 cadw at yr amserlenni i’r graddau mae’r amodau yn ei ganiatáu
P16 parcio’r cerbyd mewn ffordd sy’n gwarchod diogelwch y teithwyr wrth iddynt fynd i mewn ac allan ohono
P17 helpu teithwyr i mewn ac allan o’r cerbyd yn unol â’r ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer perthnasol
P18 defnyddio lifftiau a chyfarpar teithwyr yn unol â chyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchwyr ar gyfer eu defnyddio ac â gweithdrefnau eich sefydliad
P19 gwneud yn siŵr bod y gwregysau diogelwch yn cael eu defnyddio’n gywir yn eich cerbyd
P20 delio â thaliadau’n unol â gweithdrefnau cymeradwy
P21 gyrru’r cerbyd mewn ffordd sy’n gwneud yn siŵr bod eich teithwyr yn ddiogel a chyfforddus
P22 cymryd camau priodol yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad os na fydd unrhyw deithwyr yn y man casglu y cytunwyd arno
P23 cymryd camau priodol yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad os na allwch gadw at yr amseroedd neu’r mannau casglu y cytunwyd arnynt
P24 sicrhau llesiant teithwyr ar ôl iddynt adael y cerbyd ar ddiwedd eu siwrnai
P25 cwblhau’r holl ddogfennau angenrheidiol sy’n gysylltiedig â’r siwrneiau a’u trosglwyddo i’r unigolyn priodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Deall pa bryd fydd angen cymorth ar deithwyr a darparu cymorth priodol
K1 gwybod sut mae deall a rhyngweithio â theithwyr a all fod angen cymorth K2 pwysigrwydd darparu cymorth i deithwyr pan fydd ei angen
K3 gofynion y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer perthnasol wrth ddarparu cymorth
K4 cyfyngiadau eich gallu a’ch cyfrifoldebau wrth ddarparu cymorth i deithwyr
K5 gwybod sut mae asesu risgiau i chi eich hun ac i bobl eraill
K6 sut i gyfathrebu â theithwyr a all fod angen eich help
K7 cyfleoedd cyfartal a hawliau teithwyr ag anableddau i deithio’n ddiogel a chyfforddus
K8 sut mae gwneud yn siŵr bod teithwyr yn ddiogel a chyfforddus
Paratoi ar gyfer siwrneiau gyda theithwyr sydd angen cymorth
K9 pwysigrwydd cael manylion perthnasol am y teithwyr rydych yn eu cludo, fel gwybodaeth benodol am eu gofynion neu unrhyw wybodaeth a fydd yn ychwanegu at ddiogelwch a chyfforddusrwydd y teithwyr
K10 pwysigrwydd cael y manylion perthnasol am y siwrnai gan gynnwys cynllun seddi, cyrchfannau, llwybrau ac amseroedd
K11 y gofynion cyfreithiol perthnasol a’r codau ymarfer perthnasol, ar gyfer cludo teithwyr sy’n defnyddio cadeiriau olwyn
K12 sut mae defnyddio gwahanol fathau o gyfarpar ar gyfer seddi a sut mae diogelu teithwyr a chadeiriau olwyn i sicrhau eu diogelwch
K13 sut i gynnal archwiliadau diogelwch cymeradwy ar gyfarpar ar seddi ac i ddiogelu teithwyr a chadeiriau olwyn
K14 rhannau perthnasol o’r Ddeddf Cydraddoldeb a’r codau ymarfer, a sut maent yn gymwys i rôl y gyrrwr wrth gludo teithwyr
Darparu’r gwasanaeth i deithwyr sydd angen cymorth
K15 dulliau priodol o gynnig a rhoi help i deithwyr
K16 peryglon a risgiau parcio amhriodol wrth godi a gollwng teithwyr
K17 cyfleoedd cyfartal a hawliau teithwyr ag anableddau i deithio’n ddiogel a chyfforddus
K18 gofynion a phwysigrwydd defnyddio lifftiau a chyfarpar teithwyr yn gywir
K19 y ddeddfwriaeth berthnasol sy’n gysylltiedig â defnyddio gwregysau diogelwch
K20 y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer perthnasol sy’n gysylltiedig â darparu cymorth
K21 gweithdrefnau cymeradwy ar gyfer delio â chyfarpar diogelwch teithwyr sy’n
ddiffygiol
K22 y camau y gallwch eu cymryd i ddelio â sefyllfaoedd lle na allwch gadw at amserlenni, neu os nad yw teithwyr yn y mannau codi a drefnwyd
K23 rhannau perthnasol o’r Ddeddf Cydraddoldeb a sut mae’r Ddeddf yn gymwys i rôl y gyrrwr wrth gludo teithwyr
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwybodaeth Ychwanegol
Eich sefydliad
Hwn fyddai’r cwmni rydych yn gweithio iddo (gan gynnwys gwirfoddolwyr) neu, os ydych yn hunangyflogedig, y rheolau rydych wedi’u gosod ar eich cyfer eich hun i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a thrwyddedu perthnasol