Gyrru cerbydau cludiant cymunedol yn ddiogel ac effeithlon
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymdrin â gyrru eich cerbyd yn ddiogel ac effeithlon. Dylech allu paratoi i yrru eich cerbyd, gyrru’r cerbyd gan ystyried cyfforddusrwydd a diogelwch y teithwyr ac amodau gyrru cyffredinol. Dylech wybod a deall y ddeddfwriaeth gyfredol berthnasol sy’n ymwneud â’r cerbyd a gyrru eich cerbyd. Dylech allu codi a gollwng teithwyr yn ddiogel. Dylech wybod a deall pwysigrwydd parcio a throsglwyddo eich cerbyd yn unol â’ch gweithdrefnau eich hun, neu weithdrefnau eich sefydliad.
Mae’r Safon hon yn cynnwys pedair elfen:
1.    Paratoi’r cerbyd i’w yrru  
2.    Gyrru’r cerbyd  
3.    Codi a gollwng teithwyr   
4.    Cwblhau eich dyletswyddau gyrru   
Mae’r Safon hon ar gyfer  
Mae’r safon hon ar gyfer gyrwyr yn y diwydiant cludiant cymunedol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Paratoi i yrru’r cerbyd
P1 gwneud yn siŵr eich bod yn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol a meddygol i yrru’r cerbyd  
P2 gwneud yn siŵr eich bod yn meddu ar y trwyddedau gyrru cyfredol a dilys priodol i yrru’r cerbyd ac i ddarparu’r gwasanaeth   
P3 gwneud yn siŵr bod dogfennau’r cerbyd yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth gyfredol  
P4 cael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch o ran cychwyn ar eich dyletswydd a chadarnhau ei bod yn gyflawn   
P5 cynnal gwiriadau cyffredinol ar y cerbyd cyn ei yrru gan gynnwys systemau cyfforddusrwydd y teithwyr yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad  
P6 rhoi gwybod am namau neu broblemau â’r cerbyd yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad   
P7 gwneud yn siŵr bod y cerbyd yn addas i’w yrru   
P8 gwneud yn siŵr eich bod yn gallu cludo teithwyr yn ddiogel (er enghraifft, plant) yn unol â’r rheoliadau perthnasol  
Gyrru’r cerbyd  
  
P9 defnyddio gwregys diogelwch y gyrrwr yn gywir  
P10 cynnal gwiriadau gweledol o amgylch y cerbyd fel y gallwch wneud penderfyniad ar yr amgylchedd yn union o’ch cwmpas  
P11 cychwyn y cerbyd gan ystyried defnyddwyr eraill y ffordd a’ch teithwyr   
P12 gyrru eich cerbyd mewn ffordd na fydd yn peryglu defnyddwyr eraill y ffordd  
P13 ymateb i weithredoedd eraill defnyddwyr y ffordd y gellir eu rhagweld mewn ffordd ddiogel a chwrtais  
P14 rhoi arwyddion amserol ac eglur os ydych yn bwriadu newid cyfeiriad neu leoliad eich cerbyd  
P15 cynnal cyflymder eich cerbyd mewn ffordd na fydd yn peryglu defnyddwyr eraill mewn ffordd fel sy’n briodol i amodau’r ffordd a’r traffig ar y pryd  
P16 cadw’r teithwyr yn gyfforddus wrth yrru’r cerbyd  
P17 cydymffurfio â’r holl ofynion cyfreithiol a’r codau ymarfer perthnasol sy’n ymwneud â gyrru cerbydau sy’n cludo teithwyr yn ddiogel ac effeithlon   
*  
*
*  
*
*  
*
Codi a gollwng teithwyr   
  
P18 gwneud yn siŵr eich bod chi a’ch teithwyr yn defnyddio gwregysau diogelwch yn gywir   
P19 aros yn y mannau a drefnwyd pan fydd hynny’n ymarferol ac yn bosibl  
P20 cadw ar y rheoliadau, yr arwyddion a’r cyfarwyddiadau sy’n ymwneud â stopio ac aros   
P21 cadw diogelwch a chyfforddusrwydd teithwyr, cerddwyr a defnyddwyr eraill y ffordd mewn cof  
P22 osgoi sefyllfaoedd peryglus posibl a achosir gan gerbydau eraill a rhwystrau   
P23 codi a gollwng teithwyr mewn ffordd sy’n dangos eich bod yn gyfeillgar a chymwynasgar, gan gynnwys storio unrhyw fagiau ac ati fel sy’n briodol  
P24 ystyried anghenion teithwyr wrth eu codi a’u gollwng   
P25 cydnabod pan na fydd yn briodol i godi teithwyr a chyfleu’r wybodaeth hon mewn ffordd sy’n dangos eich bod yn gyfeillgar a chymwynasgar  
P26 cadw ar y ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r codau ymarfer perthnasol sy’n ymwneud â chludo teithwyr   
P27 cadw cofnod o fanylion siwrneiau fel sy’n angenrheidiol  
P28 chwilio am a delio ag eiddo sydd wedi’i golli, gan gynnwys pecynnau amheus, yn unol â gweithdrefn eich sefydliad   
Cwblhau eich dyletswyddau gyrru
P29 parcio neu drosglwyddo’r cerbyd yn unol â gweithdrefn eich sefydliad   
P30 gadael caban y cerbyd yn lân a heb eiddo personol   
P31 archwilio, a rhoi gwybod am unrhyw ddifrod, diffygion ar y cerbyd yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad   
P32 trefnu bod y cerbyd yn cael ei lanhau, ei lenwi â thanwydd neu ei wasanaethu’n unol â gweithdrefnau eich sefydliad   
P33 cwblhau’r holl ddogfennau sy’n gysylltiedig â’ch dyletswydd yn eglur a phrydlon a’u ffeilio neu eu cyflwyno’n briodol ac yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad 
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Paratoi i yrru’r cerbyd
K1 y ddeddfwriaeth gyfredol sy’n ymwneud â’ch ffitrwydd meddygol i yrru cerbydau sy’n cludo teithwyr  
K2 pwysigrwydd bod yn ffit yn gorfforol a meddyliol   
K3 effeithiau alcohol, cyffuriau neu unrhyw sylweddau sy’n debygol o effeithio ar eich ymddygiad   
K4 effeithiau blinder a straen a phwysigrwydd cyfnodau o orffwys  
(gan gynnwys pan fydd tacograff yn cael ei ddefnyddio)  
K5 y gofynion trwyddedu gyrwyr cyfredol ar gyfer y cerbydau sy’n cael eu gyrru gennych   
K6 y ddeddfwriaeth gyfredol ynglŷn â pha ddogfennau cerbydau sydd eu hangen arnoch   
K7 gofynion gwirio’r cerbyd cyn ei yrru (er enghraifft, tanwydd, olew, dŵr, difrod, systemau trydanol, teiars, stydiau olwynion, sychwyr ffenestri a chyfarpar diogelwch)  
K8 gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer rhoi gwybod am ddiffygion neu broblemau   
K9 y ddeddfwriaeth genedlaethol a lleol berthnasol, is-ddeddfau ac arferion cyfredol sy’n ymwneud â’r gwasanaeth  
K10 y rheoliadau perthnasol ar gyfer cludo cleifion   
K11 pwerau’r awdurdodau rheoleiddio   
Gyrru’r cerbyd
K12 y ddeddfwriaeth berthnasol sy’n ymwneud â’r defnydd o wregysau diogelwch  
K13 pam mae’n bwysig i ystyried eich teithwyr wrth yrru  
K14 gwybod sut mae gwneud yn siŵr bod teithwyr yn gyfforddus a diogel bob amser (er enghraifft, osgoi brecio’n gyflym)  
K15 gwybod sut mae eich ffordd o yrru’n effeithio ar ddefnyddwyr eraill y ffordd  
K16 gwybod sut mae addasu eich ffordd o yrru ar gyfer gwahanol amodau ar y ffordd a thraffig, sy’n cynnwys gwelededd da neu wael, ffyrdd gwlyb, sych neu lithrig, coed neu adeiladau isel, traffig trwm a cherbydau cyflym   
K17 gwybod sut mae eich ffordd o yrru’n effeithio ar ba mor effeithlon mae’r cerbyd yn rhedeg (er enghraifft, faint o danwydd sy’n cael ei ddefnyddio) a sut mae hynny’n cyfrannu at warchod yr amgylchedd   
K18 gofynion cyfreithiau a chodau ymarfer perthnasol sy’n ymwneud â gyrru, yn enwedig gyrru cerbydau sy’n cludo teithwyr, gan gynnwys, cyflymder, safle, arwyddion, parcio, bagio ac ystyried gyrwyr eraill   
K19 nodweddion technegol a gweithredu’r rheolaethau diogelwch a sut mae eu defnyddio i reoli’r cerbyd, lleihau traul a’u hatal rhag methu â gweithio   
Codi a gollwng teithwyr
K20 y ddeddfwriaeth gyfredol sy’n ymwneud â defnyddio gwregysau diogelwch   
K21 eich dyletswydd gyfreithiol i ofalu am eich teithwyr   
K22 y ddeddfwriaeth a’r rheoliadau perthnasol sy’n ymwneud â stopio ac aros ar y briffordd  
K23 y ddeddfwriaeth a’r rheoliadau perthnasol sy’n ymwneud â chludo teithwyr   
K24 sut i adnabod ac addasu ar gyfer sefyllfaoedd a all fod yn beryglus sy’n gysylltiedig â symud ymlaen neu stopio  
K25 sut mae delio â phroblemau posibl mewn sefyllfaoedd lle na allwch dderbyn teithwyr   
K26 sut mae llenwi’r cerbyd gan ystyried rheolau a rheoliadau diogelwch sy’n ymwneud â defnyddio’r cerbyd yn gywir   
K27 y gyfraith sy’n ymwneud â chyfyngiadau parcio os oes gan deithwyr fathodyn glas  
K28 gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer delio ag eiddo a gollwyd, gan gynnwys pecynnau amheus
Cwblhau eich dyletswyddau gyrru
K29 gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer parcio a/neu drosglwyddo eich cerbyd  
K30 archwilio, a rhoi gwybod am unrhyw ddifrod, diffygion ar y cerbyd  
K31 trefnu bod y cerbyd yn cael ei lanhau, ei lenwi â thanwydd a’i wasanaethu                                                                                                                      K32 gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cwblhau, ffeilio neu gyflwyno’r dogfennau sy’n gysylltiedig â gorffen eich dyletswyddau, gan gynnwys siartiau tacograff, os oes un wedi’i osod   
**
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwybodaeth ychwanegol   
**
  
**
Eich sefydliad
*  
* **
Hwn fyddai'r cwmni rydych yn gweithio iddo (gan gynnwys gwirfoddolwyr) neu, os ydych yn hunangyflogedig, y rheolau rydych wedi'u gosod ar eich cyfer eich hun i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a thrwyddedu perthnasol.