Gyrru cerbydau sydd yn cludo teithwyr ar deithiau rhyngwladol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gyrru cerbydau sydd yn cludo teithwyr ar deithiau rhyngwladol. Dylech fod yn gallu sicrhau bod gennych y dogfennau cerbyd a phersonol perthnasol cyn ymadael. Dylech wybod a deall deddfwriaeth berthnasol gyfredol yn y wlad lle'r ydych yn mynd i fod yn gyrru.
Dylid defnyddio'r safon hon ar y cyd â'r safonau eraill yn y gyfres sydd yn cynnwys y cymwyseddau sy'n ofynnol cyn ymadael, yn ystod taith ac yn cynnwys bagiau ac eitemau eraill sy'n cael eu cludo. Mae'r safon hon yn rhoi sgiliau a gwybodaeth ychwanegol sydd yn uniongyrchol berthnasol i deithiau rhyngwladol.
Mae'r safon hon ar gyfer gyrwyr a gweithredwyr trafnidiaeth
Pan fyddwch wedi cwblhau'r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth a'ch gallu i:
Yrru cerbydau sydd yn cludo teithwyr ar deithiau rhyngwladol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sicrhau bod gennych y dogfennau perthnasol ar gyfer y gwledydd yr ydych yn teithio drwyddynt ac iddynt
- sicrhau bod y cerbyd sydd yn cludo teithwyr yn cydymffurfio â'r gofynion ar gyfer gweithredu yn y gwledydd yr ydych yn teithio drwyddynt ac iddynt
- cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth a'r rheoliadau perthnasol sydd yn llywodraethu'r defnydd o gerbydau sydd yn cludo teithwyr ym mhob gwlad y byddwch yn ymweld â hi ar eich taith ryngwladol
- cydymffurfio â'r holl ofynion cyfreithiol a'r codau ymarfer perthnasol sy'n ymwneud â gyrru cerbydau sydd yn cludo teithwyr yn cynnwys gwisgo gwregys
- cydnabod awdurdod y swyddog (neu'r swyddogion) sydd yn gofyn i chi aros wrth ffin
- sicrhau bod y camau a gymerir yn cydymffurfio â gofynion statudol y wlad honno a'u bod o fewn canllawiau eich sefydliad
- cynnal morâl a bodlonrwydd teithwyr yn unol â rheoliadau perthnasol a chanllawiau eich sefydliad wrth groesi ffiniau
- cael arweiniad gan y person priodol mewn sefyllfaoedd y tu hwnt i derfynau eich awdurdod eich hun
- cynnal a phrosesu cofnodion cywir y sefyllfa yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- deddfwriaeth gyfredol, berthnasol yn y wlad lle'r ydych yn gyrru sy'n ymwneud â'ch addasrwydd meddygol i yrru cerbydau sydd yn cludo teithwyr y mae'n rhaid cydymffurfio â nhw ar deithiau rhyngwladol
- deddfwriaeth trwyddedu gyrwyr cyfredol, perthnasol yn y wlad lle'r ydych yn gyrru sy'n ymwneud â cherbydau'n cael eu gyrru ar deithiau rhyngwladol
- deddfwriaeth gyfredol, berthnasol yn y wlad lle'r ydych yn gyrru sy'n ymwneud â'r dogfennau cerbyd sydd eu hangen
- gofynion cyfreithiau a chodau ymarfer perthnasol sy'n ymwneud â gyrru, yn arbennig cerbydau sydd yn cludo teithwyr yn y wlad lle'r ydych yn gyrru yn cynnwys gwisgo gwregys
- arwyddion ffordd a systemau ffordd fawr y gwledydd perthnasol yn ymwneud ag aros ar y ffordd fawr yn y wlad lle'r ydych yn gyrru
- y ddeddfwriaeth a'r rheoliadau lleol yn ymwneud â chludo teithwyr yn y wlad lle'r ydych yn gyrru
- y ddeddfwriaeth leol berthnasol yn cwmpasu gweithredoedd gan yr heddlu a gwarchodwyr ffin yn y wlad lle'r ydych yn gyrru
- pa bryd, sut a ble y dylid galw am help pan fo angen