Gweithredu gwasanaeth bws neu goets ysgol

URN: PPLPCVD17
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau sy’n Cludo Teithwyr (Bws a Choets)
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 30 Maw 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â gweithredu gwasanaeth bws neu goets ysgol. Dylech fod yn gallu hysbysu'r ysgol, naill ai'n uniongyrchol neu drwy eich ystafell reoli, os yw amserlenni'n newid neu'n cael eu hamharu. Dylech wybod a deall y ddeddfwriaeth a'r rheoliadau perthnasol yn ymwneud â phlant a phobl ifanc.

Mae'r safon hon ar gyfer gyrwyr a gweithredwyr trafnidiaeth

Pan fyddwch wedi cwblhau'r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth a'ch gallu i:

Weithredu gwasanaeth bws neu goets ysgol


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​cyrraedd eich sifft ar yr amser cywir yn y man cywir
  2. cael gwybodaeth am lwybrau ac amserlenni, yn cynnwys gwybodaeth am dywydd gwael neu amodau ffyrdd gwael, a chadarnhau ei bod yn gyflawn
  3. cael cyngor am deithiau amgen gan y person priodol os yw llwybrau ac amserlenni a gynlluniwyd wedi eu heffeithio
  4. dweud wrth eich cwmni a/neu'r ysgol(ion) perthnasol yn brydlon, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad ynghylch unrhyw amhariad neu newid i lwybrau neu amserlenni a gynlluniwyd
  5. cadarnhau bod y wybodaeth i deithwyr yn rhoi manylion cywir y daith a gynlluniwyd
  6. trefnu arosfannau a gynlluniwyd yn unol â gofynion y contract lle y bo'n ymarferol ac yn bosibl
  7. cydymffurfio â'r rheoliadau, yr arwyddion a'r cyfarwyddiadau ynglŷn â stopio ac aros
  8. ystyried diogelwch a chysur plant ysgol, cerddwyr a defnyddwyr eraill y ffordd
  9. osgoi sefyllfaoedd a allai fod yn beryglus a achosir gan gerbydau a rhwystrau eraill tra'n gweithredu'r gwasanaeth ysgol
  10. casglu a gollwng plant ysgol mewn ffordd sydd yn hybu diogelwch a delwedd broffesiynol y sefydliad
  11. sicrhau bod y gwiriadau gofynnol ar gyfer plant ysgol ar y bws neu goets yn cael eu cynnal ar ddiwedd y daith
  12. cydymffurfio â deddfwriaeth, rheoliadau a chodau ymarfer cyfredol yn ymwneud â chludo plant ysgol yn cynnwys gwisgo gwregys
  13. cwblhau cofnodion o fanylion teithiau fel y bo angen
  14. ymateb i blant ysgol sydd yn eich hysbysu ynghylch digwyddiadau annisgwyl mewn ffordd broffesiynol.
  15. dilyn canllawiau eich sefydliad mewn achosion o anafiadau neu salwch
  16. gwneud trefniadau i'r cerbyd gael ei barcio'n ddiogel, os nad yw'n ddiogel parhau i yrru, yn unol â chanllawiau cymeradwy eich sefydliad
  17. gweithredu o fewn gweithdrefnau eich sefydliad i leihau unrhyw anghyfleustra neu bryder i blant ysgol, yn arbennig os bydd angen eu trosglwyddo ar eu taith
  18. hysbysu'r person priodol neu'r gyrchfan os yw'n hysbys y gallai eich gwasanaethau chi neu wasanaethau eraill gael eu heffeithio gan y digwyddiad
  19. cael cymorth gan y person priodol os nad ydych yn gallu rheoli'r digwyddiad yn effeithiol
  20. ymateb yn gadarnhaol ac yn gadarn i ymddygiad annerbyniol gan blant ysgol ar y daith
  21. adrodd ynghylch unrhyw ddigwyddiadau yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i gael ac asesu'r wybodaeth angenrheidiol yn ymwneud â llwybrau ac amserlenni
  2. pam y mae'n bwysig cadw at lwybrau ac amserlenni a gynlluniwyd
  3. y gweithdrefnau cymeradwy ar gyfer newid llwybrau neu amserlenni
  4. sut i gyfathrebu i ysgolion, y cyngor/awdurdod tendro a phlant ysgol pan fydd angen i chi wneud newidiadau i deithiau a gynlluniwyd
  5. y ddeddfwriaeth a'r rheoliadau perthnasol yn ymwneud ag aros ar y ffordd fawr
  6. y ddeddfwriaeth a'r rheoliadau perthnasol yn ymwneud â chludo plant ysgol yn cynnwys gwiriadau cefndirol priodol, gweithdrefnau diogelwch a gwisgo gwregys
  7. sut i adnabod ac addasu i sefyllfaoedd a allai fod yn beryglus yn ymwneud â symud i ffwrdd neu aros
  8. pam y mae'n rhaid rheoli digwyddiadau yn ystod taith yn effeithiol, yn arbennig er mwyn sicrhau plant ysgol
  9. sut i asesu ac ystyried yr opsiynau o fewn gallu a chyfrifoldeb penodol wrth reoli digwyddiadau yn ystod taith
  10. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer rheoli anafiadau neu salwch, a digwyddiadau lle nad yw'n ddiogel parhau i yrru, a throsglwyddo plant ysgol
  11. gofynion eich sefydliad ar gyfer cludo plant yn ddiogel ar eu pen eu hunain
  12. sut i roi tawelwch meddwl i blant ysgol a lleihau eu pryderon yn unol â therfynau gweithredol a gweithdrefnau eich sefydliad
  13. cyfyngiadau eich awdurdod wrth reoli plant ysgol sy'n ymddwyn mewn ffordd annerbyniol
  14. sut i adrodd yn gywir ynghylch digwyddiadau yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad a pham y mae hyn yn bwysig

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLPCVD17

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth

Cod SOC


Geiriau Allweddol

gwasanaeth ysgol; deddfwriaeth; rheoliadau; digwyddiadau