Cludo eitemau ar eu pen eu hunain
URN: PPLPCVD16
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau sy’n Cludo Teithwyr (Bws a Choets)
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar:
30 Maw 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chludo eitemau ar eu pen eu hunain ar fws neu goets. Dylech fod yn gallu llwytho eitemau'n ddiogel, ac osgoi niwed tra'n dadlwytho eitemau. Dylech wybod a deall y gweithdrefnau ar gyfer ymdrin ag eitemau heb eu hawlio ac eitemau amheus.
Mae'r safon hon ar gyfer gyrwyr a gweithredwyr trafnidiaeth
Pan fyddwch wedi cwblhau'r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth a'ch gallu i:
Gludo eitemau ar eu pen eu hunain
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cadarnhau bod labeli'r eitemau'n bodloni'r safon angenrheidiol (er enghraifft, bod labeli
fragile' a
right way up' yn bodoli) cyn eu derbyn i gael eu cludo ar fws neu goets - hysbysu cwsmeriaid mewn ffordd gwrtais a defnyddiol pan na ellir derbyn eitemau i gael eu cludo ar fws neu goets
- hysbysu cwsmeriaid am eitemau sydd wedi eu niweidio neu'n peri problem, cyn eu llwytho
- llwytho eitemau ar y bws neu'r goets gan ddefnyddio dulliau ac arferion diogel eich sefydliad
- cadarnhau bod y ffordd y mae eitemau'n cael eu cludo ar fws neu goets yn cadw at y rheoliadau perthnasol
- cadarnhau bod yr eitemau sydd wedi eu gosod y tu mewn i'r bws neu goets yn ddiogel ar gyfer eu cludo ar eu pen eu hunain
- osgoi niweidio eitemau wrth eu dadlwytho o'r bws neu goets
- dadlwytho eitemau o'r bws neu goets gan ddefnyddio dulliau ac arferion diogel eich sefydliad, yn cynnwys defnyddio offer yn gywir
- gwneud cais am gymorth gan eraill os oes angen
- cadarnhau bod pob eitem yn cael ei rhoi i'r person cywir
- cael derbynneb ar gyfer eitemau os oes angen, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- dosbarthu a diogelu'r eitemau sy'n weddill yn unol ag ymarfer diogel
- cadarnhau bod y bws neu'r goets a'r ardal uniongyrchol yn glir rhag eitemau i gael eu dadlwytho ac sy'n aros i gael eu trosglwyddo
- chwilio am a phrosesu eitemau heb eu hawlio yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- cysylltu â pherchennog eitemau heb eu hawlio neu unrhyw berson sydd â hawl i dderbyn yr eiddo os oes manylion cyswllt ar gael
- cwblhau cofnodion sy'n ymwneud ag eitemau heb eu hawlio, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- ymdrin ag eitemau amheus yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad, yn cynnwys sicrhau eich bod chi a phobl eraill yn ddiogel
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer codi ac ymdrin ag eitemau yn ofalus
- gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer mynd i'r afael ag eitemau sydd wedi eu niweidio neu sy'n peri problemau
- yr arferion diogel perthnasol ar gyfer llwytho eitemau ar gerbydau
- yr arferion diogel perthnasol ar gyfer dosbarthu eitemau
- y rheoliadau sy'n ymwneud â chludo eitemau wedi eu cyfyngu neu eitemau peryglus
- gweithdrefnau gofal cwsmeriaid eich sefydliad ar gyfer prosesu eitemau
- eich cyfrifoldebau eich hun ar gyfer cludo eitemau a'u diogelwch yn cynnwys pwysau'r cerbyd a pham na ddylai cyfanswm pwysau'r cerbyd a'i lwyth fod yn fwy na chyfanswm pwysau gros y cerbyd
- yr arferion diogel perthnasol ar gyfer dadlwytho eitemau o gerbydau, yn cynnwys defnyddio offer
- gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer prosesu eitemau sydd wedi cael eu niweidio tra'n cael eu cludo ar eu pen eu hunain
- yr arferion diogel perthnasol ar gyfer dosbarthu eitemau
- canllawiau eich sefydliad ar gyfer gwneud cais am gymorth gan eraill wrth gludo eitemau
- eich cyfrifoldebau eich hun ar gyfer llwytho'r cerbyd yn gywir a'i ddiogelwch
- gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer ymdrin ag eitemau heb eu hawlio, yn cynnwys eitemau amheus
- gweithdrefnau gofal cwsmeriaid eich sefydliad yn ymwneud ag eiddo heb ei hawlio neu eiddo coll
- sut i ddiogelu pobl os caiff eitem amheus ei chanfod
- rheoliadau eich sefydliad ar eiddo coll
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
29 Ebr 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
People 1st
URN gwreiddiol
PPLPCVD16
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth
Cod SOC
Geiriau Allweddol
parseli; llwyth; dadlwytho; pecynnau amheus