Darparu gwasanaeth trafnidiaeth i deithwyr ag anghenion ychwanegol neu ofynion penodol
URN: PPLPCVD14
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau sy’n Cludo Teithwyr (Bws a Choets)
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar:
2017
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â darparu gwasanaeth trafnidiaeth i deithwyr ag anghenion ychwanegol neu ofynion penodol ar daith wedi ei harchebu ymlaen llaw. Dylech fod yn gallu helpu teithwyr ymlaen ac oddi ar y cerbyd o fewn deddfwriaeth berthnasol, yn cynnwys yr hyn sy’n rheoli cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Mae’r safon hon ar gyfer gyrwyr a gweithredwyr trafnidiaeth.
Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth a’ch gallu i:
Ddarparu gwasanaeth trafnidiaeth i deithwyr ag anghenion ychwanegol neu ofynion penodol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sicrhau bod manylion cyrchfannau, llwybrau, amseru a gwybodaeth yn ymwneud ag anghenion ychwanegol a gofynion penodol teithwyr yn gyflawn ac ar fformat eich sefydliad
- cadarnhau bod cynlluniau eistedd cerbydau ar gyfer teithiau yn gywir
- cadarnhau bod y math a'r niferoedd cywir o offer ar gyfer eistedd a diogelu teithwyr a chadeiriau olwyn cyn dechrau teithiau
- cynnal gwiriadau diogelwch ar offer yn unol â chyfarwyddiadau'r cynhyrchydd a gweithdrefnau eich sefydliad
- cadw at amserlenni cyhyd â bod yr amodau'n caniatáu hynny wrth ddarparu'r gwasanaeth trafnidiaeth
- cynorthwyo teithwyr ar y cerbyd ac oddi arno yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol, a chyda chwrteisi a pharch
- defnyddio lifftiau ac offer teithwyr yn unol â gweithdrefnau cymeradwy
- dilyn gweithdrefnau eich sefydliad os nad yw unrhyw deithiwr yn eu man casglu cytûn
- dilyn gweithdrefnau eich sefydliad os na ellir cadw at yr amserau a gynlluniwyd ar gyfer casglu
- cwblhau'r cofnodion angenrheidiol yn ymwneud â theithiau yn unol â gofynion eich sefydliad
- ymateb yn brydlon ac yn effeithiol i deithwyr sydd yn eich hysbysu ynghylch digwyddiadau annisgwyl
- cymryd camau priodol os yw teithiwr wedi ei anafu neu'n sâl, yn unol â chanllawiau eich sefydliad
- gwneud trefniadau ar gyfer parcio'r cerbyd yn ddiogel os nad yw'n ddiogel i barhau i yrru, yn unol â chanllawiau eich sefydliad
- lleihau anghyfleustra neu bryder i deithwyr cyhyd â phosibl, yn arbennig os oes angen trosglwyddo teithwyr
- ymdrin â phroblemau archebu a chadw cerbyd yn unol â chanllawiau cymeradwy eich sefydliad
- hysbysu'r person priodol os gallai gwasanaethau eraill gael eu heffeithio gan y digwyddiad
- cael cymorth gan y person priodol os na ellir ymdrin â'r digwyddiad yn effeithiol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwysigrwydd cael manylion cywir a pherthnasol y teithwyr sy'n cael eu cludo
- y gofynion cyfreithiol a'r codau ymarfer perthnasol ar gyfer cludo teithwyr sy'n defnyddio cadeiriau olwyn
- y rhesymau dros a'r defnydd o fathau gwahanol o offer ar gyfer eistedd a diogelu teithwyr a chadeiriau olwyn cyn darparu gwasanaeth trafnidiaeth
- sut i gynnal gwiriadau diogelwch cymeradwy ar offer ar gyfer eistedd a diogelu teithwyr a chadeiriau olwyn
- y rhannau perthnasol o'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth a sut y mae hyn yn berthnasol i rôl y gyrrwr wrth gludo teithwyr
- dulliau priodol o gynnig a rhoi cymorth i deithwyr ag anghenion ychwanegol neu ofynion penodol
- hawliau teithwyr ag anghenion ychwanegol neu ofynion penodol i deithio'n ddiogel ac yn gyfforddus yn unol â rheoliadau cydraddoldeb ac amrywiaeth
- gofynion a phwysigrwydd defnyddio lifftiau ac offer teithwyr
- gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer mynd i'r afael ag offer diogelwch teithwyr diffygiol
- pa gamau y gellir eu cymryd i ymdrin â sefyllfaoedd lle na ellir bodloni amserlenni neu os nad yw teithwyr yn y mannau casglu cytûn
- y rhannau perthnasol o'r ddeddfwriaeth gysylltiedig bresennol a sut y mae'r ddeddf yn gymwys i rôl y gyrrwr yn cludo teithwyr ag anghenion ychwanegol neu ofynion penodol
- yr angen i ymdrin yn brydlon ac yn effeithiol â digwyddiadau yn ystod taith, yn arbennig i sicrhau teithwyr
- sut i asesu ac ystyried yr opsiynau o fewn gallu a chyfrifoldeb penodol wrth ymdrin â digwyddiadau yn ystod taith
- gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer ymdrin ag anafiadau neu salwch teithwyr, digwyddiadau lle nad yw'n ddiogel parhau i yrru, a throsglwyddo teithwyr
- y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer ymdrin â phlant sydd yn teithio ar eu pen eu hunain
- sut i dawelu meddwl teithwyr a lleihau eu pryderon os oes digwyddiad neu ansicrwydd
- y rhannau perthnasol o'r ddeddfwriaeth yn ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth a'r ffordd y mae hyn yn berthnasol i rôl y gyrrwr wrth gludo teithwyr
- y mathau o gyfathrebu llafar ac nad yw'n llafar
- sut i gadarnhau bod teithwyr yn deall gwybodaeth a dehongli arwyddion (llafar a rhai nad ydynt yn llafar) oddi wrthynt
- ble i gael cymorth i ymdrin ag anawsterau cyfathrebu
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
People 1st
URN gwreiddiol
PPLPCVD14
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth
Cod SOC
Geiriau Allweddol
teithwyr; anghenion ychwanegol; cerbyd; teithiau