Rheoli trafodion ariannol ar deithiau coets

URN: PPLPCVD13
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau sy’n Cludo Teithwyr (Bws a Choets)
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 30 Maw 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli unrhyw drafodion ariannol y mae'n ofynnol eu gwneud ar deithiau coets ar gyfer gwasanaethau neu gynnyrch ychwanegol fel rhan o'r daith.

Mae'r safon hon ar gyfer gyrwyr a gweithredwyr trafnidiaeth

Pan fyddwch wedi cwblhau'r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth a'ch gallu i:

Reoli trafodion ariannol ar deithiau coets


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​cadarnhau y bydd y blaendaliadau'n cael eu derbyn ac y bydd yn talu am yr hyn sydd ei angen ar y daith goets ryngwladol
  2. cadarnhau bod y symiau a dderbyniwyd yn cyd-fynd â'r cofnodion trosglwyddo
  3. sicrhau cydymffurfio â threfniadau arbennig cytûn wrth gynnig symiau i gyflenwyr ac eraill lle y bo'n briodol
  4. gwneud taliadau yn unol â'r symiau sy'n ddyledus yn unig
  5. rheoli trafodion ariannol gan gadarnhau bod holl ddogfennau eich sefydliad yn gyflawn, yn gywir ac wedi eu diweddaru
  6. cadw dogfennau'n ymwneud â thrafodion ariannol yn ddiogel
  7. cyflwyno'r holl ddogfennau sydd eu hangen fel tystiolaeth o wariant yn ôl cais y gweithredwr/sefydliad, yn cynnwys derbynebion TAW neu dreth lleol am bryniannau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​pam y mae angen blaendaliadau ar deithiau coets rhyngwladol
  2. sut i wirio ceisiadau am daliad a chanfod y symiau sy'n ddyledus
  3. y dogfennau perthnasol (yn cynnwys cofnodion sieciau, bonion a mân arian) a sut i'w llenwi
  4. y gweithdrefnau cyfrinachedd perthnasol ar gyfer gwybodaeth ariannol
  5. y gweithdrefnau diogelwch priodol ar gyfer taliadau
  6. pa ddogfennau y mae angen eu cyflwyno yn cynnwys derbynebion gwerthiannau wrth yrru dramor a rheoli trafodion ariannol
  7. pwysigrwydd cadw a chyflwyno dogfennau cywir yn ôl cais y gweithredwr, yn cynnwys derbynebion TAW neu dreth lleol ar gyfer pryniannau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLPCVD13

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth

Cod SOC


Geiriau Allweddol

coets; ariannol; trafodion; diogeledd; taliadau; arian parod