Prosesu prisiau, taliadau, tocynnau a theithrestrau

URN: PPLPCVD12
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gyrru Cerbydau sy’n Cludo Teithwyr (Bws a Choets)
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2017

Trosolwg

​Mae’r safon hon yn ymwneud â phrosesu prisiau a thaliadau, cyhoeddi tocynnau neu deithrestrau a gallu wedyn cydgrynhoi’r taliadau a dderbyniwyd i’r ffigurau disgwyliedig. Dylech fod yn gallu derbyn a chadarnhau taliadau.  Dylech wybod a deall polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad yn ymwneud â thaliadau consesiynol a diogelwch wrth ymdrin â phrisiau.

Mae’r safon hon ar gyfer gyrwyr a gweithredwyr trafnidiaeth.

Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth a’ch gallu i:

Brosesu prisiau, taliadau, tocynnau a theithrestrau


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​cwblhau cyfrifiadau ar gyfer prisiau a thaliadau yn gywir yn unol â chanllawiau eich sefydliad
  2. hysbysu teithwyr yn glir beth yw cyfanswm y pris a'r dulliau talu priodol mewn ffordd sydd yn hybu dealltwriaeth ac yn cynnal safonau eich gwasanaeth
  3. derbyn a chydnabod taliadau gan deithwyr yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad a mathau o daliadau a dderbynnir
  4. cadarnhau bod y symiau a delir yn gywir a nodi unrhyw broblemau a mynd i'r afael â nhw
  5. rhoi'r newid cywir i deithwyr, gyda thocyn neu deithrestr ddilys a/neu dderbynneb os oes angen
  6. storio'r holl daliadau ym man cymeradwy eich sefydliad
  7. cadarnhau bod yr offer sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer prosesu tocynnau neu deithrestrau mewn cyflwr gweithredol
  8. dilyn gweithdrefnau brys tocynnau / teithrestrau os oes nam ar yr offer
  9. cyhoeddi tocynnau neu deithrestrau, a chadarnhau bod tocynnau a phasys rhagdaledig yn ddilys ar gyfer y daith
  10. cydnabod a hysbysu pan fydd tocynnau, teithrestrau neu basys wedi cael eu camddefnyddio a phan nad yw teithwyr wedi talu'r pris, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  11. dilyn unrhyw gynlluniau prisiau consesiynol yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  12. talu'r arian a'r talebau yr ydych wedi eu casglu yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  13. rhoi cyfrif am beidio talu, camgymeriadau ar docynnau a phasys a dynnwyd yn ôl yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  14. adnabod pan fydd teithiwr yn agored i niwed ac angen cymorth neu addasiadau i'w taith a'r pris
  15. cwblhau gwiriadau diogelwch fel y bo angen gan eich sefydliad er mwyn sicrhau eich bod yn ddiogel cyn bod arian yn cael ei symud
  16. cyfateb yn gywir yr arian a gasglwyd â'r data perthnasol a'u cofnodi yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  17. adnabod ac ymchwilio i anghysondebau rhwng y taliadau a dderbyniwyd a'r refeniw disgwyliedig
  18. rhoi gwybodaeth ychwanegol yn ymwneud â phrisiau, taliadau a theithwyr pan fo angen, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer prosesu prisiau a thaliadau, a sut i'w dilyn
  2. yr angen i roi gwybodaeth gywir i deithwyr am brisiau a thaliadau
  3. y ffyrdd gwahanol o dalu, fel arian parod, sieciau, cardiau talu, cardiau debyd a chardiau credyd, tocynnau, cardiau rhagdaledig a digyswllt, yn cynnwys taliadau symudol, pasys a thrwyddedau
  4. eich awdurdod eich hun ar gyfer ymdrin â phroblemau'n ymwneud â thalu prisiau
  5. y gofynion diogelwch ar gyfer storio taliadau
  6. rheoliadau a pholisïau yn ymwneud â phrisiau consesiynol
  7. sut i weithredu'r offer ar gyfer prosesu prisiau a thaliadau
  8. sut i ddilyn gweithdrefnau brys tocynnau / teithrestrau
  9. polisïau a gweithdrefnau gofal cwsmeriaid eich sefydliad
  10. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer adegau pan fydd tocynnau, teithrestrau neu basys wedi cael eu camddefnyddio
  11. rheoliadau a pholisïau perthnasol yn ymwneud â phrisiau consesiynol
  12. gweithdrefnau ar gyfer rhoi cyfrif am werthiannau tocynnau neu deithrestrau a thalebau
  13. pwysigrwydd, a sut i gwblhau, gwiriadau diogeledd a diogelwch personol
  14. gweithdrefnau'r sefydliad i wirio'r arian a dderbyniwyd, yn arbennig mewn perthynas â phroblemau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLPCVD12

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth

Cod SOC


Geiriau Allweddol

prisiau; tocynnau; taliadau; diogeledd