Trafod a chytuno ar hynt teithiau
URN: PPLPCVD11
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau sy’n Cludo Teithwyr (Bws a Choets)
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar:
30 Maw 2017
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â thrafod a chytuno ar hynt teithiau. Mae’n cynnwys cyfathrebu gyda chleientiaid, cyflenwyr a phobl eraill. Dylech allu trafod a chytuno ar brif nodweddion taith a chytuno ar y prif lwybrau a’r amserau. Dylech wybod a deall y ffactorau logistaidd sydd yn gysylltiedig â llwybrau ac amserau teithiau.
Mae’r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd yn gyrru bysus a choetsis.
Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth a’ch gallu i:
Drafod a chytuno ar hynt teithiau gyda chleientiaid
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- trafod a chytuno ar brif nodweddion hynt teithiau cleientiaid yn cynnwys unrhyw ofynion arbennig
- cadarnhau y gellir bodloni gofynion cytûn
- nodi a chael y cydweithrediad angenrheidiol, os o gwbl, gan eraill sy'n gysylltiedig â'r daith
- nodi faint o gyfrifoldeb ac awdurdod sydd gennych mewn perthynas â'r daith
- trafod a chytuno ar drefniadau adrodd priodol rhyngoch chi a'r cleient
- cadarnhau hynt y daith gyda'r cleient yn ysgrifenedig neu ar fformat arall fel y bo angen
- cadw unrhyw drafodaethau a chytundeb yn ymwneud â hynt y daith yn gyfrinachol
- cadarnhau bod llwybr ac amseru'r teithiau yn realistig ac yn briodol i'r cleient, ac y gellir eu gweithredu o fewn y gofynion cyfreithiol perthnasol, yn cynnwys oriau gyrwyr
- cadarnhau bod cydweithrediad gan drydydd partïon wedi ei gael lle bo angen
- ystyried yr arhosiadau angenrheidiol a'r digwyddiadau posibl ar y llwybrau a'r amserau
- cytuno ar yr hyn yr ydych yn gyfrifol amdano ac ag awdurdod i'w wneud mewn perthynas â'r llwybrau a'r amserau
- cyflwyno manylion hynt teithiau ar fformat sy'n briodol i unrhyw un a allai ei dderbyn
- cadarnhau'r llwybrau a'r amserau gyda'r cleient yn ysgrifenedig neu ar fformat arall fel y bo angen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- nodweddion grwpiau cleientiaid gwahanol mewn perthynas â'u gofynion ar y daith
- sut i gyfathrebu a thrafod gyda phobl eraill yn effeithiol
- terfynau eich awdurdod, eich gallu a'ch cyfrifoldeb chi wrth drafod a chytuno ar deithiau
- sut i wneud nodweddion y daith i gyd-fynd â gofynion cleientiaid
- trefniant gwasanaethau ac adnoddau sydd yn gysylltiedig â theithiau
- y trefniadau contract amrywiol rhwng cwmnïau teithio a chwsmeriaid teithiau
- nodweddion grwpiau cleientiaid gwahanol mewn perthynas â gofynion eu taith
- cyfyngiadau eich awdurdod, eich gallu a'ch cyfrifoldeb eich hun wrth drafod a chytuno ar lwybrau ac amserau
- cyfyngiadau eich awdurdod, eich gallu a'ch cyfrifoldeb chi wrth wyro o'r llwybr neu'r amserlen a gynlluniwyd
- sut i wneud i lwybrau ac amserau teithiau gyd-fynd â gofynion cleientiaid
- y ffactorau logisteg sydd yn gysylltiedig â llwybrau ac amserau teithiau a'r goblygiadau a allai godi os bydd y logisteg yn newid cyn neu yn ystod taith
- ffynonellau gwybodaeth hynt teithiau, fel llety, gwasanaethau ac atyniadau
- sefyllfaoedd posibl a allai olygu bod yn rhaid newid trefniadau'r daith
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
29 Ebr 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
People 1st
URN gwreiddiol
PPLPCVD11
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth
Cod SOC
Geiriau Allweddol
hynt teithiau; cleientiaid; trafod; taith; coets; amserau