Ymdrin â digwyddiadau sy’n effeithio ar deithwyr yn ystod taith
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â sicrhau iechyd a diogelwch yn eich amgylchedd gwaith ac ymdrin â digwyddiadau ac argyfyngau a allai effeithio ar deithwyr yn ystod taith. Dylech fod yn gallu adnabod peryglon y gallech ddod ar eu traws tra’ch bod yn y gwaith, asesu’r peryglon, a chyfyngu’r perygl i chi eich hun ac i eraill a niwed i’r eiddo. Dylech wybod a deall beth yw’r peryglon, sut i’w cofnodi a pha gamau y mae gennych awdurdod i’w cymryd i gyfyngu’r perygl. Dylech allu adnabod yr angen am, a chymryd camau priodol i ymdrin â digwyddiadau ac argyfyngau sy’n effeithio ar deithwyr o fewn cyfyngiadau eich cyfrifoldeb.
Mae’r safon hon ar gyfer gyrwyr a gweithredwyr trafnidiaeth.
Pan fyddwch wedi cwblhau’r safon hon byddwch yn gallu arddangos eich dealltwriaeth a’ch gallu i:
Ymdrin â digwyddiadau sy’n effeithio ar deithwyr yn ystod taith
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- ymateb yn brydlon ac yn effeithiol i deithwyr pan fydd digwyddiad annisgwyl yn digwydd yn ystod taith
- cymryd camau priodol os yw teithiwr yn cael ei anafu neu'n mynd yn sâl yn unol â chanllawiau eich sefydliad
- gwneud trefniadau ar gyfer parcio'r cerbyd yn ddiogel os nad yw'n bosibl parhau i yrru, yn unol â chanllawiau eich sefydliad
- yn ystod digwyddiad, lleihau, cyhyd â phosibl unrhyw anghyfleustra neu bryder i deithwyr, yn arbennig os oes angen trosglwyddo teithwyr
- ymdrin â phroblemau archebu neu gadw cerbyd a theithwyr, yn unol â chanllawiau'r sefydliad
- hysbysu'r person priodol os gallai'r gwasanaethau gael eu heffeithio gan y digwyddiad
- cael cymorth gan y person priodol os na ellir ymdrin â'r digwyddiad yn effeithiol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofyniad i fynd i'r afael â digwyddiadau yn brydlon ac yn effeithiol yn ystod taith, yn arbennig i sicrhau teithwyr
- sut i asesu ac ystyried yr opsiynau o fewn eich gallu a'ch cyfrifoldeb wrth ymdrin â digwyddiadau yn ystod taith
- gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer mynd i'r afael ag anafiadau neu salwch teithwyr a digwyddiadau pan na ellir parhau i yrru'r cerbyd, ac mae angen trosglwyddo teithwyr
- gofynion eich sefydliad mewn perthynas â phlant sy'n teithio ar eu pen eu hunain
- sut i dawelu meddwl teithwyr a lleihau eu pryderon yn ystod digwyddiad