Gweithredu’r systemau a’r gwasanaeth teithwyr
URN: PPLPCVD09
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau sy’n Cludo Teithwyr (Bws a Choets)
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar:
2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gweithredu'r systemau a'r gwasanaeth teithwyr.
Dylech fod yn gallu cael gwybodaeth ar eich llwybr a'ch amserlenni, a rhedeg eich gwasanaeth ar amser cyhyd â phosibl. Dylech wybod a deall y ddeddfwriaeth a'r rheoliadau perthnasol ar gyfer cludo teithwyr.
Mae'r safon hon ar gyfer gyrwyr a gweithredwyr trafnidiaeth a staff gweithrediadau trafnidiaeth a staff cynnal a chadw.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth a'ch gallu i:
Weithredu'r systemau a'r gwasanaeth teithwyr
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau bod systemau esmwythder teithwyr wedi eu cymeradwyo i fod yn gweithio cyn dechrau gweithredu'r gwasanaeth
- gweithredu'r systemau esmwythder teithwyr yn unol â chyfarwyddiadau gweithredu a chanllawiau cymeradwy i gyd-fynd ag anghenion teithwyr a'u haddasu i ystyried amodau newidiol
- lle y bo'n briodol, dweud wrth y teithwyr am reolyddion y systemau esmwythder y gallant eu defnyddio
- ymdrin ag unrhyw broblemau yn gweithredu systemau esmwythder teithwyr yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- gweithredu'r gwasanaeth ar yr amser cywir
- cadw at yr amserlenni cyhyd ag y mae tywydd ac amodau ar y ffordd yn caniatáu
- cael gwybodaeth wedi ei diweddaru fydd o gymorth i chi weithredu'r gwasanaeth
- cael cyngor ar ddewisiadau amgen i'r gwasanaeth gan y person priodol pan fo angen
- rhoi manylion unrhyw amhariad, oedi neu newidiadau i deithwyr yn brydlon ac yn gwrtais
- rhoi manylion unrhyw amhariad, oedi neu newidiadau i'ch sefydliad yn unol â chanllawiau cymeradwy, a defnyddio dogfennau mewnol lle bo angen
- aros yn unol â'r amserlen lle bo hynny'n ymarferol ac yn bosibl
- cydymffurfio â rheoliadau, arwyddion a chyfeiriadau perthnasol yn ymwneud ag aros
- ystyried diogelwch ac esmwythder teithwyr, cerddwyr a defnyddwyr eraill y ffordd
- osgoi sefyllfaoedd a allai fod yn beryglus sy'n cael eu hachosi gan gerbydau eraill a rhwystrau
- codi a gollwng teithwyr mewn ffordd sydd yn hybu gwasanaeth cwsmeriaid da, yn cynnwys adegau pan na fyddwch yn gallu derbyn teithwyr am unrhyw reswm
- cadw at ddeddfwriaeth, rheoliadau a chodau ymarfer presennol yn ymwneud â chludo teithwyr
- cofnodi manylion teithiau fel y bo angen trwy ddefnyddio offer cyhoeddi tocynnau a/neu deithrestrau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i gyfathrebu i deithwyr pryd a pham y mae'n rhaid gwneud newidiadau i'r llwybr
- sut i weithredu systemau gwybodaeth i deithwyr
- sut i reoli systemau esmwythder teithwyr er budd teithwyr
- canllawiau eich sefydliad a'r cynhyrchydd ar gyfer gweithredu systemau esmwythder teithwyr
- y gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â phroblemau gweithredol gyda systemau esmwythder teithwyr
- ble a sut i gael gwybodaeth a allai effeithio ar y gwasanaeth, yn cynnwys diweddariadau
- sut i gynnal gofal cwsmeriaid a gwasanaeth cwsmeriaid da
- gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer newid gwasanaethau wedi eu cynllunio
- sut i ddefnyddio ffurflenni a dogfennau mewnol eich sefydliad
- y ddeddfwriaeth a'r rheoliadau perthnasol yn ymwneud ag aros ar y ffordd fawr
- y ddeddfwriaeth a'r rheoliadau perthnasol yn ymwneud â chludo teithwyr
- sut i adnabod ac addasu i sefyllfaoedd a allai fod yn beryglus sy'n ymwneud â symud i ffwrdd neu aros
- sut i fynd i'r afael â phroblemau posibl mewn sefyllfaoedd lle na ellir derbyn teithwyr
- gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer ymdrin â chŵyn i ddechrau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
People 1st
URN gwreiddiol
PPLPCVD09
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth
Cod SOC
Geiriau Allweddol
systemau; gwasanaeth; llwybr; amserlenni; teithiwr; bws; coets