Gyrru cerbydau sydd yn cludo teithwyr yn ddiogel ac yn effeithlon

URN: PPLPCVD08
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau sy’n Cludo Teithwyr (Bws a Choets)
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 30 Maw 2017

Trosolwg

​Mae'r uned hon yn ymwneud â'r ffordd yr ydych yn gyrru eich cerbyd.  Dylech fod yn gallu gyrru eich cerbyd yn effeithlon ac yn ddiogel, gan sicrhau bod eich teithwyr yn gyfforddus ac yn ddiogel.

Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd yn gyrru bysus neu goetsis

Pan fyddwch wedi cwblhau'r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth a'ch gallu i:

Yrru cerbydau sydd yn cludo teithwyr yn ddiogel ac yn effeithlon


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​symud i ffwrdd pan mae'n ddiogel, tra'n ystyried defnyddwyr eraill y ffordd, yn cynnwys cerbydau mawr, defnyddwyr y ffordd sy'n agored i niwed, fel beicwyr a cherddwyr, a'ch teithwyr eich hun
  2. ymateb i gamau a ragwelir gan ddefnyddwyr eraill y ffordd yn ddiogel ac yn gwrtais yn cynnwys cerbydau mawr a defnyddwyr y ffordd sy'n agored i niwed, fel beicwyr neu gerddwyr
  3. rhoi arwyddion amserol a chlir os bwriedir newid cyfeiriad neu newid safle'r cerbyd
  4. gwirio'n weledol o amgylch y cerbyd er mwyn penderfynu ar ddiogelwch yr amgylchedd uniongyrchol
  5. gyrru'r cerbyd mewn ffordd nad yw'n rhoi defnyddwyr eraill y ffordd mewn perygl, yn cynnwys cerbydau mawr a defnyddwyr y ffordd sy'n agored i niwed, fel beicwyr neu gerddwyr
  6. cynnal cyflymder a safle'r cerbyd mewn ffordd sy'n briodol i amodau presennol y ffordd a'r traffig
  7. bodloni'r holl ofynion cyfreithiol a'r codau ymarfer perthnasol sy'n ymwneud â gyrru cerbydau sydd yn cludo teithwyr yn ddiogel ac yn effeithlon
  8. tynnu i mewn yn agos ac yn gyfochrog â'r palmant i aros lle mae hynny wedi ei drefnu lle y bo'n ymarferol ac yn bosibl
  9. cadw at reoliadau, arwyddion a chyfeiriadau perthnasol yn ymwneud â stopio ac aros
  10. ystyried diogelwch ac esmwythdra teithwyr, cerddwyr a defnyddwyr eraill y ffordd
  11. osgoi sefyllfaoedd a allai fod yn beryglus a achosir gan gerddwyr, cerbydau eraill a rhwystrau
  12. casglu a gollwng teithwyr mewn ffordd sydd yn hybu gwasanaeth cwsmeriaid da, yn cynnwys adegau pan nad yw'n bosibl derbyn teithwyr am unrhyw reswm
  13. cadw at ddeddfwriaeth, rheoliadau a chodau ymarfer cyfredol yn ymwneud â chludo teithwyr
  14. cofnodi manylion teithiau fel y bo'n ofynnol gan eich sefydliad
  15. parcio neu drosglwyddo'r cerbyd yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  16. gadael caban y gyrrwr mewn cyflwr glân ac yn rhydd rhag peryglon
  17. chwilio am eiddo coll ac ymdrin â nhw, yn cynnwys pecynnau amheus, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  18. archwilio am niwed neu ddiffygion i'r cerbyd a hysbysu yn eu cylch yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  19. cyflwyno'r cerbyd i gael ei lanhau, ei lenwi â thanwydd neu ei wasanaethu yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
  20. cwblhau'r holl gofnodion yn ymwneud â'r sifft yn brydlon

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i gadarnhau bod y dogfennau perthnasol mewn trefn ac wedi eu harddangos, fel: cofrestriad, trwyddedau gweithredwyr ac addasrwydd y cerbyd
  2. gofynion gwiriadau 'defnydd cyntaf' y cerbyd fel y bo'n berthnasol fel: tanwydd, olew, dŵr, niwed, systemau trydanol, teiars, stydiau olwynion, sychwyr ac offer diogelwch
  3. gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer hysbysu ynghylch diffygion neu broblemau
  4. pam y mae'n bwysig gyrru'r cerbyd mewn ffordd sy'n ystyried esmwythdra a diogelwch y teithwyr ac eraill yn cynnwys y defnydd cywir o ofod ar y ffordd
  5. sut mae arddull gyrru'n effeithio ar ba mor effeithlon, diogel a chyfforddus y mae'r cerbyd yn rhedeg
  6. sut i addasu arddull gyrru i amodau gwahanol y ffordd fel: gwelededd da neu wael, arwynebeddau ffordd gwlyb, sych neu arall a choed sydd yn hongian drosodd neu adeiladau
  7. sut i addasu arddull gyrru i amodau traffig gwahanol fel traffig trwm, cerbydau araf neu gyflym
  8. gofynion cyfreithiau a chodau ymarfer perthnasol yn ymwneud â gyrru yn cynnwys: cyflymder, safle, arwyddion ac ystyried defnyddwyr eraill y ffordd
  9. sut y gall y defnydd o gers effeithio ar berfformiad ac effeithlonrwydd y cerbyd
  10. sut i gyfuno'r defnydd o'r brêc a'r gerflwch i yrru'n ddiogel, yn llyfn ac yn effeithlon gan leihau traul i'r eithaf yn ogystal ag effeithlonrwydd tanwydd effeithiol a phryderon amgylcheddol
  11. y ddeddfwriaeth a'r rheoliadau perthnasol yn ymwneud ag aros ar y ffordd fawr
  12. y ddeddfwriaeth a'r rheoliadau perthnasol yn ymwneud â chludo teithwyr
  13. sut i adnabod ac addasu i sefyllfaoedd a allai fod yn beryglus yn ymwneud â symud i ffwrdd neu aros
  14. sut i addasu arddull gyrru i gyd-fynd â theithwyr gwahanol, yn arbennig wrth symud i ffwrdd neu aros
  15. sut i ymdrin â phroblemau posibl mewn sefyllfaoedd lle na ellir derbyn teithwyr
  16. yr effaith y bydd amrywiad parhaus yn nifer y teithwyr a'u dosbarthiad ar draws y cerbyd yn ei gael ar berfformiad ac ymdrin
  17. sut y gall y ffordd y mae bagiau'n cael eu llwytho effeithio ar nodweddion ymdrin â'r cerbyd a gwybod y terfynau llwytho ar echelau yn ôl y gyfraith
  18. y gweithdrefnau ar gyfer parcio a throsglwyddo’r cerbyd
  19. sut i archwilio am, a hysbysu ynghylch, niwed a diffygion i gerbydau
  20. y gweithdrefnau cymeradwy ar gyfer cyflwyno cerbydau i gael eu llenwi â thanwydd, eu glanhau a’u gwasanaethu
  21. sut i lenwi’r dogfennau sy’n ymwneud â dod â dyletswyddau i ben, yn cynnwys siartiau tacograff llaw/digidol os ydynt wedi eu gosod
  22. pam y mae’n bwysig gallu rhagweld camau tebygol defnyddwyr eraill y ffordd yn cynnwys cerbydau mwy a defnyddwyr y ffordd sy’n agored i niwed

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gwiriadau defnydd cyntaf

Y gwiriadau y mae’n rhaid eu cynnal cyn i fws/coets wneud taith gyntaf y dydd.

Cysylltiadau i Gyfarwyddiaethau’r UE

Mae’r gofynion gwybodaeth a dealltwriaeth yn yr uned hon yn ymwneud ag amcanion canlynol Cyfarwyddeb yr UE ar gyfer Hyfforddiant Gyrwyr:

Amcan 1.1 – Gwybod nodweddion y system drawsyrru er mwyn gwneud y defnydd gorau posibl ohoni
Amcan 1.2 – Gwybod nodweddion technegol a gweithredu’r rheolyddion diogelwch er mwyn rheoli’r cerbyd, lleihau traul ac atal camweithredu
Amcan 1.3 – Gallu i gynyddu’r defnydd o danwydd
Amcan 1.5 - Gallu i sicrhau cysur a diogelwch eich teithwyr
Amcan 1.6 – Gallu i lwytho’r cerbyd gyda sylw dyledus i reolau diogelwch a defnydd cywir o’r cerbyd
Amcan 3.4 – Ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gallu corfforol a meddyliol

Dylai sefydliadau sy’n defnyddio’r safon hon sicrhau eu bod yn defnyddio’r gofynion rheoliadol mwyaf diweddar os caiff y cyfarwyddebau a enwir eu disodli.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLPCVD08

Galwedigaethau Perthnasol

Cludo Gyrwyr a Gweithredwyr, Gweithrediadau cludo a chynnal a chadw

Cod SOC


Geiriau Allweddol

gyrru; cerbyd; teithiwr; diogelwch; bws; coets