Cael a rhannu gwybodaeth am weithredu’r gwasanaeth bws a choets
URN: PPLPCVD07
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau sy’n Cludo Teithwyr (Bws a Choets)
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar:
30 Maw 2017
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rhannu gwybodaeth am weithredu'r gwasanaeth. Dylech fod yn gallu cael a rhannu gwybodaeth. Dylech wybod a deall gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gweithredu'r gwasanaeth bws neu goets.
Mae'r safon hon ar gyfer gyrwyr a gweithredwyr trafnidiaeth a staff gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth a'ch gallu i:
Gael a rhannu gwybodaeth ar weithredu'r gwasanaeth bws a choets
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael yr holl wybodaeth sydd ei hangen i ddechrau'r sifft a chadarnhau ei bod wedi ei chyflawni
- sicrhau bod unrhyw ddyfeisiadau/offer symudol a ddefnyddir i rannu gwybodaeth yn gweithio cyn y daith a'u bod ond yn cael eu defnyddio yn unol â chanllawiau cyfreithiol a sefydliadol
- defnyddio dulliau cymeradwy'r sefydliad i gael gwybodaeth neu gyngor yn ystod y daith
- gweithredu ar wybodaeth a dderbynnir yn ystod y daith yn unol â gweithdrefnau cymeradwy eich sefydliad
- cwblhau'r dogfennau angenrheidiol yn ymwneud â chynnal y gwasanaeth, yn cynnwys hysbysu ynghylch digwyddiadau
- rhannu gwybodaeth gyda phobl berthnasol, yn cynnwys y sifft nesaf, sy'n effeithio ar y gwasanaeth bws a choets, gan sicrhau ei fod yn gyflawn ac yn gywir
- trosglwyddo cyfrifoldeb am y cerbyd i'r person awdurdodedig yn unol â gweithdrefnau cymeradwy
- chwilio am a phrosesu eiddo coll, yn cynnwys pecynnau amheus, yn unol â gweithdrefnau cymeradwy'r sefydliad
- archwilio a hysbysu ynghylch niwed neu ddiffygion i'r cerbyd yn unol â gweithdrefnau cymeradwy eich sefydliad
- gwirio nad oes unrhyw deithwyr yn bresennol cyn trosglwyddo cyfrifoldeb i'r sifft nesaf
- cyflwyno'r cerbyd i gael ei lanhau, ei lenwi â thanwydd neu ei wasanaethu yn unol â gweithdrefnau cymeradwy eich sefydliad
- cwblhau'r holl gofnodion yn ymwneud â'r sifft yn brydlon ac yn gywir
- canfod a chofnodi manylion y sifft nesaf yn unol â gweithdrefnau cymeradwy eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pam y mae'n rhaid rhannu gwybodaeth gyflawn a chywir cyn ac ar ôl sifftiau
- sut i gadarnhau bod dyfeisiadau/offer symudol yn gweithio'n iawn, os cânt eu defnyddio a'r canllawiau cyfreithiol a sefydliadol perthnasol yn ymwneud â'r dyfeisiadau/offer hyn.
- sut i gael, rhannu a chofnodi gwybodaeth sydd ei hangen ar eich sefydliad i gefnogi'r gwasanaethau y mae'n eu darparu
- gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cyfathrebu gwybodaeth yn ymwneud â sifftiau a chynnal y gwasanaeth
- gweithdrefnau cymeradwy eich sefydliad ar gyfer trosglwyddo cyfrifoldeb dros y cerbyd
- gweithdrefnau cymeradwy eich sefydliad ar gyfer ymdrin ag eiddo coll, yn cynnwys pecynnau amheus
- sut i archwilio a hysbysu ynghylch niwed a diffygion i gerbydau
- gweithdrefnau cymeradwy eich sefydliad ar gyfer cyflwyno cerbydau i gael eu llenwi â thanwydd, eu glanhau a'u gwasanaethu
- sut i gwblhau cofnodion yn ymwneud â'r sifft
- pwysigrwydd edrych am unrhyw deithwyr sydd yn dal ar y cerbyd ar ddiwedd y sifft
- rôl a phwerau comisiynwyr traffig
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
29 Ebr 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
People 1st
URN gwreiddiol
PPLPCVD07
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth
Cod SOC
Geiriau Allweddol
gwasanaeth; cerbyd; bws; coets