Adnabod a chynorthwyo teithwyr ag anghenion ychwanegol neu ofynion penodol

URN: PPLPCVD06
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau sy’n Cludo Teithwyr (Bws a Choets)
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 30 Maw 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chydnabod ac ymateb i deithwyr ag anghenion ychwanegol neu ofynion arbennig tra'n gweithredu bws neu goets, fel arfer ar lwybr masnachol heb archebu ymlaen llaw. Gallai hyn gynnwys teithwyr sydd angen cymorth gyda symudedd corfforol, y rheiny ag anghenion meddygol, meddyliol a seicolegol, neu'r rheiny a allai fod yn agored i niwed. Dylech allu cynnig cymorth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad. Dylech wybod a deall gofynion unrhyw ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol wrth roi cymorth.

Mae'r safon hon ar gyfer gyrwyr a gweithredwyr trafnidiaeth a staff cynnal a chadw.

Pan fyddwch wedi cwblhau'r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth a'ch gallu i:

Adnabod a chynorthwyo teithwyr ag anghenion arbennig


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​gweld pan fydd gan deithiwr anghenion ychwanegol neu ofynion penodol sydd angen cymorth, cyn y gofynnir i chi
  2. cynnig cymorth yn brydlon ac mewn ffordd sydd yn gwrtais ac yn ystyriol
  3. trin teithiwr sydd angen cymorth mewn ffordd sy'n hybu gwasanaeth cwsmeriaid da ac yn dilyn yr holl ddeddfwriaeth cydraddoldeb ac amrywiaeth berthnasol
  4. ystyried diogelwch y teithwyr sydd angen cymorth, teithwyr eraill a chi eich hun wrth benderfynu ar opsiynau ar gyfer cymorth
  5. penderfynu ar y math a faint o gymorth sydd ei angen, a ddylai fod o fewn eich gallu a'ch cyfrifoldeb
  6. cymryd camau priodol pan na ellir rhoi cymorth
  7. cadw at y ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol wrth benderfynu ar y cymorth sydd ei angen neu y gwneir cais amdano
  8. rhoi cymorth i deithwyr i gadw at ddeddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol mewn perthynas ag anabledd, cydraddoldeb ac amrywiaeth
  9. rhoi cymorth yn brydlon ac mewn ffordd sy'n hybu gwasanaeth cwsmeriaid da
  10. dilyn gweithdrefnau a dderbynnir ar gyfer rhoi cymorth i deithwyr, a chadw o fewn cyfyngiadau eich gallu a'ch cyfrifoldeb
  11. sicrhau bod offer arbenigol neu systemau a allai gynorthwyo cwsmeriaid yn gweithio
  12. defnyddio offer arbenigol neu system fel y bo angen yn unol â'r dulliau cymeradwy
  13. cadarnhau bod gofynion teithwyr wedi cael eu bodloni ar ôl rhoi cymorth
  14. cael cyngor neu gymorth priodol pan na ellir bodloni gofynion teithwyr
  15. mynd i'r afael â gwrthdaro neu ymddygiad ymosodol gan deithwyr yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i adnabod teithwyr a allai fod angen cymorth
  2. pwysigrwydd rhoi cymorth i deithwyr pan fo angen i sicrhau cysur a diogelwch
  3. y mathau o anghenion arbennig y gallai fod gan deithwyr a sut y gellir rhoi cymorth pan fo angen
  4. gofynion deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol wrth roi cymorth yn ymwneud ag anabledd, cydraddoldeb ac amrywiaeth
  5. terfynau eich gallu a'ch cyfrifoldeb wrth roi cymorth i deithwyr
  6. sut i gyfathrebu gyda theithwyr sydd angen cymorth, yn cynnwys addasu eich dulliau cyfathrebu i ddarparu ar gyfer anghenion ychwanegol neu ofynion arbennig teithwyr
  7. y rheoliadau cyfle cyfartal perthnasol y mae'n rhaid cadw atynt a hawliau'r holl deithwyr i deithio'n ddiogel ac yn gysurus
  8. sut i ddefnyddio offer arbenigol a systemau ar gyfer darparu cymorth i deithwyr ag anghenion arbennig gan sicrhau diogelwch y teithiwr, teithwyr eraill a chi eich hun
  9. sut i gyfathrebu gyda theithwyr tra'n rhoi cymorth
  10. hawliau teithwyr i deithio'n ddiogel ac yn gysurus
  11. gweithdrefnau eich sefydliad y mae'n rhaid eu dilyn pan na fyddwch yn gallu darparu ar gyfer teithiwr ag anghenion ychwanegol neu ofynion penodol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Cysylltiadau â Chyfarwyddebau'r UE

Mae’r gofynion gwybodaeth a dealltwriaeth yn yr uned hon yn ymwneud ag amcanion canlynol Cyfarwyddeb yr UE ar gyfer Hyfforddiant Gyrwyr:

Amcan 1.5 - Gallu i sicrhau cysur a diogelwch eich teithwyr

Dylai sefydliadau sy’n defnyddio’r safon hon sicrhau eu bod yn defnyddio’r gofynion rheoliadol mwyaf diweddar os caiff y cyfarwyddebau a enwir eu disodli.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLPCVD06

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth

Cod SOC


Geiriau Allweddol

teithwyr; deddfwriaeth; anghenion arbennig