Sicrhau bod cerbydau’n barod ar gyfer teithiau sydd yn cludo teithwyr

URN: PPLPCVD05
Sectorau Busnes (Suites): Gyrru Cerbydau sy’n Cludo Teithwyr (Bws a Choets)
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 30 Maw 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â sicrhau bod cerbyd wedi cael ei baratoi'n gywir cyn taith sydd yn cludo teithwyr. Dylech allu cadarnhau bod y cerbyd yn addas ar gyfer y ffordd.  Dylech wybod a deall pa ddogfennau y dylai'r gyrrwr a'r cerbyd eu cael cyn dechrau eich taith.

Mae'r safon hon ar gyfer goruchwylwyr ac arweinwyr tîm gyrwyr a gweithredwyr trafnidiaeth.

Pan fyddwch wedi cwblhau'r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth a'ch gallu i:

Baratoi ar gyfer teithiau sydd yn cludo teithwyr


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​sicrhau bod y gyrrwr wedi paratoi'r cerbyd cyn y daith
  2. sicrhau bod y cerbyd sydd yn cario teithwyr yn bodloni gofynion rheoliadol perthnasol ar gyfer y daith a'r gyrchfan
  3. cadarnhau bod gan y gyrrwr drwydded gyfredol a dilys i yrru'r cerbyd
  4. datgan yn llawn unrhyw gyflwr meddygol neu arall a allai effeithio ar allu'r gyrrwr i yrru'n ddiogel yn cynnwys polisïau cyfreithiol a sefydliadol cyfredol yn ymwneud â chyffuriau, cyfnerthwyr ac alcohol gan ddilyn gweithdrefnau eich sefydliad
  5. datgan yn llawn manylion unrhyw gollfarnau yn erbyn y gyrrwr a fyddai'n effeithio ar yrru cerbyd sydd yn cludo teithwyr
  6. cadarnhau bod trwydded dollau'r cerbyd yn ddilys ar gyfer y cerbyd a bod cofnodion ar gael fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith
  7. cadarnhau bod tystysgrif brawf y cerbyd, manylion yswiriant, dogfennau cofrestru a siartiau thacograff y cerbyd, os oes rhai, yn bodloni'r gofynion cyfreithiol
  8. penderfynu pryd i beidio defnyddio cerbyd am nad yw'r dogfennau'n bodloni'r gofynion cyfreithiol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​y gwiriadau y mae'n rhaid i yrwyr eu gwneud cyn taith sydd yn cludo teithwyr
  2. yr amserlenni gwasanaethu sydd yn berthnasol i'r cerbydau sydd yn cael eu gyrru
  3. y gofynion statudol perthnasol o ran profi cerbydau
  4. y trefniadau i adnewyddu cerbyd sydd â nam sy'n ei atal rhag cael ei ddefnyddio ar gyfer taith
  5. trefniadau ar gyfer adfer cerbyd diffygiol
  6. y mathau gwahanol, a rheoliadau ar gyfer, trwyddedau i yrru cerbydau sydd yn cludo teithwyr
  7. y mathau gwahanol o ddiogelwch yswiriant, yn cynnwys isafswm y gofynion cyfreithiol ar gyfer cerbydau sydd yn cludo teithwyr
  8. y cyflyrau meddygol a'r achosion a allai atal neu gyfyngu'r gyrrwr rhag gweithredu cerbyd sydd yn cludo teithwyr er mwyn sicrhau diogelwch teithwyr
  9. gofynion profi, cofrestru a thrwyddedu cerbydau yn ymwneud â'r cerbyd sydd yn cael ei yrru
  10. y systemau sefydliadol ar gyfer gwirio dogfennau cerbydau yn ymwneud â thystysgrifau prawf, yswiriant a thrwyddedau
  11. y gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â sefyllfaoedd lle nad yw unrhyw ddogfennau'n bodloni'r gofynion
  12. y rheolau a'r rheoliadau perthnasol, yn cynnwys rhai domestig ac annomestig, sydd yn llywodraethu'r ffordd y mae eich gyrwyr yn gweithio, y ffordd y cânt eu gorfodi a'r cosbau y gellir eu rhoi
  13. yr offer gofynnol sydd ei angen ar gyfer pob taith sydd yn cludo teithwyr y mae cerbyd wedi ei drefnu i'w gwneud
  14. y rheoliadau a'r ddeddfwriaeth berthnasol mewn perthynas â chyffuriau, cyfnerthwyr ac alcohol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Cysylltiadau â Chyfarwyddebau'r UE

Mae'r gofynion gwybodaeth a dealltwriaeth yn yr uned hon yn ymwneud ag amcanion canlynol Cyfarwyddeb yr UE ar gyfer Hyfforddiant Gyrwyr:

Amcan 2.1 – Gwybod amgylchedd cymdeithasol trafnidiaeth ffordd a'r rheolau sy'n ei lywodraethu

Dylai sefydliadau sy'n defnyddio'r safon hon sicrhau eu bod yn defnyddio'r gofynion rheoliadol mwyaf diweddar os caiff y cyfarwyddebau a enwir eu disodli.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLPCVD05

Galwedigaethau Perthnasol

Arweinydd Tîm, Goruchwylydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

gyrru; cerbyd; dogfennau