Paratoi ar gyfer teithiau sydd yn cludo teithwyr
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi i yrru eich cerbyd cyn taith sydd yn cludo teithwyr. Dylech allu cadarnhau bod y cerbyd yn addas ar gyfer y ffordd. Dylech wybod a deall pa ddogfennau y dylai'r gyrrwr a'r cerbyd eu cael cyn dechrau eich taith.
Mae'r safon hon ar gyfer gyrwyr a gweithredwyr trafnidiaeth a staff cynnal a chadw, goruchwylwyr ac arweinwyr tîm.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth a'ch gallu i:
Baratoi ar gyfer teithiau sydd yn cludo teithwyr
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- mynd ar ddyletswydd ar yr amser a'r man cywir
- cadarnhau bod cofnod gwasanaeth neu ddiffygion y cerbyd yn gyfredol ac yn bodloni'r gofynion rheoliadol a sefydliadol perthnasol
- cynnal gwiriadau trosglwyddo'r cerbyd yn unol â'r gweithdrefnau cymeradwy
- cymryd camau o fewn eich gallu a'ch awdurdod i gywiro'r broblem, gan sicrhau bod y cerbyd yn barod ar gyfer y daith
- penderfynu pryd i beidio defnyddio cerbyd am ei fod yn anaddas
- cael cerbyd arall os nad yw'r cerbyd yn addas i'w ddefnyddio gan ddefnyddio gweithdrefn gymeradwy eich sefydliad
- cyfeirio diffygion gwirioneddol neu bosibl yn brydlon i'r person priodol yn ddigon manwl i'r broblem allu cael ei chanfod
- cael gwybodaeth am lwybrau ac amserlenni, yn cynnwys gwybodaeth am dywydd gwael neu gyflwr y ffordd, a chadarnhau ei bod yn gyflawn
- mynd i'r afael, ymlaen llaw, ag unrhyw anawsterau y gellir eu rhagweld yn gweithredu'r gwasanaeth
- cadarnhau bod systemau gwybodaeth i deithwyr a systemau tocynnau (os oes rhai ar gael) yn rhoi manylion cywir y gwasanaeth
- cael cyngor am lwybrau amgen gan y person priodol os yw llwybrau ac amserlenni a gynlluniwyd wedi eu heffeithio
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- amserlenni gwasanaethu sy'n berthnasol i'r cerbydau sy'n cael eu gyrru
- y gofynion profi cerbydau statudol perthnasol
- natur ac amserlenni gwiriadau cerbydau y mae'n rhaid eu cynnal wrth baratoi ar gyfer teithiau
- sut i gynnal gwiriadau trosglwyddo yn cynnwys golau, corn, hylif glanhau sgrin a sychwyr, systemau diogelwch, systemau cysur teithwyr a gwiriadau gweledol o'r cerbyd
- sut i adnabod diffygion neu arwyddion y gallai diffyg ddatblygu ar y cerbyd
- pa lefel o awdurdod a'r camau cysylltiedig y gellir eu cymryd er mwyn cywiro'r broblem
- pa gamau i'w cymryd i gyfeirio namau at y person priodol
- y trefniadau i adnewyddu cerbyd sydd â nam sydd yn gwahardd ei ddefnyddio ar gyfer taith
- y rheoliadau a'r ddeddfwriaeth berthnasol mewn perthynas â chyffuriau, ysgogwyr ac alcohol
- sut i gael, a chadarnhau cyflawnder, y wybodaeth ofynnol yn ymwneud â chynnal y gwasanaeth
- pam y mae'n bwysig cadw at y llwybr swyddogol a'r amserlenni a gweithdrefn y sefydliad ar gyfer eu newid pan fo angen
- sut i asesu'r anawsterau posibl yn cynnal y gwasanaeth
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cysylltiadau â Chyfarwyddebau'r UE
Mae'r gofynion gwybodaeth a dealltwriaeth yn yr uned hon yn ymwneud ag amcanion canlynol Cyfarwyddeb yr UE ar gyfer Hyfforddiant Gyrwyr:
Amcan 2.1 – Gwybod amgylchedd cymdeithasol trafnidiaeth ffordd a'r rheolau sy'n ei lywodraethu
Dylai sefydliadau sy'n defnyddio'r safon hon sicrhau eu bod yn defnyddio'r gofynion rheoliadol mwyaf diweddar os caiff y cyfarwyddebau a enwir eu disodli.