Darparu gwasanaeth cwsmeriaid proffesiynol yn y diwydiant bysus a choetsis
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu gwasanaeth cwsmeriaid proffesiynol yn y diwydiant bysus a choetsis. Dylech wybod a deall gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer hybu gwasanaeth cwsmeriaid. Mae profiad y cwsmer yn rhan hanfodol o amcanion y sefydliad ac fel aelod rheng flaen o'r tîm, byddwch yn cael cyfle i 'blesio' cwsmeriaid yn ogystal â rheoli sefyllfaoedd o wrthdaro neu anhawster a dod o hyd i ateb priodol. Dylech hefyd wybod a deall côd gwisg, gwisg unffurf, ymddangosiad, ymddygiad a hyfforddiant a datblygiad gwasanaeth cwsmeriaid eich sefydliad.
Mae'r safon hon ar gyfer gyrwyr a gweithredwyr trafnidiaeth a staff cynnal a chadw.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth a'ch gallu o ran:
Darparu gwasanaeth cwsmeriaid proffesiynol yn y diwydiant bysus a choetsis
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- ymgysylltu â chwsmeriaid mewn ffordd gadarnhaol a chwrtais
- dilyn y côd gwisg/polisi gwisg unffurf ac ymddangosiad personol
- rhoi delwedd broffesiynol i’r cwsmeriaid trwy ymddwyn yn briodol bob amser
- cyfathrebu gyda chwsmeriaid mewn ffordd sy’n bodloni eu hanghenion ac yn cyflwyno gwasanaeth cwsmeriaid proffesiynol
- cynnal gwasanaeth cwsmeriaid o fewn rheoliadau perthnasol y diwydiant bysus a choetsis
- gwneud y gwaith mewn ffordd sy’n lleihau anghyfleustra i’ch cwsmeriaid cyhyd â phosibl
- nodi a disgrifio eich gofynion eich hun er mwyn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen yn eich swydd
- cydbwyso eich gofynion gyda rhai eich sefydliad
- trafod a chytuno gyda’r person priodol yn eich sefydliad sut i gynllunio a chael y datblygiad gofynnol
- gwneud gweithgareddau i ddatblygu sgiliau yn unol â’ch cynllun datblygu
- cael adborth a chyngor ar eich cynnydd yn datblygu sgiliau
- gweithredu os nad yw eich datblygiad sgiliau ar gyflymder neu lefel a ragwelwyd yn y cynllun datblygu
- cydnabod cwsmeriaid yn brydlon ac yn gwrtais, a siarad â nhw mewn ffordd sydd yn hybu hyder yn y sefydliad
- rhoi gwybodaeth i gwsmeriaid sydd o fewn terfynau’r awdurdod a roddwyd
- cyfeirio cwsmeriaid at y person priodol os nad ydych yn gallu eu cynorthwyo neu os yw eu gofynion y tu hwnt i gyfrifoldebau eich swydd
- dilyn gweithdrefnau a pholisïau eich sefydliad ar gyfer hybu gwasanaeth cwsmeriaid
- cofnodi, yn gywir ac yn gyflawn, gwybodaeth gan gwsmeriaid sy’n ymwneud â’ch sefydliad
- adnabod ac adrodd i’r person priodol yr anawsterau a ganfuwyd a allai effeithio ar gwsmeriaid
- dilyn gweithdrefn eich sefydliad yn gywir ar gyfer cwynion a chanmoliaeth yn cynnwys cofnodi a datblygu yn arwain at ddatrysiad
- dilyn gweithdrefnau eich sefydliad os oes gwrthdaro gyda, neu rhwng, cwsmeriaid
- sicrhau bod teithwyr yn cydymffurfio â gofynion deddfwriaeth neu ofynion eich sefydliad, fel gwisgo gwregys diogelwch os oes un ar gael
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- codau gwisg, ymddangosiad ac ymddygiad perthnasol eich sefydliad
- pam y mae'n bwysig cael a dilyn codau ymddangosiad ac ymddygiad yn y diwydiant bysus a choetsis
- sut i adnabod cyfleoedd i wella'r gwasanaeth a ddarperir i gwsmeriaid yn eich sefydliad
- sut i ymdrin ag anawsterau yn bodloni codau gwisg ac ymddygiad
- pwysigrwydd eich rôl yn y ffordd y mae'r sefydliad yn gweithredu a rolau'r rheiny yr ydych yn gweithio gyda nhw yn cynnwys: rheolwyr, goruchwylwyr, gweinyddwyr a mecanyddion
- y ffyrdd eraill y gallai cwsmeriaid deithio yn y Deyrnas Unedig ac Ewrop a phwy yw prif gystadleuwyr eich sefydliad
- safonau'r sgiliau a'r wybodaeth sy'n ofynnol ar gyfer eich swydd
- sut i fesur eich sgiliau presennol a nodi meysydd y mae angen eu datblygu, yn cynnwys y rheiny'n ymwneud â gofynion hyfforddiant gorfodol eich sefydliad
- y prosesau yn eich sefydliad ar gyfer trafod a chytuno ar gynlluniau datblygu
- sut i fonitro cynnydd yn erbyn cynlluniau datblygu
- sut i gael adborth gan eraill fydd o gymorth i'ch datblygiad
- sut i nodi a chael cytundeb ar gyfer gweithgareddau datblygu pellach os nad yw'r safon ofynnol yn cael ei bodloni
- pwysigrwydd cyflwyno delwedd a gwasanaeth proffesiynol i gwsmeriaid
- polisi a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer hybu gwasanaeth cwsmeriaid
- terfynau awdurdod, gwybodaeth a chyfrifoldebau a roddir mewn materion yn ymwneud â gwasanaeth cwsmeriaid
- pa wybodaeth gwasanaeth cwsmeriaid fydd o fudd i'ch sefydliad neu sy'n ofynnol gan eich sefydliad
- y mathau o anawsterau neu broblemau a all godi wrth hybu gwasanaeth cwsmeriaid
- y gweithdrefnau ar gyfer hysbysu'r person priodol yn eich sefydliad ynghylch materion gwasanaeth cwsmeriaid
- sut i nodi anghenion cwsmeriaid er mwyn sicrhau cysur a diogelwch, yn arbennig y rheiny ag anghenion ychwanegol neu ofynion penodol
- gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer ymdrin â gwrthdaro gyda neu rhwng cwsmeriaid
- sut i weithredu technegau sydd yn galluogi'r gyrrwr i ganolbwyntio ar yrru'n ddiogel, tra'n sicrhau diogelwch a chysur cwsmeriaid
- y rheoliadau perthnasol yn ymwneud â hawliau cwsmeriaid, yn cynnwys fel y bo’n briodol; llogi preifat a gwaith papur teithio, domestig a chyfandirol, gwregysau diogelwch, diffoddwyr tân, offer cymorth cyntaf, cario alcohol
- y ddeddfwriaeth berthnasol a chyfredol yn ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth a pham y mae’n bwysig cydnabod hyn tra’n ymdrin â chwsmeriaid
- y mathau o gyfathrebu llafar ac nad yw’n llafar
- gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i deithwyr
- sut i gadarnhau dealltwriaeth gyda theithwyr a dehongli arwyddion (llafar a rhai nad ydynt yn llafar) ganddynt
- ble i gael cymorth ar gyfer ymdrin ag anawsterau cyfathrebu
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Teithwyr ag anghenion ychwanegol neu ofynion penodol
Yn cynnwys teithwyr ag anghenion ychwanegol yn ogystal â theithwyr â gofynion penodol, er enghraifft teithwyr â phlant ifanc neu siopa trwm
Cysylltiadau â Chyfarwyddebau'r UE
Mae'r gofynion gwybodaeth a dealltwriaeth yn yr uned hon yn ymwneud ag amcanion canlynol Cyfarwyddeb yr UE ar gyfer Hyfforddiant Gyrwyr:
Amcan 1.5 - Gallu i sicrhau cysur a diogelwch eich teithwyr
Amcan 2.3 – Gwybod y rheoliadau sydd yn llywodraethu cludo teithwyr
Amcan 3.6 – Mabwysiadu ymddygiad i helpu i wella delwedd y cwmni
Amcan 3.8 – Gwybod amgylchedd economaidd cludo teithwyr ar y ffordd a threfniadaeth y farchnad
Dylai sefydliadau sy'n defnyddio'r safon hon sicrhau eu bod yn defnyddio'r gofynion rheoliadol mwyaf diweddar os caiff y cyfarwyddebau a enwir eu disodli.