Cyfrannu at iechyd a diogelwch mewn amgylchedd gyrru bws a choets
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â nodi peryglon y gallwch ddod ar eu traws tra'n paratoi ar gyfer, neu'n gwneud eich gwaith fel gyrrwr bws a/neu goets er mwyn i chi allu cyfrannu at sicrhau eich iechyd a'ch diogelwch eich hun, eich cydweithwyr a theithwyr. Dylech fod yn gallu dangos sut y gallwn gyfyngu perygl a niwed i bobl ac eiddo sydd yn deillio o ddamweiniau neu ddigwyddiadau. Mae'r safon hon yn cynnwys y ganolfan a'r amgylcheddau gweithredu.
Mae'r safon hon ar gyfer gyrwyr a gweithredwyr trafnidiaeth a staff cynnal a chadw.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r safon hon byddwch yn gallu dangos eich gallu a'ch dealltwriaeth o ran:
Cyfrannu at iechyd a diogelwch yn eich amgylchedd gwaith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi peryglon gwirioneddol a phosibl i iechyd a diogelwch wrth baratoi i yrru, a thra'n gyrru bws neu goets
- defnyddio canllawiau sefydliadol i gategoreiddio peryglon sydd wedi cael eu nodi
- cael cymorth gan berson priodol os nad ydych yn sicr am y categori risg
- cymryd camau diogel a phriodol sydd yn lleihau, cyhyd â phosibl, effeithiau posibl y risg o fewn terfynau eich awdurdod eich hun
- cofnodi manylion perthnasol y peryglon er mwyn gallu cymryd camau priodol
- hysbysu'r person priodol ynghylch manylion llawn a chywir y peryglon
- gweithredu ar unwaith ac yn effeithiol i leihau'r perygl neu'r niwed, heb gynyddu'r perygl neu'r bygythiad i unrhyw un, yn cynnwys chi eich hun
- bod yn sicr bod y camau a gymerir yn ddiogel ac o fewn terfynau eich awdurdod a'ch gallu
- dilyn cyfarwyddiadau neu ganllawiau'r sefydliad ar gyfer cyfyngu perygl neu niwed
- sicrhau bod gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol perthnasol yn cael eu dilyn er mwyn sicrhau mai dim ond teithwyr ac eitemau awdurdodedig sydd wedi eu cynnwys cyn gyrru
- cael cymorth ar unwaith os na ellir ymdrin â'r perygl yn effeithiol
- rhoi gwybodaeth neu gyfarwyddiadau clir i eraill i'w galluogi i gymryd camau priodol
- cofnodi a hysbysu ynghylch manylion y perygl yn unol â chanllawiau eich sefydliad
- hysbysu ynghylch unrhyw anawsterau yn cadw at gyfarwyddiadau neu ganllawiau iechyd a diogelwch eich sefydliad, gan roi manylion llawn a chywir
- edrych am gyfleoedd ychwanegol i gyfrannu at iechyd a diogelwch mewn amgylchedd gyrru bws a choets
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y risg a'r peryglon cyffredin i iechyd a diogelwch sy'n debygol o gael eu nodi mewn amgylchedd gyrru bws a choets
- ble mae'r rhan fwyaf o anafiadau a damweiniau'n digwydd ar y ffordd ac yn amgylchedd canolfannau bws a choets
- yr ystadegau cymharol ar gyfer damweiniau yn cynnwys bws, coets a mathau eraill o drafnidiaeth ffordd
- sut i benderfynu ar lefel y risg a nodir wrth baratoi i yrru, a thra'n gyrru bws neu goets
- y manylion y dylid eu cofnodi a'u hadrodd yn ymwneud â risg a pheryglon a nodir
- terfynau y cyfrifoldeb a roddir a gallu i gymryd camau ar unwaith i leihau effaith risg cyhyd â phosibl
- canllawiau eich sefydliad mewn perthynas ag ymdrin â pheryglon
- ble a sut i gael cymorth os oes angen
- y gyfraith a'r cosbau perthnasol ar gyfer caniatáu masnachu mewn mewnfudwyr anghyfreithlon a'r dulliau a ddefnyddir gan yr awdurdodau i atal arferion o'r fath
- sut i osgoi anaf personol, yn cynnwys safle cywir ar y sedd, technegau ymdrin â llaw, y defnydd cywir o offer amddiffynnol personol, cyfleusterau fel radio, larymau a sgriniau, os ydynt wedi eu gosod
- pryd y mae'n ddiogel ac yn briodol i gymryd camau ar unwaith, heb roi unrhyw un mewn perygl
- pa gamau y gellir eu cymryd ac a oes awdurdod gennych i'w cymryd, i leihau perygl
- cyfarwyddiadau neu ganllawiau eich sefydliad yn ymwneud ag ymdrin â sefyllfaoedd peryglus a hysbysu yn eu cylch
- sut i ddefnyddio offer penodedig a systemau larwm i leihau perygl
- y dulliau cyfathrebu effeithiol a phriodol i hysbysu eraill am y perygl
- ble a sut i gael cymorth yn ymdrin â sefyllfaoedd peryglus
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Cysylltiadau i Gyfarwyddiaethau'r UE
Mae'r gofynion gwybodaeth a dealltwriaeth yn yr uned hon yn ymwneud ag amcanion canlynol Cyfarwyddeb yr UE ar gyfer Hyfforddiant Gyrwyr:
Amcan 3.1 – Gwneud gyrwyr yn ymwybodol o beryglon y ffordd a damweiniau yn y gwaith
Amcan 3.2 – Gallu i atal troseddu a masnachu mewn mewnfudwyr anghyfreithlon
Amcan 3.3 – Gallu i atal peryglon corfforol
Dylai sefydliadau sy'n defnyddio'r safon hon sicrhau eu bod yn defnyddio'r gofynion rheoliadol mwyaf diweddar os caiff y cyfarwyddebau a enwir eu disodli.