Cynnal perthynas waith effeithiol gyda chydweithwyr
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal perthynas waith effeithiol gyda chydweithwyr. Dylech fod yn gallu cyfathrebu'n effeithiol gyda'ch cydweithwyr a chynnig cymorth a chyngor a gweithredu mewn ffordd broffesiynol bob amser. Dylech wybod a deall polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad yn ymwneud ag ymddygiad yn y gweithle, yn cynnwys sefyllfaoedd wyneb yn wyneb, ysgrifenedig ac ar-lein.
Mae'r safon hon ar gyfer gyrwyr a gweithredwyr trafnidiaeth a staff gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth.
* *
*Pan fyddwch wedi cwblhau'r safon hon byddwch yn gallu dangos eich dealltwriaeth a’ch gallu i:
*
Chynnal perthynas waith effeithiol gyda chydweithwyr
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- ymddwyn tuag at gydweithwyr mewn ffordd sydd yn cynnal perthynas waith effeithiol ac yn sicrhau bod bysys a choetsis yn gweithredu'n effeithlon
- ymateb i geisiadau gan gydweithwyr yn brydlon a chyda pharch, heb amharu ar eich gwaith eich hun
- bodloni unrhyw ymrwymiad a wneir i gydweithwyr yn y ffordd a'r raddfa amser y cytunwyd arnynt
- rhoi gwybodaeth y mae cydweithwyr yn gofyn amdani yn gywir, yn glir ac yn brydlon
- cymryd rhan fel y bo angen mewn trafodaethau am berthynas waith
- cefnogi cydweithwyr sydd yn dysgu, i ddatblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth
- trafod problemau gyda'r person priodol os oes anawsterau mewn perthynas waith, neu arferion gwaith
- cael y wybodaeth sydd ei hangen gan gydweithwyr, gan ddefnyddio gweithdrefnau a nodwyd gan y sefydliad
- rhoi gwybodaeth i gydweithwyr sydd yn gywir, yn berthnasol ac y bydd yn bodloni eu gofynion
- cyfleu gwybodaeth ar fformat sy'n bodloni'r gofynion hyn
cadarnhau bod y wybodaeth a roddir wedi ei hawdurdodi pan gaiff ei darparu
rhoi cymorth mewn achosion lle mae anhawster i gyfathrebu'n effeithiol gyda chydweithwyr
- cadarnhau cyfyngiadau eich cyfrifoldebau yn y swydd
- cael cyngor gan y person priodol pan fydd problemau yn cytuno ar eich gweithgareddau neu gyfrifoldebau, neu rai pobl eraill
- rhoi gwybodaeth i gydweithwyr ar amser ac sydd yn briodol i'w hanghenion
- cynorthwyo cydweithwyr gyda'u gwaith, yn unol â therfynau y cytunwyd arnynt
- ymateb yn effeithiol i sefyllfaoedd lle mae angen newid cynlluniau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- yr angen i gynnal perthynas waith effeithiol yn y sefydliad er mwyn sicrhau bod bysys a choetsis yn gweithredu'n effeithiol
- safonau a chanllawiau eich sefydliad yn ymwneud ag ymddygiad yn y gweithle
- sut i gydbwyso rhoi cymorth i gydweithwyr gyda'ch llwyth gwaith eich hun
- terfynau eich cyfrifoldebau eich hun a rhai eich cydweithwyr
- gofynion dysgu cydweithwyr sy'n cael eu hyfforddi
- y gweithdrefnau ar gyfer trin a thrafod perthynas waith
- y gofynion ar gyfer cyfathrebu gwybodaeth gywir a pherthnasol yn eich sefydliad
- y dulliau o gael a darparu gwybodaeth rhwng cydweithwyr
- terfynau eich awdurdod mewn perthynas â rhoi gwybodaeth i gydweithwyr
- y fformatiau gwahanol lle gellir cyfathrebu gwybodaeth a'u defnydd
- y gofyniad ar gyfer darparu, a ffyrdd o ddarparu, cyfleoedd i gydweithwyr gyfathrebu'n rhydd ac yn agored
- y gweithdrefnau ar gyfer trin a hysbysu ynghylch anawsterau yn cyfathrebu yn rhydd ac yn agored
- y gweithdrefnau ar gyfer rhoi'r wybodaeth sydd eu hangen ar gydweithwyr yn eu gwaith
- cyfrifoldeb pobl eraill yn y tîm
- digwyddiadau arferol a allai ei wneud yn ofynnol i gynlluniau gael eu newid
- y gweithdrefnau ar gyfer trin a hysbysu ynghylch anawsterau yn cytuno ar weithgareddau neu gyfrifoldebau gwaith