Gwneud yn siŵr bod arferion diogelwch bwyd yn cael eu dilyn wrth baratoi a gweini bwyd a diod

URN: PPLHSL30
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch Goruchwylio ac Arwain
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn disgrifio’r cymhwysedd y mae ei angen i sicrhau bod arferion a gweithdrefnau diogelwch bwyd priodol yn cael eu dilyn wrth baratoi a gweini bwyd a diod. Mae’r safon hon ar gyfer arweinwyr tîm, rheolwr llinell gyntaf neu oruchwylwyr lletygarwch, prif weinyddion, cogyddion a chefs.

Mae diogelwch bwyd yn hanfodol. Nododd ymchwil a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ym mis Mehefin 2014 oddeutu filiwn achos o wenwyn bwyd bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig, y mae tua hanner ohonynt yn gallu cael eu priodoli i 13 pathogen penodol. Felly, mae’n hanfodol dileu pob risg bosibl mewn unrhyw amgylchedd lletygarwch.

Y ffordd orau o osgoi gwenwyn bwyd yw sicrhau bod safonau uchel o hylendid bwyd yn cael eu cynnal wrth storio, trin a pharatoi bwyd. Mae arferion diogelwch bwyd da yn hanfodol i unrhyw un sy’n trin bwyd er mwyn gwybod sut i atal y risgiau sy’n gysylltiedig â gwenwyn bwyd.

Mae gwneud yn siŵr bod peryglon posibl yn cael eu nodi a’u lliniaru, bod staff wedi’u hyfforddi a’u bod yn gallu gweini bwyd a diod yn ddiogel, a bod adroddiadau’n cael eu gwneud am unrhyw beryglon newydd yn brydlon, yn dasgau allweddol i unrhyw un sy’n goruchwylio’r gwaith o baratoi a darparu bwyd a/neu ddiod i ddefnyddwyr.

Mae’r safon hon i unrhyw un sy’n goruchwylio’r gwaith o baratoi a darparu bwyd a/neu ddiod i ddefnyddwyr.

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Wneud yn siŵr bod arferion diogelwch bwyd yn cael eu dilyn wrth baratoi a gweini bwyd a diod


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Gwneud yn siŵr bod gennych wybodaeth berthnasol am weithdrefnau diogelwch bwyd a’ch bod yn dehongli eich cyfrifoldebau yn gywir
  2. Gwneud yn siŵr bod arferion hylendid da ar waith
  3. Cyflawni eich cyfrifoldebau eich hun am weithredu gweithdrefnau diogelwch bwyd
  4. Darparu adborth i’r sawl sy’n gyfrifol am weithdrefnau diogelwch bwyd eich sefydliad am eu heffeithiolrwydd
  5. Monitro a bod yn effro’n gyson i’r posibilrwydd o beryglon diogelwch bwyd yn y maes rydych chi’n gyfrifol amdano
  6. Nodi dangosyddion ffynonellau peryglon diogelwch bwyd posibl
  7. Nodi peryglon diogelwch bwyd a chamau rheoli priodol
  8. Rhoi gwybod am unrhyw beryglon diogelwch bwyd newydd posibl er mwyn adolygu a gwerthuso gweithdrefnau diogelwch bwyd, i’r sawl sy’n gyfrifol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Pwysigrwydd cael gweithdrefnau diogelwch bwyd
  2. Y mathau o beryglon diogelwch bwyd (microbiolegol, ffisegol, cemegol ac alergenaidd) a phrif achosion peryglon diogelwch bwyd (ffactorau dynol; gan gynnwys diffyg goruchwyliaeth effeithiol, diffyg gwybodaeth labelu, ansawdd cyflenwyr, trawshalogi, safle a gwastraff, iechyd personol, problemau trin a phlâu)
  3. Y peryglon diogelwch bwyd arwyddocaol yn eich gweithle a’u prif ddulliau rheoli
  4. Yr amodau sy’n effeithio ar dwf microbaidd
  5. Gofynion deddfwriaeth diogelwch bwyd perthnasol sy’n effeithio ar eich cyfrifoldebau, eich cyfrifoldebau o dan weithdrefnau diogelwch bwyd eich sefydliad a sut i weithredu’r rhain
  6. Yr ystod o arferion hylendid da sy’n berthnasol i’ch gwaith a pham maen nhw’n bwysig
  7. Egwyddorion sylfaenol dyluniad a threfn dda i’r gweithle
  8. Peryglon plâu a chamau rheoli effeithiol
  9. Dulliau effeithiol o lanhau cyfarpar ac arwynebau a pham mae’r rhain yn bwysig
  10. Pwysigrwydd rheoli tymheredd bwyd a rheolyddion ar gyfer y mathau o fwydydd rydych chi’n gyfrifol amdanynt yn ystod: danfon, storio, paratoi, coginio, oeri ac ailgynhesu, dal a gweini
  11. Pwysigrwydd gwaredu gwastraff yn hylan ac yn effeithiol a’r dulliau cywir o reoli gwastraff
  12. Peryglon trawshalogi a dulliau y gallwch eu defnyddio i ddileu’r rhain ar gyfer unrhyw fath o berygl bwyd
  13. Arferion hylendid personol y dylai eich staff eu dilyn yn unol â gofynion gweithredol, gan gynnwys: golchi dwylo, gwisgo dillad, esgidiau a hetiau amddiffynnol, gwisgo gemwaith a chyfwisgoedd, trin a gorchuddio toriadau, cornwydydd, crafiadau a chlwyfau, a rhoi gwybod am afiechydon a heintiau i’r unigolyn priodol
  14. Sut i gyfleu cyfrifoldebau am weithdrefnau diogelwch bwyd i staff a gwneud yn siŵr eu bod yn deall y rhain
  15. Sut i sicrhau bod staff yn cael hyfforddiant priodol i fodloni eu cyfrifoldebau diogelwch bwyd yn unol â lefel eich cyfrifoldeb a’ch annibyniaeth
  16. Y mathau o fethiannau a all ddigwydd yn achos camau rheoli a’r camau cywirol i’w cymryd ar gyfer y rhain
  17. Pwysigrwydd cyfrannu at werthuso gweithdrefnau diogelwch bwyd, gan roi adborth i’r sawl sy’n gyfrifol am y gweithdrefnau diogelwch bwyd a’r mathau o broblemau y dylech roi gwybod amdanynt
  18. Pwysigrwydd bod yn effro yn gyson i’r posibilrwydd o beryglon diogelwch bwyd yn y maes rydych chi’n gyfrifol amdano a sut i gadw golwg am y rhain
  19. Enghreifftiau cyffredin o beryglon diogelwch bwyd yn y grwpiau canlynol: microbiolegol, ffisegol, cemegol ac alergenaidd
  20. Dangosyddion peryglon diogelwch bwyd yn y maes rydych chi’n gyfrifol amdano (dirywiad bwyd, rheolyddion tymheredd, cyflwr y safle) a’r camau rheoli sy’n briodol i’r dangosyddion peryglon diogelwch bwyd hyn

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

Rhoddir yr ymddygiadau canlynol yn ganllaw er mwyn bod yn sail i berfformiad effeithiol goruchwylydd ym maes lletygarwch

  1. Rydych chi’n nodi anghenion gwybodaeth pobl
  2. Rydych chi’n cyflwyno gwybodaeth yn glir, yn gryno, yn gywir ac mewn ffyrdd sy’n hyrwyddo dealltwriaeth
  3. Rydych chi’n cytuno’n glir ar yr hyn sydd i’w ddisgwyl gan bobl eraill ac yn eu dwyn i gyfrif
  4. Rydych chi’n effro i beryglon posibl
  5. Rydych chi’n nodi goblygiadau neu ganlyniadau sefyllfa
  6. Rydych chi’n wynebu problemau perfformiad ac yn eu datrys yn uniongyrchol gyda’r bobl gysylltiedig
  7. Rydych chi’n rhoi cyfleoedd i bobl roi adborth ac yn ymateb yn briodol
  8. Rydych chi’n myfyrio’n rheolaidd ar eich profiadau chi a phrofiadau pobl eraill ac yn eu defnyddio i lywio gweithredu yn y dyfodol
  9. Rydych chi’n gwirio ymrwymiad unigolyn i’w rôl mewn dull gweithredu penodol
  10. Rydych chi’n defnyddio dulliau cost effeithiol, amser effeithiol a moesegol i gasglu, storio ac adalw gwybodaeth
  11. Rydych chi’n gwneud y defnydd gorau o adnoddau sydd ar gael ac yn ceisio ffynonellau cymorth newydd yn rhagweithiol pan fydd angen

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

Argymhellir y safon hon yn gryf i’r rhai sy’n dilyn safonau HSL7, HSL10 a HSL11.
Mae’r safon hon yn safon penodol i’r sector ac mae ganddi gysylltiadau penodol â’r safonau canlynol yng nghyfres safonau Goruchwyliaeth ac Arweinyddiaeth Lletygarwch:
• HSL1
• HSL3
• HSL4
• HSL8
• HSL9
• HSL12-15
• HSL17
• HSL24
• HSL25
• HSL29


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLHSL30

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr Uned, Arweinydd Tîm, Cogydd, Cynorthwy-ydd cegin, Goruchwylydd

Cod SOC

5436

Geiriau Allweddol

arferion diogelwch bwyd, paratoi, gweini, bwyd, diod