Cyfrannu at reoli adnoddau
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â sicrhau eich bod chi a’r staff rydych chi’n gyfrifol amdanynt yn defnyddio adnoddau yn effeithiol ac yn effeithlon, heb wastraff gormodol. Mae’r safon hon ar gyfer arweinwyr tîm, rheolwyr llinell gyntaf neu oruchwylwyr lletygarwch.
Mae rheoli adnoddau yn rhan bwysig o unrhyw sefydliad. Gall blaenoriaethu gofynion gwaith a sicrhau bod y lefel gywir o gyflenwadau a chyfarpar yn eu lle i fodloni amcanion chwarae rôl allweddol wrth helpu i leihau costau a darparu’r lefel ofynnol o wasanaeth.
Mae’n bwysig cymryd cyfrifoldeb personol am reoli adnoddau. Bydd y safon hon yn helpu. Mae’n cwmpasu meysydd allweddol fel cael cyflenwadau, gwirio cyfarpar, monitro’r defnydd o adnoddau (e.e. bwyd, egni, deunyddiau pecynnu, deunyddiau traul) a chadw cofnodion.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Cyfrannu at reoli adnoddau
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Nodi’r adnoddau sydd ar gael i chi
- Nodi’r adnoddau y mae eu hangen arnoch ar gyfer eich gwaith a dilyn y gweithdrefnau cywir i’w cael
- Delio ag unrhyw broblemau wrth gael adnoddau, gan ddilyn gweithdrefnau cytunedig a rhoi gwybod y diweddaraf i’r bobl berthnasol
- Gwirio ansawdd, lefel ac addasrwydd adnoddau cyn bod angen i chi eu defnyddio
- Sicrhau bod cyfarpar a deunyddiau’n cael eu storio a’u cynnal a chadw’n gywir
- Annog eich cydweithwyr i ddefnyddio adnoddau’n effeithlon ac i leihau gwastraff
- Monitro’r defnydd o adnoddau yn y maes rydych chi’n gyfrifol amdano
- Gwneud yn siŵr bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n effeithiol, yn effeithlon ac yn unol â gofynion sefydliadol a chyfreithiol
- Nodi ffyrdd o wneud defnydd gwell o adnoddau a gweithredu neu drosglwyddo’r wybodaeth yn unol â gofynion sefydliadol
- Cadw eich cofnodion am adnoddau yn gyfredol, yn gywir ac yn lleoliad dynodedig
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y cyfarpar, y cydweithwyr a’r cyflenwadau sy’n cael eu defnyddio yn y maes rydych chi’n gyfrifol amdanynt
- Sut i wirio’r adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd i chi a gwneud yn siŵr eu bod yn addas ar gyfer y gwaith y mae’n rhaid i chi ei gyflawni
- Pwysigrwydd gweithio o fewn terfynau gwariant cytunedig, gweithdrefnau y mae angen eu dilyn os ewch y tu hwnt i derfynau gwariant cytunedig a pham mae’n bwysig cael cymeradwyaeth rheolwyr a sut i wneud hynny
- Ymwybyddiaeth sylfaenol o gost yr adnoddau rydych chi’n eu defnyddio a thargedau ariannol y sefydliad
- Ymwybyddiaeth sylfaenol o’r effaith y gall defnyddio rhai adnoddau ei chael ar yr amgylchedd
- Polisïau eich sefydliad ar gyfer archebu, defnyddio adnoddau, rheoli gwastraff ac ailgylchu
- Y gofynion iechyd a diogelwch ar gyfer yr adnoddau rydych chi’n gyfrifol amdanynt a’r dulliau / technegau codi priodol ar gyfer symud adnoddau
- Sut i sicrhau bod yr adnoddau rydych chi’n gyfrifol amdanynt yn cael eu storio a’u trin yn gywir ac yn ddiogel, fel y bo’n briodol
- Pwy yw cyflenwyr arferol y sefydliad a phwy sy’n gyfrifol am archebu cyflenwadau
- Beth yw’r lefelau defnydd arferol a sut i weithio allan pa adnoddau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer eich gwaith
- Sut i gasglu gwybodaeth am adnoddau sydd ar gael i chi
- Y gweithdrefnau cywir i’w dilyn i gael adnoddau gofynnol
- Pa gofnodion y mae ar eich sefydliad eu hangen am ddefnyddio adnoddau
- Manteision cadw systemau rheoli stoc cyfrifiadurol
- Sut i gyfrif, gwirio a monitro’r defnydd o adnoddau a pham mae hyn yn bwysig
- Pwysigrwydd lleihau gwastraff gymaint â phosibl a sut i annog y defnydd effeithlon o adnoddau er budd eich sefydliad a’r amgylchedd ehangach
- Sut i gymell pobl eraill i ddefnyddio adnoddau yn effeithlon
- Sut i gyflwyno argymhellion i’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Rhoddir yr ymddygiadau canlynol yn ganllaw er mwyn bod yn sail i berfformiad effeithiol goruchwylydd ym maes lletygarwch
- Rydych chi’n gwneud y defnydd gorau o adnoddau sydd ar gael ac yn ceisio ffynonellau cymorth newydd yn rhagweithiol pan fydd angen
- Rydych chi’n blaenoriaethu amcanion ac yn cynllunio gwaith i wneud y defnydd gorau o amser ac adnoddau
- Rydych chi’n adnabod newidiadau mewn amgylchiadau yn brydlon ac yn addasu cynlluniau a gweithdrefnau yn unol â hynny
- Rydych chi’n cymryd cyfrifoldeb personol am wneud i bethau ddigwydd
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Mae’r safon hon yn safon penodol i sector sy’n gysylltiedig â phob safon arall yng nghyfres safonau Goruchwyliaeth ac Arweinyddiaeth Lletygarwch ac mae ganddi gysylltiadau penodol â HSL28