Cyfrannu at ddewis staff ar gyfer gweithgareddau
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â helpu i nodi personél addas ar gyfer gwaith. Mae’r safon hon ar gyfer arweinwyr tîm, rheolwr llinell gyntaf neu oruchwylwyr lletygarwch.
Ni all busnesau ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i’w cwsmeriaid oni bai bod ganddynt y staff sydd â’r agweddau, y profiad, yr hyfforddiant a’r potensial cywir i dyfu i’w swydd. Fodd bynnag, mae penderfyniadau recriwtio yn cael effaith yn fewnol, hefyd. Nid yn unig y mae’r gweithwyr cywir yn allweddol i gadw cleientiaid yn hapus a sefydlu enw da sy’n para, maen nhw’n ganolog i ddiwylliant busnes mewnol cwmni, hefyd.
Mae’r safon hon yn delio â meysydd allweddol fel sut i ddadlau achos dros ofynion staffio ychwanegol a’r broses ddewis sy’n briodol i nodi a recriwtio staff priodol.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Gyfrannu at ddewis staff ar gyfer gweithgareddau
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Nodi gofynion staffio, sy’n cyfrif am amcanion gwaith a chyfyngiadau gweithio
- Gwneud yn siŵr bod y gofynion staffio a nodwch wedi’u seilio ar wybodaeth ddilys a dibynadwy
- Cyflwyno gofynion staffio a nodwyd i’r bobl berthnasol ar adeg ac mewn fformat sy’n briodol i’ch sefydliad
- Defnyddio dulliau asesu a dewis sy’n addas i’ch sefydliad i asesu a dewis staff; lle y bo’n briodol yn ystod dewis, gwrando’n astud, egluro pwyntiau ac aralleirio datganiadau pobl eraill i wirio bod y naill a’r llall ohonoch yn deall
- Dangos uniondeb, tegwch a chysondeb wrth wneud penderfyniadau; gwneud yn siŵr bod eich dewis wedi’i seilio ar asesiad gwrthrychol o’r wybodaeth sydd ar gael yn erbyn meini prawf dewis cytunedig
- Cofnodi eich cyfraniadau at y broses ddewis gan sicrhau eu bod yn gyflawn, yn gywir, yn glir ac yn gryno, eu bod yn bodloni gofynion sefydliadol ac, yn achos gwybodaeth gyfrinachol, eu bod yn cael eu cadw’n ddiogel
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Sut i ddadlau achos dros ofynion staffio ychwanegol mewn ffordd sy’n debygol o ddylanwadu’n gadarnhaol ar bobl sy’n gwneud penderfyniadau
- Sut i gasglu a gwirio dilysrwydd y wybodaeth sy’n angenrheidiol i gyfrannu at ofynion staff
- Y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol sy’n gysylltiedig â nodi anghenion personél
- Y math o amcanion a chyfyngiadau gwaith a all ddylanwadu ar ystyriaethau, gan gynnwys: cynlluniau gwaith, ystyriaethau ariannol, argaeledd staff, y pwll recriwtio a gwerthoedd a pholisïau sefydliadol
- Sut i nodi a dehongli’r amcanion a’r cyfyngiadau gwaith sy’n berthnasol i nodi eich anghenion personél
- Sut i gyflwyno awgrymiadau am ddewisiadau yn effeithiol
- Pwysigrwydd cyfrinachedd yn ystod prosesau dewis a pha fathau o wybodaeth y gellir eu datgelu i ba staff
- Pwysigrwydd cadw cofnodion cywir, cyflawn a chlir o’ch cyfraniadau at y broses ddewis
- Gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer dewis staff
- Gofynion sefydliadol a gofynion y diwydiant ar gyfer dewis personél
- Yr ystod o ddulliau y gellir eu defnyddio i asesu a dewis staff a manteision ac anfanteision cymharol y rhain i’ch tîm
- Y cyfraniad y gallwch chi ei wneud at asesu a dewis staff
- Sut i wneud asesiadau teg a gwrthrychol yn erbyn meini prawf yn ystod y broses ddewis
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Rhoddir yr ymddygiadau canlynol yn ganllaw er mwyn bod yn sail i berfformiad effeithiol goruchwylydd ym maes lletygarwch
- Rydych chi’n dangos uniondeb, tegwch a chysondeb wrth wneud penderfyniadau
- Rydych chi’n gwrando’n weithredol, yn gofyn cwestiynau, yn egluro pwyntiau ac yn aralleirio datganiadau pobl eraill i wirio bod y naill a’r llall ohonoch yn deall
- Rydych chi’n cyflwyno gwybodaeth yn glir, yn gryno, yn gywir ac mewn ffyrdd sy’n hyrwyddo dealltwriaeth
- Rydych chi’n cadw gwybodaeth gyfrinachol yn ddiogel
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Mae’r safon hon yn safon penodol i’r sector ac mae ganddi gysylltiadau penodol â’r safonau canlynol yng nghyfres safonau Goruchwyliaeth ac Arweinyddiaeth Lletygarwch.