Cynorthwyo â defnyddio cyfarpar technolegol mewn gwasanaethau lletygarwch
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â defnyddio a chynorthwyo staff â defnyddio technoleg newydd mewn cyd-destun lletygarwch e.e. y gyflogres, rhestr dyletswyddau, rheoli stoc a rheolaeth. Mae’r safon hon ar gyfer arweinwyr tîm, rheolwr llinell gyntaf neu oruchwylwyr lletygarwch. Mae enghreifftiau o’r dechnoleg sy’n cael sylw yn y safon hon yn cynnwys:
• cyfarpar coginio cymhleth
• cyfarpar cymhleth ar gyfer gwneud diodydd
• cyfarpar technegol sy’n gysylltiedig â chynnal cyflenwadau
• systemau archebu a bwcio, platfformau digidol ac apiau eraill
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Gynorthwyo â defnyddio cyfarpar technolegol mewn gwasanaethau lletygarwch
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Sicrhau bod staff yn y maes rydych chi’n gyfrifol amdano yn gymwys wrth weithredu’r dechnoleg y mae’n rhaid iddynt ei defnyddio
- Monitro’r defnydd o’r dechnoleg i sicrhau ei bod yn cael ei defnyddio’n ddiogel ac yn effeithlon, er budd cwsmeriaid a’r sefydliad ac yn unol â chanllawiau’r sefydliad a’r gwneuthurwr
- Delio’n brydlon ac yn effeithiol â phroblemau o fewn eich rheolaeth, a cheisio cymorth ac arweiniad gan y bobl berthnasol os oes gennych broblemau na allwch eu datrys
- Gwirio bod gweithgareddau cynnal a chadw’n cael eu cyflawni yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, canllawiau iechyd a diogelwch a gweithdrefnau sefydliadol
- Sicrhau bod unrhyw gofnodion gofynnol yn cael eu cwblhau’n gywir
- Nodi unrhyw ffyrdd y gallai defnydd o’r dechnoleg gael ei wella, a rhoi gwybod amdanynt
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y math o dechnoleg sy’n bodoli i gefnogi gweithgareddau gwaith yn eich maes gwaith
- Buddion ac anfanteision posibl cyflwyno technolegau newydd mewn sefydliadau
- Ffyrdd o allu goresgyn neu leihau anfanteision cyflwyno technolegau newydd
- Ffynonellau gwybodaeth ac arfer gorau yn gysylltiedig ag amrywiol fathau o dechnoleg a ddefnyddir yn y diwydiant
- Gweithdrefnau sefydliadol a threfniadau wrth gefn os bydd technoleg yn y maes rydych chi’n gyfrifol amdano yn methu
- Sut i ddelio â chwsmeriaid os bydd tarfu o ganlyniad i fethiant cyfarpar
- Sut i reoli newid yn ystod cyflwyno technegol newydd
- Sut i sicrhau eich bod chi a’ch staff yn gweithredu’r dechnoleg a ddefnyddiwch yn gymwys
- Sut i nodi a mynd i’r afael ag anghenion hyfforddiant yn gysylltiedig â defnyddio technolegau
- Gweithdrefnau gweithredol y dylai staff eu dilyn wrth ddefnyddio technoleg yn y maes rydych chi’n gyfrifol amdano
- Gofynion a rhagofalon iechyd a diogelwch yn gysylltiedig â defnyddio technoleg yn y maes rydych chi’n gyfrifol amdano
- Gweithdrefnau cynnal a chadw ar gyfer y dechnoleg rydych chi’n gweithio â hi
- Sut i fonitro’r defnydd ar dechnolegau newydd yn y gweithle a sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio’n gywir
- Sut i sicrhau bod y dechnoleg yn y maes rydych chi’n gyfrifol amdano yn cael ei defnyddio’n effeithlon a’i bod yn cael ei defnyddio er budd cwsmeriaid a’r sefydliad
- Sut i ddefnyddio’r dechnoleg newydd yn eich maes mewn ffordd sy’n lleihau unrhyw effeithiau negyddol ar yr amgylchedd
- Yr ystod nodweddiadol o broblemau a allai ddigwydd gyda’r dechnoleg yn y maes rydych chi’n gyfrifol amdano a sut i ddelio â’r rhain
- Sut i rymuso aelodau staff i ddelio â phroblemau technolegol sy’n amlwg o fewn eu rheolaeth a’u harbenigedd
- Systemau cofnodi ar gyfer defnyddio a chynnal a chadw cyfarpar technolegol yn y maes rydych chi’n gyfrifol amdano a pham mae’n bwysig bod y rhain yn cael eu cynnal a chadw’n gywir
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Rhoddir yr ymddygiadau canlynol yn ganllaw er mwyn bod yn sail i berfformiad effeithiol goruchwylydd ym maes lletygarwch
- Rydych chi’n ceisio gwella perfformiad yn gyson
- Rydych chi’n dod o hyd i ffyrdd ymarferol o oresgyn rhwystrau
- Rydych chi’n cyflwyno gwybodaeth yn glir, yn gryno, yn gywir ac mewn ffyrdd sy’n hyrwyddo dealltwriaeth
- Rydych chi’n rhoi o’ch amser i gefnogi pobl eraill
- Rydych chi’n cymryd cyfrifoldeb personol am wneud i bethau ddigwydd
- Rydych chi’n hoelio sylw personol ar fanylion penodol sy’n hollbwysig i gyflawni canlyniadau llwyddiannus
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Mae’r safon hon yn safon penodol i’r sector ac mae ganddi gysylltiadau penodol â’r safonau canlynol yng nghyfres safonau Goruchwyliaeth ac Arweinyddiaeth Lletygarwch:
• HSL1-5
• HSL7
• HSL10-17
• HSL19
• HSL24
• HSL26
• HSL28
• HSL30