Darparu cyfleoedd dysgu i gydweithwyr
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â helpu cydweithwyr/staff i ddatblygu’u sgiliau trwy amrywiaeth o gyfleoedd dysgu. Mae’r safon hon ar gyfer arweinwyr tîm, rheolwr llinell gyntaf neu oruchwylwyr lletygarwch.
Dywedwyd bod hyfforddiant yn rhywbeth a wneir gan eraill i mi, ond mae dysgu yn rhywbeth rydw i’n ei wneud ar fy mhen fy hun, i mi fy hun. Nid yw llawer ohonom yn gwybod am y nifer enfawr o gyfleoedd dysgu sydd ar gael yn y gwaith. Mewn rhai sefydliadau, mae sefyllfaoedd newydd yn codi bron bob dydd; rydym ni’n wynebu heriau newydd ac yn cyfarfod â phobl newydd o bob cefndir. Mae’r holl bethau hyn yn rhoi cyfle i ni brofi a dysgu rhywbeth newydd.
Mae’n bwysig gweithio gyda chydweithwyr, gan eu helpu i wireddu’r cyfleoedd i ddysgu, p’un a yw’r rhain yn gyfleoedd ffurfiol wedi’u cynllunio neu’n sefyllfaoedd achlysurol mwy anffurfiol. Mae helpu cydweithwyr i ddeall eu dulliau dysgu personol, eu cefnogi yn ystod y broses, dathlu cyflawniadau a delio â thanberfformio i gyd yn rhannau allweddol o greu diwylliant dysgu.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Ddarparu cyfleoedd dysgu i gydweithwyr
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Hyrwyddo buddion dysgu i aelodau staff a gwneud yn siŵr bod eu parodrwydd a’u ymdrechion i ddysgu yn cael eu cydnabod
- Rhoi adborth teg, rheolaidd a defnyddiol i aelodau staff ar eu perfformiad yn y gwaith, gan drafod sut gallant wella a chytuno ar hynny
- Gweithio gydag aelodau staff i nodi a blaenoriaethu anghenion dysgu sy’n seiliedig ar unrhyw fylchau rhwng gofynion eu rôl yn y gwaith a’u gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u sgiliau presennol
- Helpu aelodau staff i nodi’r arddull(iau) neu’r cyfuniad o arddulliau dysgu sy’n gweithio orau iddyn nhw a sicrhau bod y rhain yn cael eu hystyried wrth nodi ac ymgymryd â gweithgareddau dysgu
- Gweithio gyda chydweithwyr i nodi a chael gwybodaeth am amrywiaeth o weithgareddau dysgu posibl i fynd i’r afael ag anghenion dysgu a nodwyd
- Adnabod a cheisio dysgu am y gwahaniaethau yn nisgwyliadau a dulliau gweithio unrhyw aelodau staff o wlad neu ddiwylliant gwahanol a hyrwyddo ffyrdd o weithio sy’n cyfrif am eu disgwyliadau ac yn gwneud y mwyaf o gynhyrchiant
- Trafod a chytuno â phob aelod staff ar gynllun datblygu, sy’n cynnwys gweithgareddau dysgu i’w gwneud, yr amcanion dysgu i’w cyflawni, yr adnoddau gofynnol a’r amserlen
- Gweithio gydag aelodau staff i adnabod a defnyddio cyfleoedd dysgu heb eu cynllunio
- Ceisio, a defnyddio, arbenigedd yn gysylltiedig â nodi a darparu dysgu i aelodau staff
- Cynorthwyo aelodau staff i ymgymryd â gweithgareddau dysgu, gan wneud yn siŵr bod unrhyw adnoddau gofynnol ar gael a gwneud ymdrech i ddileu unrhyw rwystrau rhag dysgu
- Mewn trafodaeth â phob aelod staff, gwerthuso p’un a yw’r gweithgareddau dysgu a wnaethant wedi cyflawni’r deilliannau a ddymunwyd a rhoi adborth cadarnhaol ar y profiad dysgu
- Gweithio gydag aelodau staff i ddiweddaru eu cynllun datblygu yng ngoleuni perfformiad, unrhyw weithgareddau dysgu a wnaed ac unrhyw newidiadau ehangach
- Annog aelodau staff i gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu eu hunain, gan gynnwys ymarfer a myfyrio ar beth maen nhw wedi’i ddysgu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Buddion dysgu i unigolion a sefydliadau a sut i hyrwyddo’r rhain ymhlith cydweithwyr
- Ffyrdd y gallwch ddatblygu ‘amgylchedd’ lle rhoddir pwys ar ddysgu a lle y mae parodrwydd ac ymdrechion i ddysgu yn cael eu cydnabod
- Pam mae’n bwysig annog cydweithwyr i gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu eu hunain
- Sut i roi adborth teg, rheolaidd a defnyddiol i gydweithwyr ar eu perfformiad gwaith
- Sut i nodi anghenion dysgu ar sail bylchau a nodwyd rhwng gofynion rolau gwaith cydweithwyr a’u gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u sgiliau presennol
- Sut gall gwerthoedd, moeseg, credoau, ffydd, defodau diwylliannol, amgyffredion a disgwyliadau unrhyw bobl o wledydd neu ddiwylliannau eraill effeithio ar eu datblygiad a’u dysgu personol
- Sut i flaenoriaethu anghenion dysgu cydweithwyr, gan gynnwys cyfrif am anghenion a blaenoriaethau sefydliadol ac anghenion datblygu personol a gyrfaol cydweithwyr
- Yr amrywiaeth o wahanol arddulliau dysgu a sut i gynorthwyo cydweithwyr i nodi’r arddull(iau) dysgu penodol neu gyfuniad o arddulliau dysgu sy’n gweithio orau iddyn nhw
- Gwahanol fathau o weithgareddau dysgu, eu manteision a’u hanfanteision a’r adnoddau gofynnol (amser, ffioedd a staff yn eu lle) a’r hyn sydd ar gael yn / i eich sefydliad
- Sut / ble i nodi gwybodaeth am wahanol weithgareddau dysgu, a chael y wybodaeth hon
- Pam mae’n bwysig bod gan gydweithwyr gynllun datblygu ysgrifenedig a beth ddylai ei gynnwys (anghenion dysgu a nodwyd), gweithgareddau dysgu i’w gwneud a’r amcanion dysgu i’w cyflawni, amserlenni ac adnoddau gofynnol)
- Sut i osod amcanion dysgu sy’n rhai CAMPUS (Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol)
- Ffynonellau arbenigedd yn gysylltiedig â nodi a darparu dysgu i gydweithwyr a beth sydd ar gael yn / i eich sefydliad o ran nodi anghenion dysgu i’ch cydweithwyr
- Pa fath o gymorth y gallai fod ei angen ar gydweithwyr i ymgymryd â gweithgareddau dysgu, yr adnoddau y mae eu hangen, y mathau o rwystrau y gallent eu hwynebu a sut gallant gael eu datrys
- Sut i werthuso p’un a yw gweithgarwch dysgu wedi cyflawni’r amcanion dysgu dymuniedig
- Pwysigrwydd adolygu a diweddaru cynlluniau ysgrifenedig yn rheolaidd yng ngoleuni perfformiad, unrhyw weithgareddau dysgu a wnaed ac unrhyw
- Sut i gyfrif am ddeddfwriaeth cydraddoldeb, unrhyw godau ymarfer perthnasol a materion amrywiaeth a chynhwysiant cyffredinol wrth ddarparu cyfleoedd dysgu i gydweithwyr
- Gofynion y diwydiant/sector am ddatblygu neu gynnal gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth a datblygiad proffesiynol
- Materion dysgu a mentrau a threfniadau penodol sy’n berthnasol yn y diwydiant/sector
- Diwylliant ac arferion gweithio’r diwydiant neu’r sector
- Gwybodaeth berthnasol am ddiben, amcanion a chynlluniau eich tîm neu’r maes rydych chi’n gyfrifol amdano neu’r sefydliad ehangach
- Rolau gwaith cydweithwyr, gan gynnwys terfynau eu cyfrifoldebau a’u hamcanion gwaith personol
- Gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau presennol cydweithwyr a bylchau ac anghenion dysgu a nodwyd yng ngwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau cydweithwyr
- Polisïau eich sefydliad yn gysylltiedig â chydraddoldeb ac amrywiaeth
- Polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad yn gysylltiedig â dysgu
- Systemau arfarnu perfformiad eich sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Rhoddir yr ymddygiadau canlynol yn ganllaw er mwyn bod yn sail i berfformiad effeithiol goruchwylydd ym maes lletygarwch
- Rydych chi’n cydnabod y cyfleoedd y mae amrywiaeth pobl yn eu cyflwyno
- Rydych chi’n dod o hyd i ffyrdd ymarferol o oresgyn rhwystrau
- Rydych chi’n rhoi o’ch amser i gefnogi pobl eraill
- Rydych chi’n ceisio deall anghenion, teimladau a chymhellion unigolion ac yn dangos diddordeb gweithgar yn eu pryderon
- Rydych chi’n annog ac yn cefnogi pobl eraill i wneud y defnydd gorau o’u galluoedd
- Rydych chi’n cydnabod cyflawniadau a llwyddiant pobl eraill
- Rydych chi’n ysbrydoli eraill gyda chyffro dysgu
- Rydych chi’n wynebu problemau perfformiad ac yn eu datrys yn uniongyrchol gyda’r bobl gysylltiedig
- Rydych chi’n dweud na i geisiadau afresymol
- Rydych chi’n dangos uniondeb, tegwch a chysondeb wrth wneud penderfyniadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Mae’r safon hon yn gysylltiedig â phob safon arall yng nghyfres safonau Goruchwyliaeth ac Arweinyddiaeth Lletygarwch.