Datblygu perthnasoedd gwaith cynhyrchiol gyda chydweithwyr
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â datblygu perthnasoedd gwaith â chydweithwyr, o fewn eich sefydliad eich hun ac o fewn sefydliadau eraill, sy’n gynhyrchiol o ran cefnogi a chyflawni eich gwaith chi a gwaith y sefydliad cyfan. Mae’r safon hon ar gyfer arweinwyr tîm, rheolwr llinell gyntaf neu oruchwylwyr lletygarwch.
Mae darparu lletygarwch gwych yn aml iawn yn ymdrech tîm go iawn. Yn aml, bydd cwsmeriaid yn gadael heb lawn sylweddoli cymaint o wahanol bobl sydd wedi bod â rhan mewn darparu profiad mor anhygoel iddynt.
Yn ei hanfod, mae’n ymwneud â sut rydym ni’n gweithio gyda’n gilydd. Dyma pam mae mor bwysig adeiladu perthnasoedd cryf a chynhyrchiol iawn gyda’n cydweithwyr. Mae unrhyw un rydych chi’n gweithio gyda nhw, lle bynnag y maen nhw yn eich sefydliad, yn gydweithwyr i chi. Gallant fod yn aelodau o’ch tîm chi neu rywle arall yn y sefydliad. Gallant fod ar lefel debyg neu wahanol i chi, neu gall eu cyfrifoldebau fod yn wahanol, er enghraifft eich rheolwr llinell.
Mae parchu, gwerthfawrogi a chefnogi cydweithwyr yn amhrisiadwy wrth adeiladu tîm gwych sy’n gallu darparu profiad perffaith i gwsmeriaid.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Ddatblygu perthnasoedd gwaith cynhyrchiol â chydweithwyr
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Sefydlu perthynas waith gyda phob cydweithiwr sy’n berthnasol i’r gwaith sy’n cael ei gyflawni
- Cydnabod, cytuno ar, a pharchu rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr ac, yn enwedig mewn sefyllfaoedd rheoli matrics, gofynion eich rheolwyr
- Sefydlu a chyfrif am flaenoriaethau, disgwyliadau ac awdurdod cydweithwyr mewn penderfyniadau a gweithredoedd
- Creu amgylchedd lle mae pobl yn ymddiried yn, ac yn parchu, ei gilydd lle nad oes gennych awdurdod, neu lle’r ydych chi’n rhannu awdurdod, dros y bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw
- Edrych ar sefyllfaoedd a materion anodd o safbwynt eich cydweithwyr a rhoi cymorth, lle bo angen, i symud pethau yn eu blaen
- Cyflawni cytundebau a wnaed gyda chydweithwyr a rhoi gwybod iddynt pan fydd y rhain wedi’u cyflawni
- Rhoi gwybod yn brydlon i gydweithwyr am unrhyw anawsterau neu pan fydd hi’n amhosibl cyflawni cytundebau
- Nodi a datrys gwrthdaro buddiannau ac anghytundebau gyda chydweithwyr mewn ffyrdd sy’n lleihau niwed i’r gwaith sy’n cael ei gyflawni
- Cyfnewid gwybodaeth ac adnoddau gyda chydweithwyr i sicrhau bod pob parti yn gallu gweithio’n effeithiol
- Rhoi adborth i gydweithwyr ar eu perfformiad
- Cael adborth gan gydweithwyr ar eich perfformiad eich hun er mwyn nodi meysydd i’w gwella
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Buddion datblygu perthynas waith gynhyrchiol gyda chydweithwyr
- Pwysigrwydd creu amgylchedd lle mae pobl yn ymddiried yn, ac yn parchu, ei gilydd lle nad oes gennych awdurdod, neu lle’r ydych chi’n rhannu awdurdod, dros y bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw
- Pwysigrwydd deall sefyllfaoedd a materion anodd o safbwynt eich cydweithwyr a rhoi cymorth, lle bo’r angen, i symud pethau yn eu blaen
- Egwyddorion cyfathrebu effeithiol a sut i’w rhoi ar waith er mwyn cyfathrebu’n effeithiol â chydweithwyr
- Sut i nodi anghytundebau a gwrthdaro buddiannau gyda chydweithwyr a’r technegau / mesurau i’w datrys neu eu dileu
- Sut i gyfrif am faterion amrywiaeth a chynhwysiant wrth ddatblygu perthynas waith â chydweithwyr
- Pwysigrwydd cyfnewid gwybodaeth ac adnoddau gyda chydweithwyr
- Sut i gael a defnyddio adborth gan gydweithwyr ar eich perfformiad
- Sut i roi adborth defnyddiol i gydweithwyr ar eu perfformiad
- Rheoliadau a chodau ymarfer perthnasol sy’n berthnasol yn y diwydiant neu’r sector
- Safonau ymddygiad a pherfformiad a diwylliant gweithio yn y diwydiant neu’r sector
- Gwaith presennol a gwaith yn y dyfodol sy’n cael ei gyflawni a chydweithwyr sy’n berthnasol i’r gwaith sy’n cael ei gyflawni, eu rolau gwaith a’u cyfrifoldebau
- Prosesau o fewn y sefydliad ar gyfer gwneud penderfyniadau
- Cyfrifoldebau a pherthnasoedd rheolwyr llinell o fewn y sefydliad
- Gwerthoedd a diwylliant y sefydliad, a grym, dylanwad a gwleidyddiaeth o fewn y sefydliad
- Safonau ymddygiad a pherfformiad a ddisgwylir yn y sefydliad
- Gwybodaeth ac adnoddau y gallai fod eu hangen ar amrywiol gydweithwyr
- Cytundebau gyda chydweithwyr
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Rhoddir yr ymddygiadau canlynol yn ganllaw er mwyn bod yn sail i berfformiad effeithiol goruchwylydd ym maes lletygarwch
- Rydych chi’n cyflwyno gwybodaeth yn glir, yn gryno, yn gywir ac mewn ffyrdd sy’n hyrwyddo dealltwriaeth
- Rydych chi’n ceisio deall anghenion a chymhellion pobl
- Rydych chi’n rhoi o’ch amser i gefnogi pobl eraill
- Rydych chi’n cytuno’n glir ar yr hyn sydd i’w ddisgwyl gan bobl eraill ac yn eu dwyn i gyfrif
- Rydych chi’n gweithio i ddatblygu awyrgylch o broffesiynoldeb a chymorth tuag at eich gilydd
- Rydych chi’n modelu ymddygiad sy’n dangos parch, cymwynasgarwch a chydweithrediad
- Rydych chi’n cadw addewidion ac yn cyflawni ymrwymiadau
- Rydych chi’n ystyried effaith eich gweithredoedd ar bobl eraill
- Rydych chi’n dweud na i geisiadau afresymol
- Rydych chi’n dangos parch tuag at safbwyntiau a gweithredoedd pobl eraill
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Mae’r safon hon yn gysylltiedig â phob safon arall yng nghyfres safonau Goruchwyliaeth ac Arweinyddiaeth Lletygarwch.