Goruchwylio gwasanaethau dillad gwely

URN: PPLHSL18
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch Goruchwylio ac Arwain
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â chynnal y gwasanaeth dillad gwely ac mae’n debygol o gael ei defnyddio gan oruchwylydd sy’n gyfrifol am y gweithgareddau yn y maes gwaith yn ddyddiol, o dan gyfarwyddyd y rheolwr perthnasol.

I ddarparu gwasanaeth dillad gwely effeithiol, mae’n hanfodol sicrhau cyfathrebu da ag adrannau eraill yn y sefydliad, yn enwedig y dderbynfa (swyddfa flaen). Er enghraifft, ni all y swyddfa flaen neilltuo ystafell hyd nes bydd wedi’i glanhau a’i harchwilio gan y tîm cadw tŷ ac mae’r gwasanaeth dillad gwely yn rhan allweddol o’r broses hon. Mae gwesteion yn disgwyl dillad gwely ffres a glân yn ystod eu harhosiad. Y gwasanaeth dillad gwely sy’n gyfrifol am sicrhau bod hyn yn digwydd ac y bodlonir neu rhagorir ar ddisgwyliadau’r gwestai.

Mae goruchwylio’r gwasanaeth dillad gwely yn cynnwys sicrhau bod yr holl staff wedi’u briffio’n llawn a’u bod yn gallu cynrychioli eich sefydliad i gwsmeriaid. Mae’n cynnwys bod â gweithdrefnau yn eu lle ond, hefyd, cynlluniau wrth gefn rhag ofn aiff yr pethau o chwith. Mae’n cynnwys monitro’r gwasanaeth yn gyson, casglu adborth gan staff a gwesteion ar berfformiad a defnyddio’r adborth hwn i geisio ffyrdd o wella’n barhaus.

Mae’r safon hon yn delio â pharatoi, goruchwylio ac adolygu’r gwasanaeth, gan gynnwys cynllunio cyfarpar a chyflenwadau, paratoi rotâu staff, briffio staff a chasglu adborth gan gwsmeriaid.

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Oruchwylio gwasanaethau dillad gwely


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Dyrannu staff a’u briffio ar ddyletswyddau, gweithdrefnau perthnasol ac unrhyw amrywiadau’n gysylltiedig â’u harferion gwaith
  2. Sicrhau bod gan staff y sgiliau, y wybodaeth a’r adnoddau y mae eu hangen arnynt pan fydd eu hangen arnynt ac annog staff i ofyn cwestiynau os bydd gwybodaeth nad ydynt yn ei deall
  3. Gwneud yn siŵr bod eich staff yn dilyn gweithdrefnau’r gwasanaeth dillad gwely ac yn ymddwyn a chyflwyno’u hunain yn unol â gofynion a safonau sefydliadol
  4. Arwain staff i adnabod cwsmeriaid gwahanol a’u hanghenion go iawn ac anghenion canfyddedig a chyfathrebu â chwsmeriaid mewn ffordd sy’n annog profiad cadarnhaol i gwsmeriaid
  5. Gwneud yn siŵr bod y gwasanaeth dillad gwely yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau’r diwydiant, codau proffesiynol a pholisïau sefydliadol perthnasol
  6. Rhoi gwybod i’ch staff a’ch cwsmeriaid am unrhyw newidiadau i’r gwasanaeth a all effeithio arnyn nhw
  7. Monitro ansawdd gwaith a chynnydd yn erbyn cynlluniau a gweithredu’n effeithiol i reoli problemau a all darfu ar y gwasanaeth dillad gwely pan fyddant yn digwydd, gan ddod o hyd i ffyrdd ymarferol o oresgyn rhwystrau
  8. Rheoli costau, gwneud y defnydd gorau o adnoddau sydd ar gael a cheisio ffynonellau cymorth newydd yn rhagweithiol pan fydd problemau’n codi
  9. Monitro ac adolygu gweithdrefnau i sicrhau bod y gwasanaeth yn bodloni anghenion cwsmeriaid
  10. Casglu a throsglwyddo adborth a gwelliannau argymelledig i’r bobl berthnasol yn unol â gofynion eich sefydliad
  11. Rhoi adborth i staff i’w helpu i wella’u perfformiad, lle bo’n briodol
  12. Defnyddio dulliau effeithiol i gasglu, storio ac adalw gwybodaeth, cwblhau’r cofnodion gofynnol yn gywir ac adrodd ar berfformiad i gefnogi’r gwasanaeth, yn unol â’ch gweithdrefnau sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Rolau a chyfrifoldebau gwahanol bobl yn eich adran ac yn y sefydliad sy’n gysylltiedig â rhedeg y gwasanaeth dillad gwely
  2. Amcanion a pholisïau eich sefydliad sy’n berthnasol i redeg y gwasanaeth dillad gwely
  3. Pam mae’n bwysig cael cynlluniau wrth gefn a sut i’w datblygu nhw
  4. Sut i ysgrifennu gweithdrefnau a chyfarwyddiadau gwaith
  5. Sut i amcangyfrif yr amser sy’n ofynnol ar gyfer gweithgareddau yn y gwasanaeth dillad gwely
  6. Sut i amcangyfrif eich gofynion am adnoddau ychwanegol ar gyfer gweithgareddau yn y gwasanaeth dillad gwely a phwy i droi atynt am gymeradwyaeth ar gyfer defnyddio’r adnoddau ychwanegol
  7. Sut mae’r gwasanaeth dillad gwely yn integreiddio ag adrannau eraill yn y sefydliad a beth allai ddigwydd os na fydd y gwasanaeth dillad gwely a’r adrannau eraill yn cydweithio
  8. Sut i weithredu gofynion perthnasol deddfwriaeth iechyd a diogelwch, cyflogaeth a chyfle cyfartal a rheoliadau a chodau ymarfer perthnasol eraill sy’n benodol i’r diwydiant
  9. Sut i gyfathrebu’n effeithiol ag eraill ac esbonio gweithdrefnau i staff, gan gyfrif am eu galluoedd a’u hamgylchiadau
  10. Sut i fonitro perfformiad staff yn erbyn safonau eich sefydliad
  11. Y mathau o broblemau sy’n debygol o ddigwydd wrth redeg gwasanaeth dillad gwely a sut i ddelio â nhw
  12. Gwahanol ffyrdd o gwblhau a storio cofnodion, papur a chyfrifiadurol, a manteision ac anfanteision pob un ohonynt
  13. Pa gamau y dylech eu cymryd pan na fodlonir gofynion cyfreithiol
  14. Beth yw terfynau eich awdurdod wrth ddelio â phroblemau a phwy dylech droi atynt pan nad oes gennych awdurdod i roi ateb i broblem ar waith
  15. Pam mae’n bwysig ceisio barn a chael adborth gan eich staff a’ch cwsmeriaid a sut i gasglu a dadansoddi adborth
  16. Y mathau o argymhellion y gellid eu gwneud i fodloni anghenion cwsmeriaid a gwella effeithlonrwydd a phwy dylech gyflwyno argymhellion iddynt a sut i ategu’r argymhellion gyda thystiolaeth briodol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

Rhoddir yr ymddygiadau canlynol yn ganllaw er mwyn bod yn sail i berfformiad effeithiol goruchwylydd ym maes lletygarwch

  1. Rydych chi’n gosod esiamplau o lendid a chyflwyniad, ac mae gennych yr hyder i ddelio â phroblemau yn effeithiol ac yn brydlon
  2. Rydych chi’n rhyddhau gwybodaeth briodol yn brydlon i’r bobl sydd angen y wybodaeth ac sydd â hawl i’w chael
  3. Rydych chi’n trosglwyddo’ch gwybodaeth i gefnogi datblygiad staff a chydweithwyr
  4. Rydych chi’n modelu ymddygiad sy’n dangos parch, cymwynasgarwch a chydweithrediad
  5. Rydych chi’n adnabod problemau mynych ac yn hyrwyddo newidiadau i strwythurau, systemau a phrosesau i’w datrys

Sgiliau


Geirfa

Mae dulliau effeithiol ar gyfer casglu, storio ac adalw gwybodaeth yn cynnwys dulliau cost effeithiol, amser effeithiol a moesegol.

Mae gwybodaeth yn cynnwys gwybodaeth gan gwsmeriaid a staff.


Dolenni I NOS Eraill

Mae’r safon hon yn safon penodol i’r sector ac mae ganddi gysylltiadau penodol â’r safonau canlynol yng nghyfres safonau Goruchwyliaeth ac Arweinyddiaeth Lletygarwch:
• HSL1-6
• HSL14
• HSL17
• HSL19
• HSL23
• HSL24
• HSL29


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLHSL18

Galwedigaethau Perthnasol

Goruchwyliwr cadw tŷ, Goruchwylydd, Arweinwyr tîm

Cod SOC

6340

Geiriau Allweddol

goruchwylio, dillad gwely