Goruchwylio gwasanaethau peiriannau gwerthu
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynnal a chadw gwasanaeth peiriannau gwerthu ac mae’n debygol o gael ei defnyddio gan oruchwylydd sy’n gyfrifol am y gweithgareddau yn y maes gwaith yn ddyddiol, o dan gyfarwyddyd y rheolwr perthnasol.
Yn aml, nid yw cwsmeriaid sy’n defnyddio peiriannau gwerthu yn ddyddiol yn gwybod am y gwaith sy’n digwydd yn y cefndir a'r tu ôl i’r peiriannau. Mae darparu gwasanaeth peiriannau gwerthu o safon, sy’n gost effeithiol, yn gofyn am amrywiaeth o sgiliau a gwybodaeth, o ddeall yr adnoddau y mae eu hangen i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu’n effeithlon ac yn ddiogel i feysydd penodol iawn, fel gwybod pa gynhyrchion allai achosi adweithiau alergaidd a sut i atal hyn rhag digwydd.
Mae’r safon hon yn delio â monitro a goruchwylio’r gwasanaeth ac mae’n cynnwys briffio staff ar weithdrefnau ac amserlenni gwaith, adolygu gwerthiannau, archwilio peiriannau gwerthu a delio â phroblemau. Hefyd, mae’n cwmpasu’r camau allweddol wrth sicrhau bod bwydydd, diodydd ac eitemau eraill yn cael eu cynnal a’u dosbarthu yn y cyflwr gorau posibl, eu bod yn bodloni’r gofynion angenrheidiol ar gyfer safonau a hylendid bwyd, a bod y gwasanaeth yn cael ei addasu i ddarparu ar gyfer gofynion.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Oruchwylio gwasanaethau peiriannau gwerthu
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Datblygu gweithdrefnau ac amserlenni gwaith a gwneud yn siŵr eich bod chi a’ch staff yn cydymffurfio â nhw, gan ddiweddaru’r staff am unrhyw ofynion newydd
- Gwneud yn siŵr bod gan staff y sgiliau, y wybodaeth a’r adnoddau y mae eu hangen arnynt pan fydd eu hangen arnynt ac annog staff i ofyn cwestiynau os bydd gwybodaeth nad ydynt yn ei deall
- Cyflawni archwiliadau i wneud yn siŵr bod y gwasanaeth peiriannau gwerthu yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau’r diwydiant, codau proffesiynol a pholisïau sefydliadol perthnasol
- Adnabod newidiadau mewn amgylchiadau yn brydlon ac addasu cynlluniau a gweithgareddau yn unol â hynny; dod o hyd i ffyrdd ymarferol o oresgyn rhwystrau a chymryd camau effeithiol i reoli problemau a all darfu ar wasanaeth y peiriannau gwerthu
- Arwain trwy esiampl a briffio staff i chwilio am broblemau a rhoi gwybod amdanynt pan fyddant yn digwydd, ac ymateb yn adeiladol; adnabod problemau mynych a hyrwyddo newidiadau i strwythurau, systemau a phrosesau i ddatrys y rhain
- Monitro ansawdd gwaith a chynnydd yn erbyn cynlluniau a gweithredu’n effeithiol i reoli problemau gyda’r gwasanaeth peiriannau gwerthu pan fyddant yn digwydd, gan ddod o hyd i ffyrdd ymarferol o oresgyn rhwystrau
- Rheoli costau, gwneud y defnydd gorau o adnoddau sydd ar gael a cheisio ffynonellau cymorth newydd yn rhagweithiol pan fydd problemau’n codi
- Rhoi gwybod i gwsmeriaid am unrhyw newidiadau i’r gwasanaeth a all effeithio arnyn nhw
- Monitro ac adolygu’r gwasanaeth peiriannau gwerthu i nodi sut gallai’r gwasanaeth gael ei wella, gan geisio gwella cynhyrchion a gwasanaethau yn barhaus ac arallgyfeirio, lle bo’n briodol
- Casglu adborth ar y gwasanaeth gan staff a chwsmeriaid
- Rhoi adborth adeiladol i staff i’w helpu i wella’u perfformiad, lle bo’n briodol
- Defnyddio dulliau effeithiol i gasglu, storio ac adalw gwybodaeth, cwblhau’r cofnodion gofynnol yn gywir ac adrodd ar berfformiad i gefnogi’r gwasanaeth peiriannau gwerthu, yn unol â’ch gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Pa ofynion cyfreithiol sy’n rheoli gweithrediadau peiriannau gwerthu
- Beth yw polisïau eich sefydliad ar gyfer darparu’r gwasanaeth peiriannau gwerthu
- Pa ddewis o gynhyrchion sy’n cael eu darparu a pha fathau o beiriannau sy’n cael eu defnyddio gan eich sefydliad
- Pa gynhyrchion sy’n cael eu gwerthu all achosi adweithiau alergaidd a pha gamau y mae angen eu cymryd i atal adweithiau i alergenau posibl
- Sut i gyfrannu at ddatblygu gweithdrefnau ar gyfer y gwasanaeth peiriannau
- Beth yw polisïau eich sefydliad ar gyfer nodi namau, tor-diogelwch a difrod, a pham mae angen cynlluniau wrth gefn arnoch i ddelio â phroblemau gyda’r gwasanaeth peiriannau gwerthu
- Yr adnoddau y mae eu hangen arnoch ar gyfer gweithredu’r gwasanaeth peiriannau gwerthu a sut i’w cael
- Pa adnoddau y mae eu hangen arnoch i sicrhau hylendid a chynnal a chadw’r gwasanaeth peiriannau gwerthu
- Pa systemau sydd ar waith i sicrhau bod staff yn dilyn gweithdrefnau cywir a sut dylech roi’r rhain ar waith
- Pam mae’n bwysig cysylltu â chwsmeriaid a staff
- Sut i gyfleu gweithdrefnau i’ch staff
- Pa weithdrefnau dylai staff eu dilyn ar gyfer glanhau, llenwi a gwacau arian o beiriannau, a sut i ddelio ag anghysondebau ariannol
- Sut dylai cynhyrchion gael eu cyflwyno a’u harddangos a pha mor aml dylech chi ail-lenwi’r peiriannau yn y maes rydych chi’n gyfrifol amdano
- Pa dymereddau ddylai gael eu cynnal ar gyfer y cynhyrchion rydych chi’n gyfrifol amdanynt a pham mae hyn yn bwysig
- Y gweithdrefnau cofnodi sy’n berthnasol i gynnal a chadw a gweithredu’r gwasanaeth (gan gynnwys derbyniadau arian, rheoli’r tymheredd a chwynion) a pham mae hyn yn bwysig
- Sut i fonitro ac adolygu’r gwasanaeth, gan gynnwys casglu adborth gan gwsmeriaid a staff ac adolygu gwerthiannau
- Pa weithdrefnau dylech chi eu defnyddio i fonitro gwerthiannau, pam ddylech chi roi gwybod am amrywiadau ac i bwy ddylech chi roi gwybod am yr amrywiadau hyn
- Beth yw’r mathau o broblemau a allai effeithio ar y gwasanaeth peiriannau gwerthu a sut i reoli’r rhain
- Sut i ddefnyddio adborth gan bobl eraill yn adeiladol a sut i annog pobl eraill i roi adborth
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Rhoddir yr ymddygiadau canlynol yn ganllaw er mwyn bod yn sail i berfformiad effeithiol goruchwylydd ym maes lletygarwch
- Rydych chi’n nodi anghenion gwybodaeth pobl
- Rydych chi’n cyflwyno gwybodaeth yn glir, yn gryno, yn gywir ac mewn ffyrdd sy’n hyrwyddo dealltwriaeth
- Rydych chi’n dod o hyd i ffyrdd ymarferol o oresgyn rhwystrau
- Rydych chi’n rhyddhau gwybodaeth briodol yn brydlon i’r bobl sydd angen y wybodaeth ac sydd â hawl i’w chael
- Rydych chi’n adnabod newidiadau mewn amgylchiadau yn brydlon ac yn addasu cynlluniau a gweithgareddau yn unol â hynny
- Rydych chi’n adnabod problemau mynych ac yn hyrwyddo newidiadau i strwythurau, systemau a phrosesau i’w datrys
- Rydych chi’n gwella cynhyrchion a gwasanaethau yn barhaus ac yn ceisio arallgyfeirio, lle bo’n briodol
Sgiliau
Geirfa
Mae dulliau effeithiol ar gyfer casglu, storio ac adalw gwybodaeth yn cynnwys dulliau cost effeithiol, amser effeithiol a moesegol.
Mae gwybodaeth yn cynnwys gwybodaeth gan gwsmeriaid a staff.
Dolenni I NOS Eraill
Mae’r safon hon yn safon penodol i’r sector ac mae ganddi gysylltiadau penodol â’r safonau canlynol yng nghyfres safonau Goruchwyliaeth ac Arweinyddiaeth Lletygarwch:
• HSL1-6
• HSL14
• HSL19
• HSL23