Goruchwylio’r storfa / seler a’r cownter dosbarthu gwin
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â goruchwylio staff i gynnal gwin yn y cyflwr gorau posibl. Hefyd, mae’n delio â chynnal a chadw stoc wrth y cownter dosbarthu.
Nid yw pawb yn arbenigwr ar win, ond mae pobl yn dod yn fwy deallus drwy’r amser ac mae disgwyliadau am win o safon gyson yn arferol erbyn hyn. Mae cynnal seler o safon i storio, trin a dosbarthu gwin, a lleihau colli stoc trwy ddifrod neu ddifetha, yn hanfodol i gynnig cynnyrch o safon a lleihau costau.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Oruchwylio’r storfa / seler a’r cownter dosbarthu gwin
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Dyrannu staff a’u briffio ar ddyletswyddau, gweithdrefnau perthnasol ac unrhyw amrywiadau sy’n gysylltiedig â’u harferion gwaith
- Cyflawni archwiliadau rheolaidd i sicrhau bod eich staff yn dilyn gweithdrefnau storfa / seler a chownter dosbarthu gwin, gan gynnwys defnyddio cyfarpar gwasanaeth, tymereddau storio a delio â stoc sydd wedi’i ddifrodi
- Gwneud yn siŵr bod gweithrediadau storfa / seler a chownter dosbarthu gwin yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau’r diwydiant, codau proffesiynol a pholisïau sefydliadol perthnasol ar gyfer storio a gwerthu gwin
- Nodi risgiau posibl i’r gweithrediadau storfa / seler a chownter dosbarthu gwin a rhoi cynlluniau wrth gefn ar waith i’w lleihau
- Arwain trwy esiampl a briffio staff i chwilio am broblemau a rhoi gwybod amdanynt pan fyddant yn digwydd, ac ymateb yn adeiladol
- Monitro ansawdd gwaith a chynnydd yn erbyn cynlluniau a gweithredu’n effeithiol i reoli problemau a all darfu ar weithrediadau storfa / seler a chownter dosbarthu gwin pan fyddant yn digwydd, gan ddod o hyd i ffyrdd ymarferol o oresgyn rhwystrau
- Rheoli costau trwy sicrhau eich bod chi a’ch staff yn storio ac yn trin gwin a stoc cownter dosbarthu yn gywir, mewn ffordd sy’n lleihau difrod i boteli, cynwysyddion, pecynnu neu gynnwys ac sy’n gwneud y mwyaf o ansawdd cynnyrch a gwasanaeth
- Monitro ac adolygu gweithdrefnau storfa / seler a chownter dosbarthu gwin i nodi ac awgrymu ffyrdd o wella’u heffeithlonrwydd
- Rhoi adborth i staff i’w helpu i wella’u perfformiad, lle bo’n briodol
- Defnyddio dulliau effeithiol i gasglu, storio ac adalw gwybodaeth, cwblhau’r cofnodion gofynnol yn gywir ac adrodd ar berfformiad i gefnogi gwasanaeth cownter dosbarthu, yn unol â’ch gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y ddeddfwriaeth iechyd, diogelwch a hylendid sy’n gysylltiedig â gweithredu seler win a sut i sicrhau bod y rhain yn cael eu bodloni yn eich maes gweithredu
- Yr effaith y gall gofal stociau gwin ei chael ar gwsmeriaid, gweithwyr a phroffidioldeb y sefydliad
- Y mathau o win rydych chi’n gyfrifol amdanynt, y gofynion penodol ar gyfer storio a gofalu am y rhain a’r gweithdrefnau y mae angen iddynt fod ar waith i sicrhau bod stoc gwin yn cael ei storio’n gywir ac i leihau difrod i labeli a photeli
- Deddfwriaeth, codau’r diwydiant ac arfer gorau perthnasol sy’n gysylltiedig â gwerthu gwin
- Halogyddion ffisegol, cemegol, microbiolegol ac alergenaidd a sut i reoli traws-halogi yn y maes rydych chi’n gyfrifol amdano
- Y mathau o anawsterau sy’n debygol o godi yn y maes rydych chi’n gyfrifol amdano a sut i baratoi ar gyfer y rhain a delio â nhw
- Y math o gyfarpar gwasanaeth a gwydrau a ddefnyddir yn nodweddiadol wrth werthu gwin (gan gynnwys gwin drafft) a sut dylai’r rhain gael eu defnyddio
- Sut i gynnal amodau amgylcheddol cywir yn y storfa / seler win
- Pam mae angen cynnal diogeledd o fewn y seler win
- Yr egwyddorion a’r gweithdrefnau sy’n ofynnol ar gyfer glanhau a diheintio ardaloedd gwasanaeth, cyfarpar a gwydrau yn foddhaol
- Sut i ymateb i ddiffygion mae cwsmeriaid yn sylwi arnynt mewn gwinoedd
- Y wybodaeth yn gysylltiedig â’r seler win / storfa win y mae angen ei chofnodi a sut dylid gwneud hyn
- Sut i fonitro staff a gwneud yn siŵr eu bod yn cael hyfforddiant priodol i gyflawni eu cyfrifoldebau a sut i roi adborth iddynt i’w helpu i wella’u perfformiad
- Sut i fonitro a chynnal systemau cylchdroi stoc
- Sut i roi gweithdrefnau ar waith ar gyfer monitro stociau gwin
- Sut i adnabod stoc gwin sydd wedi’i ddifrodi neu sydd islaw’r safon a’r camau y dylid eu cymryd i ymateb i’r canfyddiadau
- Sut i gasglu adborth a gweithredu arno
- Pwysigrwydd cyfrannu at werthuso gweithdrefnau a sut i wneud hynny yn eich sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Rhoddir yr ymddygiadau canlynol yn ganllaw er mwyn bod yn sail i berfformiad effeithiol goruchwylydd ym maes lletygarwch
- Rydych chi’n dangos angerdd tuag at gynhyrchion a gwasanaeth diodydd o ansawdd uchel
- Rydych chi’n ymateb yn gadarnhaol ac yn greadigol i anawsterau
- Rydych chi’n cytuno ar amcanion cyflawnadwy ar eich cyfer eich hun ac yn perfformio’n gyson ac yn ddibynadwy
- Rydych chi’n rhyddhau gwybodaeth briodol yn brydlon i’r bobl sydd angen y wybodaeth ac sydd â hawl i’w chael
- Rydych chi’n adnabod problemau mynych ac yn hyrwyddo newidiadau i strwythurau, systemau a phrosesau i’w datrys
Sgiliau
Geirfa
Mae dulliau effeithiol ar gyfer casglu, storio ac adalw gwybodaeth yn cynnwys dulliau cost effeithiol, amser effeithiol a moesegol.
Dolenni I NOS Eraill
Mae’r safon hon yn safon penodol i’r sector ac mae ganddi gysylltiadau penodol â’r safonau canlynol yng nghyfres safonau Goruchwyliaeth ac Arweinyddiaeth Lletygarwch:
• HSL1-6
• HSL11
• HSL13
• HSL19
• HSL25
• HSL26
• HSL27
• HSL28