Rheoli derbyn, storio neu anfon nwyddau
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â rheoli derbyn, storio neu anfon nwyddau. Mae’r safon hon ar gyfer arweinwyr tîm, rheolwyr llinell gyntaf neu oruchwylwyr lletygarwch.
Mae’r gadwyn logisteg o nwyddau yn cyrraedd, cael eu nwyddau’n ddiogel, ac wedyn eu hanfon ymlaen i’r gyrchfan nesaf, yn gofyn am gynllunio, monitro a rheoli gofalus.
Enghraifft amlwg yw nwyddau darfodus sydd ag oes gymharol fyr. Fodd bynnag, mae’r holl nwyddau sy’n cael eu cludo a’u storio yn destun unrhyw nifer o beryglon posibl ac, felly, mae angen gwyliadwriaeth gyson arnynt a chynlluniau wrth gefn i ddelio ag unrhyw risgiau a nodwyd, a allai godi.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Reoli derbyn, storio neu anfon nwyddau
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cadarnhau bod y nwyddau o’r ansawdd a’r math gofynnol
- Pennu’r amodau storio a’r cyfarpar sy’n ofynnol i reoli’r nwyddau
- Asesu capasiti’r cyfleuster storio a nodi ardaloedd priodol ar gyfer derbyn, storio neu anfon nwyddau
- Trefnu symud neu gylchdroi nwyddau i gynorthwyo â derbyn, storio neu anfon nwyddau
- Sicrhau bod unrhyw weithgareddau monitro, profion a threfniadau storio eraill sy’n ofynnol ar gyfer y nwyddau yn cael eu cyflawni yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Nodi a chadarnhau’r gofynion ar gyfer cyfleusterau a chyfarpar i’w defnyddio gyda’r nwyddau
- Defnyddio a chynnal a chadw adnoddau logisteg y sefydliad yn effeithiol i reoli derbyn, storio ac anfon nwyddau
- Darparu gwybodaeth am y nwyddau a’u gofynion i’r holl bobl berthnasol gan ddefnyddio dulliau cyfathrebu priodol
- Nodi unrhyw faterion iechyd, diogelwch a diogeledd sy’n berthnasol i reoli’r nwyddau
- Nodi unrhyw broblemau gyda rheoli’r nwyddau a chymryd y camau priodol i ddelio â nhw
- Rhoi gwybod am weithgareddau gwaith a’u cofnodi yn y systemau gwybodaeth priodol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Cydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, rheoliadau, safonau a gweithdrefnau sefydliadol gwaith a diogelwch perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Ffynonellau gwybodaeth am gapasiti a chyfyngiadau cyfleuster storio
- Mathau o nwyddau i’w derbyn, eu storio neu eu danfon
- Ardaloedd storio sy’n berthnasol i’r math o nwyddau i’w derbyn, eu storio neu eu danfon
- Gofynion arbennig sy’n gysylltiedig â derbyn, storio neu ddanfon nwyddau
- Monitro a phrofi systemau a gweithdrefnau
- Dulliau cylchdroi a symud stoc
- Yr adnoddau sydd ar gael yn y sefydliad
- Mathau o broblemau sy’n deillio o reoli prosesu nwyddau
- Ffynonellau gwybodaeth am ddeddfwriaeth a rheoliadau perthnasol
- Deddfwriaeth a rheoliadau sy’n berthnasol i’r maes rydych chi’n gyfrifol amdano
- Gofynion cyfreithiol ar gyfer storio a dosbarthu nwyddau a deunyddiau penodol
- Cyfrifoldebau adrodd a systemau gwybodaeth a ddefnyddir gan y sefydliad ar gyfer gweithgareddau gwaith penodol
- Arferion gweithio, gweithdrefnau gweithredu, canllawiau a chodau ymarfer
- Rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr gwahanol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Rhoddir yr ymddygiadau canlynol yn ganllaw er mwyn bod yn sail i berfformiad effeithiol goruchwylydd ym maes lletygarwch
- Rydych chi’n adnabod problemau mynych ac yn hyrwyddo newidiadau i strwythurau, systemau a phrosesau i’w datrys
- Rydych chi’n myfyrio’n rheolaidd ar eich profiadau chi a phrofiadau pobl eraill ac yn eu defnyddio i lywio gweithredu yn y dyfodol
- Rydych chi’n effro i beryglon posibl
- Rydych chi’n cyfrifo risgiau ac yn datblygu cynlluniau wrth gefn i ddelio â digwyddiadau annisgwyl a all rwystro cyflawni amcanion
- Rydych chi’n hoelio sylw personol ar fanylion penodol sy’n hollbwysig i gyflawni canlyniadau llwyddiannus
- Rydych chi’n cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau’r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau proffesiynol, ac yn sicrhau bod pobl eraill yn cydymffurfio â nhw
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Mae’r safon hon yn safon penodol i’r sector ac mae ganddi gysylltiadau penodol â’r safonau canlynol yng nghyfres safonau Goruchwyliaeth ac Arweinyddiaeth Lletygarwch:
• HSL3
• HSL7
• HSL8
• HSL11
• HSL13
• HSL15
• HSL17
• HSL18
• HSL20
• HSL21
• HSL22
• HSL26
• HSL30