Goruchwylio gweithrediadau seler a storio diodydd

URN: PPLHSL13
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch Goruchwylio ac Arwain
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â goruchwylio storfeydd diodydd a seleri i sicrhau bod diodydd ar gael i’w defnyddio yn y cyflwr gorau posibl.

Mae cynnal gweithrediad seler effeithlon ac effeithiol yn hanfodol. Gall llinellau glân, tymereddau cywir a newidynnau eraill i gyd effeithio ar safon derfynol y diodydd rydych chi’n eu cynnig ac, mewn achosion eithafol, cadw neu golli cwsmeriaid!

Yn allweddol i hyn yw’r gallu i sicrhau bod yr holl weithdrefnau angenrheidiol yn cael eu dilyn yn gywir, gan holl aelodau’r tîm. Mae rheolaeth dda ar seler yn cynnwys monitro perfformiad yn rheolaidd, nodi problemau posibl a datblygu strategaethau i wrthsefyll unrhyw beth a allai fynd o’i le. Mae’n cynnwys adnabod problemau mynych a gwneud yn siŵr bod pobl berthnasol yn y sefydliad yn gwybod amdanynt.

Mae’r safon hon yn ymwneud â’r meysydd hyn a meysydd eraill sy’n hollbwysig i reoli gweithrediad seler yn dda.

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Oruchwylio gweithrediadau seler a storio diodydd


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Sicrhau eich bod chi a’ch staff yn dilyn gweithdrefnau cytunedig ar
    gyfer seleri a storio diodydd i wneud y mwyaf o safon diodydd a lleihau gwastraff
  2. Sicrhau bod gweithrediadau seler a storio diodydd yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau’r diwydiant, codau proffesiynol a pholisïau sefydliadol
  3. Nodi risgiau posibl i’r gweithrediadau seler a storio diodydd a gweithredu cynlluniau wrth gefn i’w lleihau
  4. Arwain trwy esiampl a briffio staff i chwilio am broblemau a rhoi gwybod amdanynt pan fyddant yn digwydd, ac ymateb yn adeiladol
  5. Monitro ansawdd gwaith a chynnydd yn erbyn cynlluniau a gweithredu’n effeithiol i reoli problemau a all darfu ar weithrediadau seler a storio diodydd pan fyddant yn digwydd, gan ddod o hyd i ffyrdd ymarferol o oresgyn rhwystrau
  6. Rheoli costau, gwneud y defnydd gorau o adnoddau sydd ar gael a cheisio ffynonellau cymorth newydd yn rhagweithiol pan fydd problemau’n codi
  7. Monitro ac adolygu gweithdrefnau seler a storio diodydd i nodi ac awgrymu ffyrdd o wella’u heffeithlonrwydd
  8. Rhoi adborth i staff i’w helpu i wella’u perfformiad, lle bo’n briodol
  9. Defnyddio dulliau effeithiol i gasglu, storio ac adalw gwybodaeth yn gywir
  10. Cwblhau’r cofnodion gofynnol ac adrodd ar berfformiad i gefnogi’r gwasanaeth diodydd, yn unol â’ch gweithdrefnau sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer iechyd, diogelwch a hylendid perthnasol sy’n gysylltiedig â gweithrediadau seler a storio diodydd a sut i gael a gwybod y diweddaraf am ddeddfwriaeth a chodau ymarfer sy’n berthnasol i’ch rôl
  2. Y gweithdrefnau sefydliadol sy’n gysylltiedig â gweithred seler a storio diodydd a pham maen nhw'n bwysig
  3. Effaith economaidd dilyn neu fethu dilyn gweithdrefnau seler a storio diodydd ar y sefydliad, ei weithwyr a’i gwsmeriaid
  4. Buddion amgylcheddol gweithrediadau seler a storio diodydd effeithiol
  5. Sut gall gweithdrefnau newydd gael eu nodi a’u rhoi ar waith
  6. Sut i ddatblygu cynlluniau wrth gefn a sut gallant gael eu defnyddio i leihau effeithiau negyddol
  7. Y mathau o gynhyrchion sy’n cael eu cadw’n nodweddiadol mewn seleri a storfeydd diodydd a’r cynhyrchion priodol yn y maes rydych chi’n gyfrifol amdano
  8. Y sgiliau a’r wybodaeth y mae ar staff eu hangen i gyflawni gweithrediadau seler a storio diodydd yn effeithiol
  9. Gweithdrefnau sy’n briodol i storio cynhyrchion nodweddiadol, gan gynnwys y rheiny yn y maes rydych chi’n gyfrifol amdano
  10. Dulliau effeithiol o gyfleu gweithdrefnau i aelodau priodol o’r staff am weithrediadau seler a storio diodydd
  11. Sut gall staff gael eu hannog i roi gwybod am broblemau a all ddigwydd
  12. Sut gall gweithrediadau seler a storio diodydd gael eu monitro a sut i gymhwyso hyn i’r maes rydych chi’n gyfrifol amdano
  13. Y mathau o broblemau a all ddigwydd a sut gallwch chi unioni’r rhain a beth yw terfynau eich awdurdod yn gysylltiedig â delio â phroblemau storio diodydd
  14. Sut i nodi, cofnodi a rhoi gwybod am fethiannau i weithredu’r gweithdrefnau cywir a chodau ymarfer cywir y diwydiant a’r camau y gallwch eu cymryd i ymateb i hyn
  15. Sut gellir lleihau tarfu ar wasanaeth wrth ymateb i broblemau sy’n codi
  16. Sut i roi adborth i’ch staff i’w helpu i wella’u perfformiad

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

Rhoddir yr ymddygiadau canlynol yn ganllaw er mwyn bod yn sail i berfformiad effeithiol goruchwylydd ym maes lletygarwch

  1. Rydych chi’n dangos angerdd tuag at gynhyrchion diodydd o ansawdd uchel
  2. Rydych chi’n ymateb yn gadarnhaol ac yn greadigol i anawsterau
  3. Rydych chi’n cytuno ar amcanion cyflawnadwy ar eich cyfer eich hun ac yn perfformio’n gyson ac yn ddibynadwy
  4. Rydych chi’n rhyddhau gwybodaeth briodol yn brydlon i’r bobl sydd angen y wybodaeth ac sydd â hawl i’w chael
  5. Rydych chi’n adnabod problemau mynych ac yn hyrwyddo newidiadau i strwythurau, systemau a phrosesau i’w datrys

Sgiliau


Geirfa

Mae dulliau effeithiol ar gyfer casglu, storio ac adalw gwybodaeth yn cynnwys dulliau cost effeithiol, amser effeithiol a moesegol.

Mae gwybodaeth yn cynnwys gwybodaeth gan gwsmeriaid a staff.


Dolenni I NOS Eraill

Mae’r safon hon yn safon penodol i’r sector ac mae ganddi gysylltiadau penodol â’r safonau canlynol yng nghyfres safonau Goruchwyliaeth ac Arweinyddiaeth Lletygarwch:

  1. HSL1-5
  2. HSL11
  3. HSL14
  4. HSL19
  5. HSL25

Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLHSL13

Galwedigaethau Perthnasol

Goruchwyliwr bwyd a diod, Goruchwyliwr bar, Arweinwyr tîm

Cod SOC

5436

Geiriau Allweddol

goruchwylio, gweithrediadau, seler, storio, diodydd