Goruchwylio gwasanaethau darparu bwyd oddi ar y safle

URN: PPLHSL12
Sectorau Busnes (Cyfresi): Lletygarwch Goruchwylio ac Arwain
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â’r cynllunio, y paratoi a’r cydlynu sy’n ofynnol i ddarparu gwasanaeth darparu bwyd effeithlon oddi ar y safle.

Gall paratoi a gweini bwyd ar safle ynddo’i hun fod yn her gymhleth, ar adegau. Mae darparu oddi ar y safle yn ychwanegu newidyn arall eto i bethau.

Mae nodi heriau posibl a rhoi mesurau ar waith i ddatrys a lleihau risg yn rhan gyffrous a medrus o gyflwyno gwasanaeth darparu bwyd effeithlon oddi ar y safle. Mae’n rhaid bod aelodau’r tîm wedi’u briffio’n dda a’u bod yn gallu dilyn pob gweithdrefn ofynnol, gan gynnwys unrhyw ofynion cyfreithiol neu ganllawiau’r diwydiant, i ddarparu yn unol â safonau eich sefydliad. Mae’n rhaid cydlynu gweithgareddau’n arbenigol a rhaid bod cynlluniau wrth gefn yn barod rhag ofn na fydd rhywbeth yn gweithio fel y dylai.

Yn hollbwysig, dylid delio â phroblemau a’u datrys yn gyflym, gan gyfathrebu â chwsmeriaid, lle bo’n briodol, i ymchwilio i unrhyw broblemau sy’n digwydd.

Heb os, mae darparu oddi ar y safle yn rhan bwysig o’r diwydiant lletygarwch, p’un a ydych chi’n darparu i lond llaw o gwsmeriaid, cannoedd neu fwy fyth!

Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Oruchwylio gwasanaethau darparu bwyd oddi ar y safle


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Sicrhau bod staff yn dilyn gweithdrefnau cytunedig, gan gynnwys diogelwch bwyd, ar gyfer prosesu a dosbarthu archebion bwyd
  2. Sicrhau bod gan staff y sgiliau, yr adnoddau a’r wybodaeth y mae eu hangen i ddosbarthu bwyd yn unol â’r safon ofynnol ac annog staff i ofyn cwestiynau os bydd gwybodaeth nad ydynt yn ei deall
  3. Sicrhau bod gwasanaethau darparu bwyd oddi ar y safle yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau’r diwydiant, codau proffesiynol a pholisïau sefydliadol perthnasol
  4. Nodi risgiau posibl i’r gwasanaeth darparu bwyd oddi ar y safle a gweithredu cynlluniau wrth gefn i leihau problemau a all ddigwydd o ganlyniad
  5. Arwain trwy esiampl wrth friffio staff i chwilio am broblemau a rhoi gwybod amdanynt pan fyddant yn digwydd, ac ymateb yn adeiladol
  6. Monitro ansawdd gwaith a chynnydd yn erbyn cynlluniau a gweithredu’n effeithiol i reoli problemau a all darfu ar ddarpariaethau gwasanaethau bwyd oddi ar y safle pan fyddant yn digwydd, gan ddod o hyd i ffyrdd ymarferol o oresgyn rhwystrau
  7. Rheoli costau trwy gynllunio, blaenoriaethu a chydlynu gweithgareddau i sicrhau gwasanaeth darparu effeithlon sy’n bodloni anghenion cwsmeriaid
  8. Monitro amserau dosbarthu a rheoli pecynnu a chynwysyddion i sicrhau bod bwyd yn cael ei gynnal yn unol â deddfwriaeth berthnasol a gweithdrefnau rheoli ansawdd
  9. Rhoi adborth i staff i’w helpu i wella perfformiad, lle bo’n briodol, delio ag unrhyw broblemau perfformiad a’u datrys yn uniongyrchol gyda’r bobl sy’n gysylltiedig
  10. Defnyddio dulliau effeithiol i gasglu, storio ac adalw gwybodaeth, cwblhau’r cofnodion gofynnol yn gywir ac adrodd ar berfformiad i gefnogi’r gwasanaeth, yn unol â’ch gweithdrefnau sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Gweithdrefnau eich sefydliad sy’n berthnasol i ddarparu bwyd i’r cwsmer a rheoliadau a chodau ymarfer sy’n benodol i’r diwydiant sy’n berthnasol i’r maes rydych chi’n gyfrifol amdano, a sut i gadw i fyny â nhw a’u gweithredu
  2. Eich rolau a’ch cyfrifoldebau chi a rolau a chyfrifoldebau eich cydweithwyr wrth ddarparu bwyd i’r cwsmer a sut dylech chi gydweithio
  3. Eich cyfrifoldebau penodol yn gysylltiedig â diogelwch bwyd o fewn eich sefydliad
  4. Sut i gynllunio, blaenoriaethu a chydlynu gweithgareddau i sicrhau gwasanaeth darparu effeithlon sy’n bodloni disgwyliadau cwsmeriaid
  5. Pa stoc sydd ar gael yn yr adran a sut mae hyn yn cymharu â’r hyn sydd ei angen
  6. Pa becynnu a chynwysyddion sydd ar gael, sut maent yn cynnal ansawdd yr eitemau bwyd rydych chi’n gyfrifol amdanynt a’r graddau y maent yn lleihau’r effaith negyddol ac yn mwyhau’r effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd
  7. Y wybodaeth a’r sgiliau y mae ar staff eu hangen i ddarparu bwyd er mwyn bodloni codau ymarfer y diwydiant, gofynion sefydliadol a safonau gwasanaeth cwsmeriaid
  8. Y dulliau y gellir eu defnyddio i oruchwylio gweithgareddau a pherfformiad yn gysylltiedig â gweithdrefnau sefydliadol
  9. Gweithdrefnau ar gyfer cyfathrebu â chwsmeriaid i ymchwilio i broblemau neu roi diweddariad am broblemau sy’n digwydd gydag archebion bwyd, pryd i roi cynlluniau wrth gefn ar waith a phwy i’w hysbysu
  10. Sut i gyfathrebu ag aelodau eich tîm a chydweithwyr eraill yn y sefydliad
  11. Gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cofrestru gwybodaeth sy’n berthnasol i ddarparu oddi ar y safle, y math o wybodaeth a fformat y wybodaeth y dylid ei chofrestru a chanlyniadau posibl peidio â gwneud hynny
  12. Sut i fonitro amserau dosbarthu a pham mae hyn yn bwysig i ddiogelwch bwyd, ansawdd y cynnyrch a disgwyliadau gwasanaeth cwsmeriaid
  13. Sut i fonitro a sicrhau bod ansawdd y bwyd yn cael ei gynnal cyn ac ar ôl dosbarthu
  14. Sut i adolygu a gwerthuso eich gweithrediadau a gwneud argymhellion i reolwyr
  15. Sut i arwain eich tîm drwy esiampl

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

Rhoddir yr ymddygiadau canlynol yn ganllaw er mwyn bod yn sail i berfformiad effeithiol goruchwylydd ym maes lletygarwch

  1. Rydych chi’n nodi anghenion gwybodaeth pobl
  2. Rydych chi’n effro i risgiau a pheryglon posibl
  3. Rydych chi’n cytuno’n glir ar yr hyn sydd i’w ddisgwyl gan bobl eraill ac yn eu dwyn i gyfrif
  4. Mae gennych yr hyder i gymryd camau cywirol priodol, lle bo angen
  5. Rydych chi’n wynebu problemau perfformiad ac yn eu datrys yn uniongyrchol gyda’r bobl dan sylw
  6. Rydych chi’n ymfalchïo mewn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel
  7. Rydych chi’n gweithio i ddatblygu awyrgylch o broffesiynoldeb a chymorth tuag at eich gilydd

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

Mae’r safon hon yn safon penodol i’r sector ac mae ganddi gysylltiadau penodol â’r safonau canlynol yng nghyfres safonau Goruchwyliaeth ac Arweinyddiaeth Lletygarwch:

  1. HSL1-7
  2. HSL11
  3. HSL19
  4. HSL23
  5. HSL24
  6. HSL30

Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

3

Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLHSL12

Galwedigaethau Perthnasol

Goruchwyliwr gwasanaeth lletygarwch, Goruchwylydd, Arweinwyr tîm

Cod SOC

5436

Geiriau Allweddol

goruchwylio, darparu, bwyd oddi ar y safle