Goruchwylio gwasanaethau bwyd
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â goruchwylio’r gwasanaeth bwyd a gwneud yn siŵr bod ardal a chyfarpar y gwasanaeth yn briodol o lân ac yn barod i’w defnyddio, ac mae’n debygol o gael ei defnyddio gan oruchwylydd sy’n gyfrifol am y gweithgareddau yn y maes gwaith yn ddyddiol, o dan gyfarwyddyd y rheolwr perthnasol.
Mae gwasanaeth bwyd gwych yn ymwneud â mwy na dim ond y bwyd ei hun – mae arno angen tîm gwybodus a galluog i’w ddarparu. Gall llawer o gwsmeriaid faddau bwyd canolig i raddau, ond ni fyddant yn goddef gwasanaeth gwael!
Wrth oruchwylio gwasanaeth bwyd, mae’n bwysig gwneud yn siŵr bod staff wedi cael eu briffio’n dda ar yr hyn sydd ei angen a bod ganddynt y wybodaeth y mae ei hangen arnynt i ddilyn gweithdrefnau cywir, gan leihau unrhyw risgiau neu beryglon posibl. Hefyd, mae’n hanfodol cyfathrebu â chwsmeriaid yn rheolaidd a gwneud yn siŵr bod y gwasanaeth yn cael ei gyflwyno’n effeithlon ac yn effeithiol, yn unol â safonau eich sefydliad.
Mae’r safon hon yn ymwneud ag elfennau allweddol goruchwylio’r gwasanaeth bwyd, gan gynnwys cynllunio; goruchwylio glanhau, clirio ac ailgyflenwi; gwirio cyfarpar; cydweithio ag adrannau eraill a delio â phroblemau i sicrhau bod y gwasanaeth yn bodloni’r safon ofynnol.
Mae agwedd gyfannol at ddiogelwch gwyd yn hanfodol ar gyfer darparu gwasanaeth bwyd o safon ac eir i’r afael â hyn yn fanwl yn safon HSL30.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Oruchwylio gwasanaethau bwyd
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Gwneud yn siŵr bod gan staff y sgiliau, y wybodaeth a’r adnoddau y mae eu hangen arnynt ac annog staff i ofyn cwestiynau os bydd gwybodaeth nad ydynt yn ei deall
- Archwilio ardaloedd gwasanaeth bwyd i sicrhau eu bod yn gyfforddus, yn ddeniadol a’u bod wedi’u trefnu fel y cytunwyd arno
- Archwilio ardaloedd paratoi’r gwasanaeth bwyd i wneud yn siŵr eu bod wedi’u paratoi yn unol â gofynion, i’r safon y cytunwyd arni ac mewn pryd i ganiatáu am ddarparu’r gwasanaeth bwyd wedi’i drefnu
- Gwneud yn siŵr bod eich staff yn dilyn gweithdrefnau gwasanaeth bwyd, yn cynnal golwg ardal y gwasanaeth bwyd yn unol â gofynion cwsmeriaid, ac yn ymddwyn ac yn cyflwyno eu hunain yn unol â gofynion a safonau sefydliadol
- Arwain staff i adnabod cwsmeriaid gwahanol a’u hanghenion go iawn ac anghenion canfyddedig a chyfathrebu â chwsmeriaid mewn ffordd sy’n annog profiad cadarnhaol i gwsmeriaid
- Gwneud yn siŵr bod y gwasanaeth bwyd yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau’r diwydiant, cyfrifoldeb cymdeithasol, codau proffesiynol a pholisïau sefydliadol
- Cydweithio â phobl ac adrannau perthnasol eraill i wneud yn siŵr bod gwasanaeth bwyd effeithiol yn cael ei ddarparu, rhoi gwybod i’ch staff a’ch cwsmeriaid am unrhyw newidiadau i’r gwasanaeth a all effeithio arnyn nhw
- Monitro ardaloedd gwasanaeth bwyd ac ansawdd y gwasanaeth a gweithredu’n brydlon ac yn effeithiol i ddelio ag unrhyw broblemau
- Rheoli costau, gwneud y defnydd gorau o adnoddau sydd ar gael a cheisio ffynonellau cymorth newydd yn rhagweithiol pan fydd problemau’n codi
- Monitro ac adolygu gweithdrefnau a chyfathrebu i sicrhau bod y gwasanaeth bwyd yn bodloni anghenion cwsmeriaid
- Casglu a throsglwyddo adborth a gwelliannau argymelledig i’r bobl berthnasol yn unol â gofynion eich sefydliad
- Rhoi adborth i staff i’w helpu i wella’u perfformiad, lle bo’n briodol
- Defnyddio dulliau effeithiol i gasglu, storio ac adalw gwybodaeth, cwblhau’r cofnodion gofynnol yn gywir ac adrodd ar berfformiad i gefnogi’r gwasanaeth, yn unol â’ch gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y rheoliadau a chodau ymarferol perthnasol sy’n benodol i’r diwydiant sy’n gysylltiedig â gweithred y gwasanaeth bwyd, sut i gael atynt i wneud yn siŵr bod gweithdrefnau’n gyfredol a sut i nodi unrhyw doriadau iddynt, delio â nhw a rhoi gwybod amdanynt
- Gweithdrefnau a safonau eich sefydliad ar gyfer gwasanaeth bwyd a gofal cwsmeriaid a sut i sicrhau bod staff yn dilyn y rhain
- Sut i adnabod tueddiadau yn lefelau’r galw, sy’n dylanwadu ar ofynion staffio.
- Gwahanol rolau a chyfrifoldebau pobl yn eich adran a sut mae’r rhain yn effeithio ar wasanaeth bwyd
- Y wybodaeth y mae ar gwsmeriaid ei hangen am y gwasanaeth bwyd a sut i’w darparu’n effeithiol
- Sut i sicrhau bod staff yn cael yr hyfforddiant cywir i ategu eu cyfrifoldebau
- Sut i drefnu staff yn dibynnu ar ofynion y gwasanaeth
- Sut i nodi a chael yr adnoddau y mae eu hangen arnoch ar gyfer gwasanaeth bwyd
- Sut dylai staff gyfathrebu â chwsmeriaid ac ymddwyn mewn ardal gwasanaeth bwyd
- Sut i gyfleu gweithdrefnau gweithredol i staff
- Sut i wirio bod cyfarpar yn barod i’w ddefnyddio a beth i’w wneud os bydd cyfarpar yn methu
- Pwy i ymgynghori â nhw a sut i nodi a gwerthuso atebion posibl i broblemau a all ddigwydd yn ystod gwasanaeth bwyd, sut i leihau tarfu ar wasanaeth wedi’i achosi gan broblemau a datblygu cynlluniau wrth gefn
- Sut i reoleiddio’r amser sydd ar gael gennych a blaenoriaethu tasgau
- Sut mae gweithrediadau gwasanaeth bwyd yn integreiddio â gweithgareddau / adrannau eraill yn y sefydliad a phwy i gysylltu â nhw pan fyddwch chi’n trefnu’r gwasanaeth bwyd
- Sut i gywiro a rhoi gwybod am fethiannau yn unol â safonau a gweithdrefnau sefydliadol.
- Pam mae’n bwysig ceisio barn staff a chwsmeriaid a chael eu hadborth
- Sut i gasglu a dadansoddi adborth
- Sut i roi adborth i’ch staff i’w helpu i wella’u perfformiad
- Sut i gyflwyno argymhellion
Cwmpas/ystod
Mae dulliau effeithiol ar gyfer casglu, storio ac adalw gwybodaeth yn cynnwys dulliau cost effeithiol, amser effeithiol a moesegol.
Mae gwybodaeth yn cynnwys gwybodaeth gan gwsmeriaid a staff.
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Rhoddir yr ymddygiadau canlynol yn ganllaw er mwyn bod yn sail i berfformiad effeithiol goruchwylydd ym maes lletygarwch
- Rydych chi’n dangos angerdd tuag at gynhyrchion a gwasanaeth bwyd o ansawdd uchel
- Rydych chi’n nodi anghenion gwybodaeth pobl
- Rydych chi’n effro i risgiau a pheryglon posibl
- Rydych chi’n cytuno’n glir ar yr hyn sydd i’w ddisgwyl gan bobl eraill ac yn eu dwyn i gyfrif
- Rydych chi’n monitro ansawdd gwaith a chynnydd yn erbyn cynlluniau ac yn cymryd camau cywirol priodol, lle bo angen
- Rydych chi’n wynebu problemau perfformiad ac yn eu datrys yn uniongyrchol gyda’r bobl dan sylw
- Rydych chi’n ymfalchïo mewn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel
- Rydych chi’n gweithio i ddatblygu awyrgylch o broffesiynoldeb a chymorth tuag at eich gilydd
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Pa safonau eraill y mae’r safon hon yn cysylltu â nhw?
Argymhellir yn gryf fod HSL30, sy’n ymdrin â hylendid a diogelwch bwyd wrth baratoi a gweini bwyd a diod, yn cael ei astudio ar y cyd â’r safon hon.
Mae’r safon hon yn safon penodol i’r sector ac mae ganddi gysylltiadau penodol â’r safonau canlynol yng nghyfres safonau Goruchwyliaeth ac Arweinyddiaeth Lletygarwch:
HSL1-8, HSL11, HSL15, HSL16, HSL19, HSL25, HSL24, HSL26, HSL27, a HSL28