Rheoli pobl sydd ar gontractau ansafonol

URN: PPLEVF5
Sectorau Busnes (Suites): Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol – Ar Gyfer Uwch Gynhyrchwyr - Ebrill 2003
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 01 Ion 2014

Trosolwg

Mae digwyddiadau'n cyflogi llawer o bobl sy'n gweithio ar gontractau ansafonol neu dros dro. Mae angen i chi ddeall y ffactorau cyfreithiol a rheoliadol y mae'n rhaid eu cynnwys mewn contractau ansafonol. Rhaid i chi allu dethol a monitro pobl sydd ar gontractau ansafonol. Dylech allu cael y gorau o sgiliau a galluoedd pobl. Argymhellir y Safon Alwedigaethol Genedlaethol ar gyfer Rheolwyr a Chydgysylltwyr Digwyddiadau. #  

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. meithrin a chynnal perthnasoedd cynhyrchiol gyda phobl sydd ar gontractau ansafonol
  2. bod yn glir ynghylch rolau a chyfrifoldebau pobl sydd ar gontractau ansafonol
  3. sicrhau y darperir dogfennau'n ymwneud â'r rôl i bobl sydd ar gontractau ansafonol
  4. sicrhau y darperir cymorth os oes ei angen ar bobl sydd ar gontractau ansafonol
  5. gwirio cydymffurfiaeth â'r contract, gan gymryd gofynion cyfreithiol, rheoliadol a sefydliadol i ystyriaeth
  6. ymdrin ag achosion o dorcontract o fewn ffiniau derbyniol
  7. ystyried yr holl ofynion o ran moeseg a chynaliadwyedd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol yn ymwneud â phobl sydd ar gontractau ansafonol
  2. gofynion cyfreithiol a rheoliadol pobl sydd ar gontractau ansafonol
  3. y gwahanol fathau o gontractau a chytundebau
  4. pam mae'n bwysig cael gofynion a manylebau clir ar gyfer contractau
  5. pam mae'n bwysig meithrin perthnasoedd gweithio cynhyrchiol gyda phobl sydd ar gontractau ansafonol a sut i feithrin perthnasoedd gweithio cynhyrchiol
  6. pam y dylid briffio pobl sydd ar gontractau ansafonol, a beth i'w ddweud
  7. pa gymorth, hyfforddiant a chyfarpar y gall fod eu hangen ar bobl sydd ar gontractau ansafonol
  8. y gwahanol ddulliau o fonitro cydymffurfiaeth â chontractau
  9. sut i gydnabod cyfraniad pobl sydd ar gontractau ansafonol
  10. beth sy'n gyfystyr â thorcontract a beth i'w wneud os yw'n digwydd
  11. pam y gall fod angen i chi ystyried anghenion amlieithyddol
  12. y materion a'r cyfleoedd sy'n ymwneud â chynaliadwyedd

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

1. Rydych yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau'r sefydliad a chodau proffesiynol ac yn sicrhau bod eraill yn cydymffurfio â nhw 2. Rydych yn rhoi sylw personol i fanylion penodol sy'n hanfodol i sicrhau canlyniadau llwyddiannus 3. Rydych yn canfod a gweithio gyda phobl a sefydliadau a all ddarparu cefnogaeth i'ch gwaith 4. Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn glir, yn gryno, yn gywir ac mewn ffyrdd  sy'n hybu dealltwriaeth 5. Rydych yn rhoi cyfleoedd i bobl ddarparu adborth ac rydych yn ymateb yn briodol 6. Rydych yn cytuno'n glir ar yr hyn a ddisgwylir gan eraill ac yn eu dal i gyfrif 7. Rydych yn gwirio ymrwymiad unigolion i'w rolau mewn ffordd benodol o weithredu 8. Rydych yn cyfrifo risgiau'n gywir, ac yn gwneud darpariaeth fel nad yw digwyddiadau annisgwyl yn atal cyflawni amcanion 9. Rydych yn adnabod materion a chyfleoedd sy'n ymwneud â chynaliadwyedd ac yn cymryd camau priodol

Sgiliau

Rhestrir isod y prif 'sgiliau' generig y mae angen eu cymhwyso yn y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon. Mae'r sgiliau hyn yn echblyg / ymhlyg yng nghynnwys manwl y Safon a chânt eu rhestru yma fel gwybodaeth ychwanegol. 1. Dadansoddi 2. Blaenoriaethu 3. Gwerthuso 4. Negodi 5. Rheolaeth ariannol 6. Craffter busnes

Geirfa

Diffinnir cynaliadwyedd fel ymagwedd barhaus a chytbwys at weithgarwch economaidd, cyfrifoldeb amgylcheddol ac ymwybyddiaeth gymdeithasol.

Dolenni I NOS Eraill

Mae'r Safon hon yn gysylltiedig â Safonau:

A6    Canfod a negodi contractau ar gyfer digwyddiad

C2    Datblygu a gweithredu polisïau a gweithdrefnau ar gyfer digwyddiad

C5    Rheoli contractau ar gyfer digwyddiad

C10  Rheoli'r gwaith o redeg digwyddiad

F13  Datblygu a chytuno ar gynllun busnes ar gyfer digwyddiad

yng nghyfres gyffredinol y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Digwyddiadau


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Ion 2017

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLEVF5

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr

Cod SOC


Geiriau Allweddol

digwyddiadau; rheoli; contractau; ansafonol; pobl