Gwerthuso ac adrodd ar effaith digwyddiad

URN: PPLEVD1
Sectorau Busnes (Suites): Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol – Ar Gyfer Uwch Gynhyrchwyr - Ebrill 2003
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 01 Ion 2014

Trosolwg

Mae gwerthuso'n allweddol i reoli digwyddiadau'n effeithiol. Dim ond trwy fesur effaith digwyddiadau y gallwch roi adroddiadau boddhaol i'r cleientiaid, cydweithwyr a rhanddeiliaid eraill sy'n ymwneud â'r digwyddiadau, a dysgu gwersi ar gyfer gwaith yn y dyfodol. Argymhellir y Safon Alwedigaethol Genedlaethol ar gyfer Rheolwyr, Cydgysylltwyr a Goruchwylwyr Digwyddiadau sy'n gyfrifol am strwythurau dros dro. #  

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Adolygu'r gofynion a'r ffactorau effaith gritigol ar gyfer y digwyddiad

  2. canfod, casglu a dadansoddi gwybodaeth berthnasol yn unol â'r gofynion a'r ffactorau effaith gritigol hyn

  3. nodi ac adrodd ar unrhyw anawsterau wrth gael y wybodaeth angenrheidiol

  4. gwerthuso pob agwedd ar gynllunio a gweithredu digwyddiad gan ddefnyddio'r wybodaeth rydych wedi'i chasglu a'i dadansoddi

  5. canfod rhesymau dros lwyddiant a methiant a nodi gwersi allweddol ar gyfer gwaith yn y dyfodol

  6. darparu adroddiad sydd:

6.1 yn nodi'r wybodaeth a ddefnyddiwyd a ffynonellau'r wybodaeth

6.2 yn esbonio sut y cafodd y wybodaeth ei dadansoddi

6.3 yn dod i gasgliadau ac yn gwneud argymhellion sydd wedi'u seilio ar dystiolaeth

6.4 yn cael ei gyflwyno mewn fformat sy'n diwallu anghenion cydweithwyr a rhanddeiliaid eraill

  1. dilyn gweithdrefnau cytunedig ar gyfer dosbarthu'r adroddiad, gan gynnal cytundebau ar gyfrinachedd

  2. ystyried yr holl ofynion o ran moeseg a chynaliadwyedd


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

**Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol

**

1.  pwysigrwydd gwerthuso ac adrodd ar ddigwyddiad

2 . y rhan y mae gwerthuso'n ei chwarae mewn gwella perfformiad yn barhaus i'ch sefydliad chi ac i randdeiliaid eraill

3.  yr egwyddorion a'r dulliau a ddefnyddir wrth werthuso

4.  y prif ffynonellau gwybodaeth y gallwch eu defnyddio i werthuso digwyddiad a sut i gael gafael arnynt

5.  pam mae'n bwysig gwirio'r wybodaeth yr ydych yn ei defnyddio i werthuso a sut i wneud hyn

6.  y gwahanol fathau o wybodaeth y gallwch eu defnyddio a'u gwerth cymharol ar gyfer gwerthusiad

7.  sut y gellir defnyddio enillion ar fuddsoddiad fel offeryn gwerthuso a lle y byddai'r dechneg hon yn fwyaf defnyddiol

8.  y prosesau y gallwch eu defnyddio i gasglu a dadansoddi gwybodaeth am ddigwyddiad

9.  sut i gasglu adborth oddi wrth rith-gyfranogwyr

10.  pwysigrwydd defnyddio gwerthusiad blaenorol wrth gynllunio digwyddiadau

11.  yr elfennau allweddol a ddylai ymddangos mewn adroddiad gwerthuso

12.  pwysigrwydd cyfrinachedd a nodi pa fathau o wybodaeth a allai fod yn gyfrinachol a disgrifio sut y dylech ymdrin â hyn

**Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r diwydiant/sector

**

13.  y prif fathau o ddigwyddiadau a gynhelir yn eich sector

14.  y prosesau penodol sy'n rhan o werthuso digwyddiadau yn eich sector

15.  y prif ofynion cyfreithiol a rheoliadol perthnasol sy'n effeithio ar ddigwyddiadau yn eich sector

16.  pam y gall fod angen i chi ystyried anghenion amlieithyddol

17.  y materion a'r cyfleoedd sy'n ymwneud â chynaliadwyedd

**Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r cyd-destun

**

18.  hyd a lled eich cyfrifoldebau chi am werthuso

19.  sut mae'ch rôl chi'n gysylltiedig â rolau pobl eraill yn eich sefydliad

20.  prif gyfrifoldebau cydweithwyr yr ydych yn gweithio gyda nhw wrth werthuso digwyddiad a sefydliadau eraill y gallwch gysylltu â nhw


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

1. Rydych yn gwirio pa mor ddilys a dibynadwy yw gwybodaeth 2. Rydych yn dadansoddi ac yn strwythuro gwybodaeth er mwyn datblygu gwybodaeth y gellir ei rhannu 3. Rydych yn annog eraill i rannu gwybodaeth yn effeithlon o fewn cyfyngiadau cyfrinachedd 4. Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn glir, yn gryno, yn gywir ac mewn ffyrdd  sy'n hybu dealltwriaeth 5. Rydych yn rhoi adborth i eraill i'w helpu i wella eu perfformiad 6. Rydych yn ceisio gwella perfformiad yn ddi-baid 7. Rydych yn herio'r sefyllfa bresennol mewn modd adeiladol ac yn chwilio am ddewisiadau amgen gwell 8. Rydych yn rhoi cyfleoedd i bobl ddarparu adborth ac rydych yn ymateb yn briodol 9. Rydych yn adnabod problemau sy'n codi dro ar ôl tro ac yn hybu newidiadau i strwythurau, systemau a phrosesau er mwyn eu datrys 10. Rydych yn myfyrio'n rheolaidd ynghylch eich profiadau chi a rhai pobl eraill, ac yn defnyddio'r rhain i lywio gweithredoedd yn y dyfodol 11. Rydych yn adnabod materion a thueddiadau systemig ac yn cydnabod eu heffaith ar waith yn y presennol a'r dyfodol 12. Rydych yn adnabod materion a chyfleoedd sy'n ymwneud â chynaliadwyedd ac yn cymryd camau priodol

Sgiliau

Rhestrir isod y prif 'sgiliau' generig y mae angen eu cymhwyso yn y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon. Mae'r sgiliau hyn yn echblyg / ymhlyg yng nghynnwys manwl y Safon a chânt eu rhestru yma fel gwybodaeth ychwanegol. 1. Ymchwilio 2. Rheoli gwybodaeth 3. Dadansoddi 4. Gwerthuso 5. Gwelliant parhaus 6. Adrodd 7. Craffter busnes

Geirfa

Diffinnir cynaliadwyedd fel ymagwedd barhaus a chytbwys at weithgarwch economaidd, cyfrifoldeb amgylcheddol ac ymwybyddiaeth gymdeithasol.

Dolenni I NOS Eraill

Mae'n bosibl bod y Safon hon yn gysylltiedig â'r holl Safonau yng nghyfres gyffredinol y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Digwyddiadau sy'n ymwneud â chynllunio a gweithredu.

Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Ion 2017

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLEVD1

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr

Cod SOC


Geiriau Allweddol

gwerthuso; adrodd; digwyddiad; effaith