Rheoli’r gwaith o osod a datod digwyddiad
Trosolwg
Bydd y camau cynnar yn y broses o drefnu'r digwyddiad wedi cynhyrchu cynlluniau manwl a ddylai gynnwys cynlluniau ar gyfer gosod a datod. Dylid dilyn y cynlluniau hyn yn ofalus ac ymdrin ag unrhyw broblemau'n effeithiol. Bydd cyfathrebu â'r personél a'r sefydliadau eraill sy'n ymwneud â digwyddiad yn bwysig, ac felly hefyd cadw cofnodion ac adrodd mewn perthynas â gwasanaeth cwsmeriaid. Argymhellir y Safon Alwedigaethol Genedlaethol ar gyfer Rheolwyr a Chydgysylltwyr Digwyddiadau. # |
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadw at y cynlluniau cytunedig ar gyfer y gwaith gosod a datod, neu addasu cynlluniau'n unol â newidiadau mewn amgylchiadau, lle bo angen
- sicrhau bod y personél yn cael y wybodaeth, cyfarwyddyd, hyfforddiant a goruchwyliaeth mae arnynt eu hangen i gyflawni eu swyddogaeth
- sicrhau bod yr holl adnoddau a ddefnyddir wrth osod a datod digwyddiad yn cael eu gwirio, ac ymateb yn gywir i unrhyw broblemau
- cyfathrebu'n glir â phawb sy'n ymwneud â'r digwyddiad yn unol â phrotocolau cyfathrebu cytunedig
- cyflwyno delwedd gadarnhaol ohonoch chi ac o'ch sefydliad i gwsmeriaid mewnol ac allanol a darparu'r gwasanaeth cwsmeriaid gorau posibl iddynt
- ceisio cyngor a chyfarwyddyd oddi wrth bobl briodol, pan fo angen
- cynnal iechyd, diogelwch a lles personél ac adnoddau
- cael ôl-drafodaeth gyda'r personél a nodi pwyntiau perthnasol ar gyfer gwerthuso'r digwyddiad
- cwblhau'r holl ddogfennau a chofnodion perthnasol ac ymdrin â nhw yn unol â gweithdrefnau'ch sefydliad
- ystyried yr holl ofynion o ran moeseg a chynaliadwyedd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
*
*
1. pwysigrwydd rheoli'r gwaith o osod a datod digwyddiad yn effeithiol
2. y prif gamau sy'n rhan o'r gwaith o osod a datod digwyddiad
3. rolau'r bobl y byddwch yn gweithio gyda nhw wrth osod a datod digwyddiad
4. pwysigrwydd bod â chynlluniau clir ar gyfer y gwaith gosod a datod a dilyn y cynlluniau hyn fel y cytunwyd arnynt
5. y problemau nodweddiadol a all godi wrth osod a datod digwyddiad a sut y gallech ymateb iddynt
6. pwysigrwydd cyflwyno delwedd gadarnhaol ohonoch chi ac o'ch sefydliad a sut i wneud hynny
7. sut i ddarparu'r gwasanaeth cwsmeriaid gorau posibl wrth osod a datod digwyddiad a phwy yw'ch cwsmeriaid
8. y prif rwymedigaethau contractiol sy'n berthnasol i'r gwaith gosod a datod
9. y prif ofynion o ran iechyd a diogelwch sy'n berthnasol i'r gwaith gosod a datod
10. pwy y byddai angen i chi gyfathrebu â nhw yn ystod y gwaith gosod a datod
11. y wybodaeth mae angen i chi ei chael am gynlluniau ac adnoddau'r digwyddiad
12. pwysigrwydd briffio personél a chael ôl-drafodaeth gyda nhw, a sut i wneud hyn yn effeithiol
13. y prif ofynion o ran diogelwch personol a diogelwch eiddo yn ystod y gwaith gosod a datod a pham maen nhw'n bwysig
14. pwysigrwydd gwirio adnoddau yn ystod y gwaith gosod a datod a sut i sicrhau y bydd hyn yn digwydd
**
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r diwydiant/sector
**
15. y prif fathau o ddigwyddiadau a gynhelir yn y sector
16. y prosesau penodol sy'n rhan o waith gosod a datod y digwyddiadau hyn
17. y prif ofynion cyfreithiol a rheoliadol perthnasol sy'n effeithio ar ddigwyddiadau yn y sector a'u goblygiadau ar gyfer gwaith gosod a datod
18. pam y gall fod angen i chi ystyried anghenion amlieithyddol
19. y materion a'r cyfleoedd sy'n ymwneud â chynaliadwyedd
**
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r cyd-destun
**
20. hyd a lled eich cyfrifoldebau chi am osod a datod digwyddiad
21. sut mae'ch rôl chi'n gysylltiedig â rolau pobl eraill yn eich sefydliad
22. prif gyfrifoldebau cydweithwyr yr ydych yn gweithio gyda nhw wrth gyflawni gwaith gosod a datod a sefydliadau eraill y gallwch gysylltu â nhw
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
1. Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn glir, yn gryno, yn gywir ac mewn ffyrdd sy'n hybu dealltwriaeth 2. Rydych yn mynd i'r afael â nifer o alwadau heb golli ffocws nac egni 3. Rydych yn adnabod newidiadau mewn amgylchiadau'n gyflym ac yn addasu cynlluniau a gweithgareddau yn unol â hynny 4. Rydych yn ymateb yn gyflym i argyfyngau a phroblemau gyda ffordd arfaethedig o weithredu 5. Rydych yn canfod ffyrdd ymarferol i oresgyn rhwystrau 6. Rydych yn rhoi gwybod i bobl yn gyson am gynlluniau a datblygiadau 7. Rydych yn rhoi adborth i eraill i'w helpu i wella eu perfformiad 8. Rydych chi'n cymryd cyfrifoldeb personol am sicrhau bod pethau'n digwydd 9. Rydych yn creu ymdeimlad o bwrpas cyffredin 10. Rydych yn gwneud penderfyniadau amserol sy'n realistig ar gyfer y sefyllfa 11. Rydych yn adnabod materion a chyfleoedd sy'n ymwneud â chynaliadwyedd ac yn cymryd camau priodol |
Sgiliau
Rhestrir isod y prif 'sgiliau' generig y mae angen eu cymhwyso yn y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon. Mae'r sgiliau hyn yn echblyg / ymhlyg yng nghynnwys manwl y Safon a chânt eu rhestru yma fel gwybodaeth ychwanegol. 1. Trefnu 2. Cyfathrebu 3. Datrys problemau 4. Arweinyddiaeth 5. Rheoli perthnasoedd 6. Gwasanaeth cwsmeriaid 7. Rheoli straen 8. Datrys gwrthdaro 9. Rheoli adnoddau 10. Cofnodi ac adrodd 11. Craffter busnes |
Geirfa
Diffinnir cynaliadwyedd fel ymagwedd barhaus a chytbwys at weithgarwch economaidd, cyfrifoldeb amgylcheddol ac ymwybyddiaeth gymdeithasol. |
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r Safon hon yn gysylltiedig â Safonau: C1 Cynllunio a gweithredu llwybr critigol ar gyfer digwyddiad C3 Datblygu cynlluniau manwl ar gyfer digwyddiad C10 Rheoli'r gwaith o redeg digwyddiad yng nghyfres gyffredinol y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Digwyddiadau |