Goruchwylio iechyd a diogelwch personol a diogelwch eiddo

URN: PPLEVC8
Sectorau Busnes (Suites): Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol – Ar Gyfer Uwch Gynhyrchwyr - Ebrill 2003
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 01 Ion 2014

Trosolwg

Mae'r Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon yn ymdrin â chyfrifoldebau rheolwyr llinell gyntaf am iechyd a diogelwch personol a diogelwch eiddo pan maent yn goruchwylio gwaith ar safleoedd digwyddiadau/strwythurau dros dro.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1.  cynnal sesiwn cynefino iechyd a diogelwch cychwynnol ar y safle
2.  sicrhau:

2.1 bod gennych wybodaeth glir am eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwyddau chi am iechyd a diogelwch

2.2 bod gan eich holl staff, a phobl berthnasol eraill, wybodaeth glir am ofynion a gweithdrefnau iechyd, diogelwch personol a diogelwch eiddo

2.3 bod yna asesiad risg ar gyfer y safle ac ar gyfer y gwaith sydd i gael ei wneud

2.4 bod yr holl asesiadau risg a datganiadau dull perthnasol ar gael ar y safle

2.5 bod yr holl bobl sy'n gweithredu cyfarpar neu'n defnyddio offer ar y safle o dan eich rheolaeth wedi cael eu hyfforddi'n iawn, y bernir eu bod yn gymwys ac, os yw'n briodol, eu bod yn meddu ar dystysgrif i ddefnyddio'r cyfarpar neu'r offer

3.  gofyn am wybodaeth a chymorth gan berson mwy cymwys pan ydych yn ansicr ynghylch risgiau o ran iechyd, diogelwch personol a diogelwch eiddo a sut i'w rheoli
4.  annog yr holl staff i roi blaenoriaeth i iechyd, diogelwch personol a diogelwch eiddo
5.  gwneud yn siŵr bod eich ymddygiad personol chi'n atgyfnerthu'r negeseuon am iechyd, diogelwch personol a diogelwch eiddo
6.  monitro'r holl rannau o'r safle a'r gwaith a gwneud yn siŵr bod gweithdrefnau iechyd, diogelwch personol a diogelwch eiddo yn cael eu gweithredu yn ôl y gofyn
7.  cymryd camau effeithiol pan nad yw gweithdrefnau'n cael eu gweithredu
8.  cysylltu â sefydliadau ac asiantaethau allanol eraill
9.  canfod, asesu a rheoli risgiau newydd pan maent yn codi
10.  cydgysylltu gweithdrefnau argyfwng pan fo angen
11.  dilyn y gweithdrefnau cywir ar gyfer cofnodi damweiniau a digwyddiadau
12.  cysylltu â phobl eraill yn eich sefydliad i wella iechyd, diogelwch personol a diogelwch eiddo
13.  ystyried yr holl ofynion o ran moeseg a chynaliadwyedd


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. pwysigrwydd cyffredinol iechyd a diogelwch
  2. pwysigrwydd iechyd a diogelwch yn y diwydiant digwyddiadau/strwythurau dros dro a beth all ddigwydd os na chaiff gweithdrefnau iechyd a diogelwch eu gweithredu'n gywir
  3. cyfrifoldebau ac atebolrwyddau'r cyflogwyr am iechyd a diogelwch yn y gwaith
  4. cyfrifoldeb ac atebolrwyddau pob gweithiwr cyflogedig am iechyd a diogelwch yn y gwaith
  5. cyfrifoldebau ac atebolrwyddau ychwanegol goruchwyliwr safle am iechyd a diogelwch ar y safle
  6. rheolau'r safle, cyfleusterau lles, mannau ymgynnull, mannau tân, cyfleusterau cymorth cyntaf, rhifau cyswllt mewn argyfwng, sut i fynd i mewn ac allan o'r safle a briffiad cyffredinol am y gwaith
  7. gweithdrefnau argyfwng ar gyfer y safle
  8. cyfrifoldebau ac atebolrwyddau pobl eraill sy'n gweithio ar y safle am iechyd a diogelwch
  9. y camau wrth asesu risg
  10. y gwahaniaeth rhwng asesiadau risg 'generig' a 'dynamig' a phwysigrwydd pob un
  11. y peryglon nodweddiadol a all godi wrth weithio ar y safle
  12. y risgiau sy'n gysylltiedig â phob un o'r peryglon hyn
  13. sut y gellir dileu neu reoli'r risgiau hyn
  14. beth yw datganiad dull a pham mae'n bwysig
  15. canllawiau'r diwydiant ac arferion da o ran iechyd a diogelwch
  16. adnabod ystyr arwyddion a symbolau diogelwch a ddefnyddir yn y diwydiant
  17. y gwahanol fathau o bobl a all gyflawni archwiliadau iechyd a diogelwch ar safle a phwerau pob un
  18. effeithiau pob un o'r canlynol:
  19. Hysbysiad Gwahardd
  20. Hysbysiad Gwella
  21. pwysigrwydd diogelwch eiddo ar y safle a beth all ddigwydd os na chaiff gweithdrefnau diogelwch eiddo ar y safle eu gweithredu'n gywir
  22. problemau nodweddiadol gyda diogelwch eiddo ar y safle a ffyrdd o fynd i'r afael â nhw
  23. yr argyfyngau nodweddiadol a all godi ar safleoedd digwyddiadau / strwythurau dros dro a'r gweithdrefnau i'w dilyn pan fo'r argyfyngau hyn yn digwydd
  24. y gweithdrefnau ar gyfer cofnodi damweiniau a digwyddiadau a pham mae'r rhain yn bwysig
  25. sut i annog y staff i roi blaenoriaeth i iechyd, diogelwch personol a diogelwch eiddo yn eu gwaith
  26. sut y dylech ymddwyn ar y safle i atgyfnerthu'r negeseuon am iechyd, diogelwch personol a diogelwch eiddo
  27. sut y byddech yn monitro safle a'r gwaith sy'n cael ei wneud er mwyn gwneud yn siŵr bod gweithdrefnau iechyd, diogelwch personol a diogelwch eiddo'n cael eu dilyn
  28. sut i gyfleu gwybodaeth am iechyd, diogelwch personol a diogelwch eiddo i'ch staff a phobl berthnasol eraill
  29. pwysigrwydd gwelliant parhaus mewn perthynas ag iechyd, diogelwch personol a diogelwch eiddo ar y safle
  30. y bobl y gallwch weithio gyda nhw i helpu i wella iechyd, diogelwch personol a diogelwch eiddo ar y safle
  31. dynameg torfeydd ynghyd â goblygiadau ymddygiadau ac ymateb i ddisgwyliadau a phatrymau ymddygiad cynulleidfaoedd
  32. y gadwyn awdurdod mewn argyfwng
  33. ar bwy mae'r ddyletswydd gofal am y rhai sy'n bresennol yn y digwyddiad
  34. pam y gall fod angen i chi ystyried anghenion amlieithyddol
  35. y materion a'r cyfleoedd sy'n ymwneud â chynaliadwyedd

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

1. Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn glir, yn gryno, yn gywir ac mewn ffyrdd sy'n hybu dealltwriaeth 2. Rydych yn ymateb yn briodol i argyfyngau a phroblemau gyda ffordd gynlluniedig o weithredu 3. Rydych yn sicrhau bod amser ar gael i gynorthwyo eraill 4. Rydych yn nodi goblygiadau neu ganlyniadau sefyllfa 5. Rydych yn rhoi adborth i eraill i'w helpu i wella eu perfformiad 6. Rydych chi'n cymryd cyfrifoldeb personol am sicrhau bod pethau'n digwydd 7. Rydych yn ceisio gwella perfformiad yn ddi-baid 8. Rydych yn trin unigolion â pharch ac yn gweithredu i gynnal eu hawliau 9. Rydych yn adnabod materion a chyfleoedd sy'n ymwneud â chynaliadwyedd ac yn cymryd camau priodol

Sgiliau

Rhestrir isod y prif 'sgiliau' generig y mae angen eu cymhwyso yn y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon. Mae'r sgiliau hyn yn echblyg / ymhlyg yng nghynnwys manwl y Safon a chânt eu rhestru yma fel gwybodaeth ychwanegol. 1. Arweinyddiaeth 2. Cyfathrebu 3. Monitro 4. Asesu a rheoli risg 5. Adrodd 6. Craffter busnes 7. Rheoli torfeydd 8. Gwneud penderfyniadau 9. Sylwi ar bethau


Geirfa

Diffinnir cynaliadwyedd fel ymagwedd barhaus a chytbwys at weithgarwch economaidd, cyfrifoldeb amgylcheddol ac ymwybyddiaeth gymdeithasol. Diffinnir torf fel unrhyw nifer o bobl sy'n bresennol mewn digwyddiad.

Dolenni I NOS Eraill

Mae'r Safon hon yn gysylltiedig â'r holl Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol eraill lle mae iechyd a diogelwch yn berthnasol.

Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Ion 2017

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLEVC8

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr

Cod SOC


Geiriau Allweddol

goruchwylio; iechyd; diogelwch personol; diogelwch eiddo; digwyddiadau