Rheoli contractau ar gyfer digwyddiad

URN: PPLEVC5
Sectorau Busnes (Suites): Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol – Ar Gyfer Uwch Gynhyrchwyr - Ebrill 2003
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 01 Ion 2014

Trosolwg

Bydd y rhan fwyaf o'r cyfarpar, deunyddiau, gweithgareddau a gwasanaethau mewn digwyddiad yn cael eu darparu gan gyflenwyr allanol. Ar ôl i'r contractau gael eu gosod a'u llofnodi, bydd yn bwysig gwneud yn siŵr bod telerau'r contract yn cael eu cyflawni neu yr ymdrinnir ag unrhyw angen i amrywio'r rhwymedigaethau contractiol yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a sefydliadol. Argymhellir y Safon Alwedigaethol Genedlaethol ar gyfer Rheolwyr a Chydgysylltwyr Digwyddiadau. #  

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi'ch cyfrifoldebau allweddol chi am gontractau a chyfrifoldebau pobl eraill
  2. lle bo'n bosibl, meithrin perthnasoedd gweithio effeithiol gyda chontractwyr
  3. gwneud yn glir, os oes angen, yr hyn a ddisgwylir gan y contractwr a gennych chi
  4. monitro gweithgareddau contractwyr ar adegau priodol
  5. rhoi cymorth i gontractwyr o fewn terfynau'r contract a'ch rôl swydd
  6. os oes angen, dilyn y gweithdrefnau cywir i amrywio contractau
  7. gwirio cydymffurfiaeth â'r contract, o'ch ochr chi ac o ochr y contractwr
  8. cymryd gofynion cyfreithiol, rheoliadol a sefydliadol i ystyriaeth
  9. canfod unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfiaeth a dilyn y gweithdrefnau cywir i ymdrin â hyn
  10. cwblhau'r holl gofnodion ac unrhyw ddogfennau eraill sy'n gysylltiedig â'r contract
  11. rhoi adborth perthnasol i gontractwyr ac i'ch cydweithwyr
  12. ystyried yr holl ofynion o ran moeseg a chynaliadwyedd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

**Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol

**

1.  pam mae contractau a mathau eraill o gytundeb ar gyfer cyflenwi nwyddau a gwasanaethau'n bwysig
2.  amrywiaeth o wahanol fathau o gontract/cytundeb a sut y gellid eu defnyddio mewn sefyllfaoedd gwahanol
3.  gofynion cyfreithiol a rheoliadol sylfaenol sy'n ymwneud â chontractau a chytundebau ar gyfer cyflenwi nwyddau a gwasanaethau
4.  pam mae'n bwysig bod yn glir ynghylch eich cyfrifoldebau chi a rhai'r contractwr
5.  y mathau o gymorth y gall fod eu hangen ar gontractwyr a sut y dylech ymateb i'r rhain
6.  sefyllfaoedd lle gall fod angen amrywio contractau a'r gweithdrefnau y dylech eu dilyn
7.  y mathau o ddiffyg cydymffurfiaeth â chontractau a all godi a'r gweithdrefnau y dylech eu dilyn
8.  pam mae'n bwysig rhoi adborth i gontractwyr ac i gydweithwyr 

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r diwydiant/sector
 * *
9.  y prif fathau o gontractwyr yr ydych yn gweithio gyda nhw fel arfer wrth reoli digwyddiadau
10.  y prosesau arferol ar gyfer rheoli contractwyr yn eich sector
11.  pam y gall fod angen i chi ystyried anghenion amlieithyddol
12.  y materion a'r cyfleoedd sy'n ymwneud â chynaliadwyedd

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r cyd-destun
 * *
13.  hyd a lled eich cyfrifoldebau chi am reoli contractwyr
14.  sut mae'ch rôl yn cysylltu â rolau pobl eraill yn eich sefydliad
15.  prif gyfrifoldebau cydweithwyr yr ydych yn gweithio gyda nhw wrth reoli contractau
16.  gweithdrefnau a dogfennau'ch sefydliad ar gyfer rheoli contractau2    y materion a'r cyfleoedd sy'n ymwneud â chynaliadwyedd


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

1. Rydych yn mynd i'r afael â nifer o alwadau heb golli ffocws nac egni 2. Rydych yn gosod amcanion uchelgeisiol ond cyflawnadwy i chi'ch hun ac i eraill 3. Rydych yn mynegi'ch barn, eich safbwyntiau a'ch gofynion yn glir 4. Rydych yn creu ymdeimlad o bwrpas cyffredin 5. Rydych yn cytuno'n glir ar yr hyn a ddisgwylir gan eraill ac yn eu dal i gyfrif 6. Rydych yn rhoi gwybod i bobl yn gyson am gynlluniau a datblygiadau 7. Rydych yn rhoi sylw personol i fanylion penodol sy'n hanfodol i sicrhau canlyniadau llwyddiannus 8. Rydych yn adnabod newidiadau mewn amgylchiadau'n gyflym ac yn addasu cynlluniau a gweithgareddau'n unol â hynny 9. Rydych yn canfod ffyrdd ymarferol i oresgyn rhwystrau 10. Rydych yn cydnabod cyflawniadau a llwyddiant pobl eraill 11. Rydych yn adnabod materion a chyfleoedd sy'n ymwneud â chynaliadwyedd

Sgiliau

Rhestrir isod y prif 'sgiliau' generig y mae angen eu cymhwyso yn y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon. Mae'r sgiliau hyn yn echblyg / ymhlyg yng nghynnwys manwl y Safon a chânt eu rhestru yma fel gwybodaeth ychwanegol. 1. Monitro 2. Gwirio ansawdd 3. Mynd ar drywydd cynnydd 4. Adrodd 5. Datrys problemau 6. Negodi 7. Craffter busnes

Geirfa

Diffinnir cynaliadwyedd fel ymagwedd barhaus a chytbwys at weithgarwch economaidd, cyfrifoldeb amgylcheddol ac ymwybyddiaeth gymdeithasol.


Dolenni I NOS Eraill

Mae'r Safon hon yn gysylltiedig â Safonau:
A3   Rheoli risgiau i'ch sefydliad
A4   Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cyfreithiol, rheoliadol, moesegol a chymdeithasol
A5   Canfod, negodi a sicrhau lleoliad ar gyfer digwyddiad
A6   Canfod a negodi contractau ar gyfer digwyddiad
F13  Datblygu a chytuno ar gynllun busnes ar gyfer digwyddiad
yng nghyfres gyffredinol y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Digwyddiadau.
Mae cysylltiadau ganddi hefyd â'r holl Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol eraill yn adran C.


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Ion 2017

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLEVC5

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr

Cod SOC


Geiriau Allweddol

rheoli; contractau; digwyddiad