Datblygu cynlluniau manwl ar gyfer digwyddiad
URN: PPLEVC3
Sectorau Busnes (Cyfresi): Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol – Ar Gyfer Uwch Gynhyrchwyr - Ebrill 2003
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar:
2014
Trosolwg
| Dylai'ch cynlluniau manwl gael eu datblygu ymhell cyn y digwyddiad a nodi'n glir beth mae angen iddo ddigwydd yn unol â llwybr critigol y digwyddiad. Mae cynlluniau manwl yn hanfodol bwysig i bersonél y digwyddiad a dylent nodi pwy fydd yn gwneud beth a pha adnoddau y bydd eu hangen. Hefyd gellir addasu'ch cynlluniau i roi'r i'r cyfranogwyr a chwsmeriaid eraill y wybodaeth mae ei hangen arnynt i wneud y mwyaf o'r digwyddiad. Gallai'r cynlluniau gynnwys elfennau fel: * rhaglenni'r digwyddiad * cynllun a'r defnydd o'r lle * nodweddion neu gynnwys arall * logisteg * defnyddio technoleg ar gyfer rhith-gyfranogwyr Argymhellir y Safon Alwedigaethol Genedlaethol ar gyfer Rheolwyr a Chydgysylltwyr Digwyddiadau. # |
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adolygu cwmpas, cynllun busnes a llwybr critigol y digwyddiad
- adolygu cynlluniau ar gyfer digwyddiadau tebyg
- canfod cyfleoedd ar gyfer arloesedd
- datblygu cynlluniau manwl sy'n cyflawni'r nodau ac amcanion cytunedig ac yn adeiladu ar ddigwyddiadau llwyddiannus
- sicrhau bod eich cynlluniau wedi cael eu datblygu ymhell cyn y digwyddiad
- cyflwyno'r cynlluniau mewn ffyrdd y mae'n hawdd i'r staff eu gweithredu ac i gyfranwyr a chwsmeriaid eu dehongli
- sicrhau y diwellir holl anghenion a disgwyliadau'r cyfranwyr a'r cwsmeriaid
- cynllunio ar gyfer hapddigwyddiadau posibl
- neilltuo rolau i bersonél y digwyddiad fel sy'n briodol i'w cyfrifoldebau a'u sgiliau
- neilltuo adnoddau i'r cynlluniau, sy'n gwneud y defnydd gorau o'r hyn sydd ar gael
- cynllunio ar gyfer gofynion technoleg cyn, yn ystod ac ar ôl y digwyddiad
- sicrhau bod y cynlluniau'n bodloni gofynion cyfreithiol a rheoliadol
- cael cefnogaeth cydweithwyr allweddol a rhanddeiliaid i'ch cynlluniau
- cyfleu gwybodaeth berthnasol am y cynlluniau i'r cyfranwyr a'r personél
- ystyried yr holl ofynion o ran moeseg a chynaliadwyedd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
**
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
**
- egwyddorion a dulliau datblygu cynlluniau manwl ar gyfer digwyddiadau
- yr hyn y dylai cynllun manwl ymdrin ag ef
- pwysigrwydd sicrhau bod y cynllun yn gyson â nodau cyffredinol, amcanion a gofynion eraill digwyddiad
- pwysigrwydd adeiladu ar lwyddiannau digwyddiadau tebyg eraill a ffynonellau gwybodaeth am y rhain
- pwysigrwydd cael y wybodaeth ddiweddaraf am arferion cyfredol a cheisio arloesedd
- gwahanol ddulliau o gyflwyno cynlluniau fel y gellir eu gweithredu'n hawdd
- dulliau o neilltuo personél ac adnoddau eraill i elfennau'r cynllun
- beth i'w ystyried wrth gynllunio gofynion technoleg cyn, yn ystod ac ar ôl digwyddiad
- gwahaniaethau rhwng digwyddiad ffisegol gydag elfen rithiol a digwyddiad rhithiol penodol
- pwysigrwydd cael cytundeb a chefnogaeth gan yr holl randdeiliaid allweddol i gynlluniau'ch rhaglen
- gwybodaeth y cynllun y mae angen ei dosbarthu a'r dulliau gwahanol y gellir eu defnyddio
*Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r diwydiant/sector
*
- anghenion nodweddiadol ar gyfer digwyddiadau yn eich sector, gan gynnwys gofynion cyfreithiol a rheoliadol
- mathau o hapddigwyddiadau a allai ddigwydd yn ystod digwyddiadau rydych yn ymwneud â nhw a sut i gynllunio ar eu cyfer
- pam y gall fod angen i chi ystyried anghenion amlieithyddol
- y materion a'r cyfleoedd sy'n ymwneud â chynaliadwyedd
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r cyd-destun
- hyd a lled eich cyfrifoldebau chi am y rhaglennu manwl
- sut mae'ch rôl chi'n gysylltiedig â rolau pobl eraill yn eich sefydliad mewn perthynas â rhaglennu
- prif gyfrifoldebau cydweithwyr yr ydych yn gweithio gyda nhw wrth raglennu
- gweithdrefnau'ch sefydliad mewn perthynas â datblygu cynlluniau manwl
- arddull eich sefydliad a'i ddulliau o ddosbarthu gwybodaeth am gynllun
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
| 1. Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn glir, yn gryno, yn gywir ac mewn ffyrdd sy'n hybu dealltwriaeth 2. Rydych yn adnabod newidiadau mewn amgylchiadau'n gyflym ac yn addasu cynlluniau a gweithgareddau yn unol â hynny 3. Rydych yn ceisio gwella perfformiad yn ddi-baid 4. Rydych yn llunio ac yn adnabod datrysiadau dychmygus ac arloesol 5. Rydych yn rhoi gwybod i bobl yn gyson am gynlluniau a datblygiadau 6. Rydych yn atgyfnerthu'r cysylltiadau rhwng amcanion penodol, meysydd gwaith a nodau strategol 7. Rydych yn rhagweld senarios tebygol ar sail dadansoddiad realistig o dueddiadau a datblygiadau 8. Rydych yn blaenoriaethu amcanion ac yn cynllunio gwaith i wneud y defnydd gorau o amser ac adnoddau 9. Rydych yn cyfrifo risgiau'n gywir ac yn eu rheoli 10. Rydych yn adnabod materion a chyfleoedd sy'n ymwneud â chynaliadwyedd ac yn cymryd camau priodol |
Sgiliau
| Rhestrir isod y prif 'sgiliau' generig y mae angen eu cymhwyso yn y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon. Mae'r sgiliau hyn yn echblyg / ymhlyg yng nghynnwys manwl y Safon a chânt eu rhestru yma fel gwybodaeth ychwanegol. 1. Trefnu gwybodaeth 2. Rheoli prosiect 3. Rheoli perthnasoedd 4. Dadansoddi 5. Cynllunio 6. Negodi 7. Cyfathrebu 8. Craffter busnes |
Geirfa
| Diffinnir cynaliadwyedd fel ymagwedd barhaus a chytbwys at weithgarwch economaidd, cyfrifoldeb amgylcheddol ac ymwybyddiaeth gymdeithasol. |
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r Safon hon yn gysylltiedig yn benodol â Safonau: Mae hefyd yn cysylltu'n ôl ag A2 Ymchwilio i gwmpas digwyddiad a chytuno arno ac F13 Datblygu a chytuno ar gynllun busnes ar gyfer digwyddiad |
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2017
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
People 1st
URN gwreiddiol
PPLEVC3
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwyr
Cod SOC
Geiriau Allweddol
datblygu; manwl; cynlluniau; digwyddiad