Defnyddio technoleg mewn digwyddiadau
URN: PPLEVC12
Sectorau Busnes (Suites): Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol – Ar Gyfer Uwch Gynhyrchwyr - Ebrill 2003
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar:
01 Ion 2014
Trosolwg
Mae defnyddio technoleg, yn ystod digwyddiadau ac i'w cynnal, yn rhan gynyddol o waith rheoli digwyddiadau. Mae sicrhau bod y nifer fwyaf posibl o bobl yn cymryd rhan mewn digwyddiadau trwy dechnoleg yn cynyddu. Dylech allu ymchwilio i'r dulliau sydd ar gael i weithio gyda thechnoleg, er enghraifft cofrestru electronig, gweminarau, gweddarllediadau o ddigwyddiadau. Dylech ddeall sut i sicrhau y caiff technoleg yr effaith fwyaf posibl ar gyrraedd y gynulleidfa ehangaf i'r digwyddiad. Mae'r Safon Alwedigaethol Genedlaethol yn addas ar gyfer Rheolwyr a Chydgysylltwyr Digwyddiadau. # |
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- canfod a chytuno ar gyfleoedd i ddefnyddio technoleg mewn digwyddiad
- ymchwilio i'r adnoddau sydd ar gael i weithio â nhw
- trafod a chytuno ar y dechnoleg briodol i gael ei defnyddio
- nodi'r adnoddau mae eu hangen er mwyn defnyddio technoleg fel rhan o'r digwyddiad
- nodi'r adnoddau mae eu hangen er mwyn defnyddio technoleg i gyrraedd nifer fwy o gyfranogwyr
- sicrhau bod adnoddau wedi'u trefnu yn ystod y digwyddiad, gan gynnwys y dechnoleg a'r cymorth cywir
- mynd i'r afael â phroblemau gyda thechnoleg a ganfyddir yn ystod y digwyddiad
- cael y wybodaeth ddiweddaraf am y dechnoleg a ddefnyddir mewn digwyddiadau
- casglu adborth ar y defnydd o dechnoleg mewn digwyddiad
- ystyried yr holl ofynion o ran moeseg a chynaliadwyedd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- buddion defnyddio technoleg mewn digwyddiad
- buddion defnyddio technoleg i sicrhau bod y nifer fwyaf posibl o bobl yn cymryd rhan mewn digwyddiad
- beth i'w ystyried wrth gynllunio'r gofynion o ran technoleg cyn, yn ystod ac ar ôl digwyddiad
- yr adnoddau sydd ar gael i weithio gyda thechnoleg
- ffynonellau cyngor ar weithio gyda thechnoleg
- pa adnoddau mae eu hangen i ddefnyddio technoleg mewn digwyddiad
- sut i addasu cynnwys digwyddiad i'w gwneud yn bosibl defnyddio technoleg
- sut i sicrhau mynediad diogel trwy dechnoleg
- cyfrifoldebau cyfreithiol a moesegol perthnasol wrth weithio gyda thechnoleg
- pam y gall fod angen i chi ystyried anghenion amlieithyddol
- y materion a'r cyfleoedd sy'n ymwneud â chynaliadwyedd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
1. Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn glir, yn gryno, yn gywir ac mewn ffyrdd sy'n hybu dealltwriaeth 2. Rydych yn mynd i'r afael â nifer o alwadau heb golli ffocws nac egni 3. Rydych yn adnabod newidiadau mewn amgylchiadau'n gyflym ac yn addasu cynlluniau a gweithgareddau yn unol â hynny 4. Rydych yn ymateb yn gyflym i argyfyngau a phroblemau gyda ffordd arfaethedig o weithredu 5. Rydych yn canfod ffyrdd ymarferol i oresgyn rhwystrau 6. Rydych yn sicrhau bod amser ar gael i gynorthwyo eraill 7. Rydych yn rhoi gwybod i bobl yn gyson am gynlluniau a datblygiadau 8. Rydych yn rhoi adborth i eraill i'w helpu i wella eu perfformiad 9. Rydych chi'n cymryd cyfrifoldeb personol am sicrhau bod pethau'n digwydd 10. Rydych yn creu ymdeimlad o bwrpas cyffredin 11. Rydych yn gwneud penderfyniadau amserol sy'n realistig ar gyfer y sefyllfa 12. Rydych yn adnabod materion a chyfleoedd sy'n ymwneud â chynaliadwyedd ac yn cymryd camau priodol |
Sgiliau
Rhestrir isod y prif 'sgiliau' generig y mae angen eu cymhwyso yn yr uned hon. Mae'r sgiliau hyn yn echblyg / ymhlyg yng nghynnwys manwl yr uned a chânt eu rhestru yma fel gwybodaeth ychwanegol. 1. Cyfathrebu 2. Arweinyddiaeth 3. Monitro 4. Rheoli adnoddau 5. Datrys problemau 6. Cofnodi ac adrodd 7. Craffter busnes |
Geirfa
Diffinnir cynaliadwyedd fel ymagwedd barhaus a chytbwys at weithgarwch economaidd, cyfrifoldeb amgylcheddol ac ymwybyddiaeth gymdeithasol. |
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r Safon hon yn gysylltiedig yn benodol â Safonau:
|
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Ion 2017
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
People 1st
URN gwreiddiol
PPLEVC12
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwyr
Cod SOC
Geiriau Allweddol
digwyddiad; technoleg; rhith-gyfranogwr; gweminar; adborth; cyfranogwr