Cael nawdd/ffynonellau cyllid eraill i ddigwyddiad
Trosolwg
Mae digwyddiadau'n gyfle delfrydol i gyllidwyr hyrwyddo eu cynhyrchion, eu gwasanaethau a'u delwedd gyhoeddus. Yn gyfnewid, gallant ddarparu cyfraniadau ariannol neu 'mewn nwyddau' sy'n helpu'r digwyddiad i lwyddo. Mae'r Safon hon yn ymdrin â phenderfynu pa dargedau a lefelau cyllid sy'n briodol (dylai hyn darddu o gynllun busnes y digwyddiad), cloriannau'r dadleuon o blaid ac yn erbyn ffynonellau cyllid a chyllidwyr unigol, a denu ffynonellau cyllid priodol a chontractio gyda nhw.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adolygu cynllun busnes y digwyddiad a nodi'r targedau a'r lefelau cyllido angenrheidiol
- ymchwilio i ffynonellau cyllid posibl a'u nodi
- dadansoddi'r costau a'r buddion tebygol i'r digwyddiad o gynnwys pob ffynhonnell cyllid posibl
- dewis ffynonellau cyllid posibl
- datblygu a chyfleu achos busnes darbwyllol i'r ffynonellau cyllid sy'n cefnogi'r digwyddiad
- negodi ymrwymiad ffynonellau cyllid y mae eu proffil a'u nodau'n gyson â nodau ac amcanion y digwyddiad ac y mae eu buddion yn fwy na chostau eu cynnwys
- gwneud yn siŵr bod gennych gefnogaeth rhanddeiliaid allweddol i'ch trefniadau cyllido arfaethedig
- nodi a chytuno ar ddisgwyliadau gyda'r ffynonellau cyllid
- sefydlu cytundebau contractiol sy'n ymdrin â'r cyllido
- cynnal a meithrin perthynas weithio effeithiol gyda'r ffynhonnell cyllid
- sicrhau bod yr holl drafodaethau a chytundebau'n gyfreithiol ac yn foesegol
- ystyried yr holl ofynion o ran moeseg a chynaliadwyedd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
**Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
**
1. y gofynion cyfreithiol perthnasol sy'n ymdrin â chyllido
2. y gwahanol ffynonellau cyllid wrth reoli digwyddiad
3. y buddion, costau a chyfyngiadau y gall cyllido eu hachosi
4. ffynonellau gwybodaeth am ffynonellau cyllid posibl ar gyfer digwyddiadau
5. nodweddion allweddol achos busnes dros gyllido
6. pam mae'n bwysig bod proffil a nodau ffynhonnell cyllid yn gyson â nodau ac amcanion digwyddiad
7. sut i wneud dadansoddiad cost a budd o gynnwys ffynhonnell cyllid
8. pam mae'n bwysig cael cefnogaeth rhanddeiliaid allweddol i gynnwys ffynhonnell cyllid a sut y byddech yn cael y gefnogaeth hon
9. y disgwyliadau nodweddiadol a all fod gan ffynhonnell cyllid mewn perthynas â'r digwyddiad a pham mae'n bwysig i'r ddwy ochr fod yn glir ynghylch y rhain
10. ffynonellau gwybodaeth a chyngor am gontractau gyda ffynonellau cyllid ar gyfer digwyddiadau
11. ffynonellau gwybodaeth a chyngor am gontractau gyda ffynonellau cyllid
12. pwysigrwydd perthnasoedd gweithio gyda ffynonellau cyllid
- pif nodweddion perthynas weithio effeithiol gyda ffynonellau cyllid a sut i gynnal a meithrin y berthynas hon
14. y materion moesegol sy'n gysylltiedig â negodi nawdd a mathau eraill o gyllid
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r diwydiant/sector
**
15. y prif fathau o ddigwyddiadau a gynhelir yn eich sector
16. gofynion a chwmpas nodweddiadol digwyddiadau yn eich sector, gan gynnwys gofynion cyfreithiol a rheoliadol
17. y ffynonellau cyllid nodweddiadol a geir yn eich sector
18. pam y gall fod angen i chi ystyried anghenion amlieithyddol
19. y materion a'r cyfleoedd sy'n ymwneud â chynaliadwyedd
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r cyd-destun
*
*
20. hyd a lled eich cyfrifoldebau chi am gyllido
21. sut mae'ch rôl yn cysylltu â rolau pobl eraill yn eich sefydliad
22. prif gyfrifoldebau cydweithwyr yr ydych yn gweithio gyda nhw wrth i chi ganfod a sicrhau ffynonellau cyllid
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn llunio ac yn adnabod datrysiadau dychmygus ac arloesol
- Rydych yn canfod a gweithio gyda phobl a sefydliadau all ddarparu cefnogaeth i'ch digwyddiad
- Rydych yn chwilio am gyfleoedd busnes newydd ac yn gweithredu arnynt
- Rydych yn cydbwyso risgiau yn erbyn y buddion a all darddu o gymryd risgiau
- Rydych yn adnabod ac yn achub ar gyfleoedd anarferol i gael adnoddau
- Rydych yn cytuno'n glir ar yr hyn a ddisgwylir gan eraill ac yn eu dal i gyfrif
- Rydych yn dangos sensitifrwydd i anghenion a buddiannau rhanddeiliaid ac yn eu rheoli'n effeithiol
- Rydych yn creu ymdeimlad o bwrpas cyffredin
- Rydych yn nodi'n glir y gwerth a'r buddion y bydd ffordd arfaethedig o weithredu'n eu creu i bobl
- Rydych yn defnyddio amrywiaeth o strategaethau a thactegau dilys i ddylanwadu ar bobl
- Rydych yn gweithio tuag at sefyllfaoedd lle mae pawb ar ei ennill
- Rydych yn adnabod materion a chyfleoedd sy'n ymwneud â chynaliadwyedd ac yn cymryd camau priodol
Sgiliau
Rhestrir isod y prif 'sgiliau' generig y mae angen eu cymhwyso yn y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon. Mae'r sgiliau hyn yn echblyg / ymhlyg yng nghynnwys manwl y Safon a chânt eu rhestru yma fel gwybodaeth ychwanegol.
- Trefnu gwybodaeth
- Ymchwilio
- Gwerthuso
- Dadansoddi a rheoli risg
- Darbwyllo
- Negodi
- Monitro
- Meithrin perthnasoedd
- Craffter busnes
Geirfa
Diffinnir cynaliadwyedd fel ymagwedd barhaus a chytbwys at weithgarwch economaidd, cyfrifoldeb amgylcheddol ac ymwybyddiaeth gymdeithasol.
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r Safon hon yn gysylltiedig â Safonau:
A1 Datblygu a chytuno ar y cysyniad ar gyfer digwyddiad
B1 Datblygu dealltwriaeth o'ch marchnadoedd a'ch cwsmeriaid
B2 Datblygu strategaeth a chynllun i farchnata ymgyrchoedd neu weithgareddau
F13 Datblygu a chytuno ar gynllun busnes ar gyfer digwyddiad
F15 Rheoli'r defnydd o adnoddau ariannol
yng nghyfres gyffredinol y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Digwyddiadau