Defnyddio cyfryngau digidol mewn digwyddiadau
Trosolwg
| Mae cyfryngau digidol wedi dod yn ffordd o godi ymwybyddiaeth o ddigwyddiadau ac o werthuso digwyddiadau. Dylech allu cysylltu â phobl a fydd o bosibl yn dod i'r digwyddiad i godi ymwybyddiaeth ohono, a defnyddio cyfryngau digidol fel dull o hysbysebu. Bydd angen i chi ddeall sut i ymdrin â gwybodaeth yn y parth cyhoeddus, yn enwedig gydag unrhyw ymatebion a materion negyddol neu gadarnhaol. Dylech hefyd ddeall sut y gellir defnyddio cyfryngau digidol yn ystod digwyddiad ac i gysylltu cyfranogwyr. Mae'r Safon hon yn gysylltiedig â maes sy'n newid a datblygu'n ddi-baid wrth i'r defnydd o gyfryngau digidol gynyddu yn y diwydiant digwyddiadau. Y termau a ddefnyddir yw'r rheiny a arferwyd yn 2013/14. Argymhellir y Safon Alwedigaethol Genedlaethol ar gyfer Rheolwyr a Chydgysylltwyr Digwyddiadau neu bobl eraill sy'n ymwneud â defnyddio cyfryngau digidol yn ystod digwyddiadau. ** ** |
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynllunio strategaeth ar gyfer defnyddio cyfryngau digidol mewn digwyddiad
- nodi cyfryngau digidol sy'n berthnasol i'r digwyddiad
- llunio proffiliau o ddefnyddwyr, cymunedau a phlatfformau cyfryngau digidol sy'n berthnasol i'r digwyddiad
- defnyddio cyfryngau digidol yn unol â gofynion cyfreithiol, rheoliadol a sefydliadol
- canfod yr adeg orau i ddiweddaru cyfryngau digidol am ddigwyddiad
- rhannu'r wybodaeth briodol am y digwyddiad trwy gyfryngau digidol
- sganio cyfryngau digidol i ganfod gwybodaeth berthnasol
- monitro rhyngweithio ar gyfryngau digidol
- ymateb i negeseuon a cheisiadau ar gyfryngau digidol mewn modd priodol ac amserol
- ystyried yr effaith ar deimladau'r nifer fawr o gymunedau sy'n bodoli o fewn y gynulleidfa i'ch digwyddiad yn unol â deddfwriaeth ar gydraddoldeb
- gwirio a ydych yn ymateb yn gywir i gyfryngau digidol os ydych yn anfon ateb preifat a phwy fydd yn gweld/cael y neges hon
- canfod adborth am y digwyddiad ar gyfryngau digidol
- cadarnhau bod adborth a geir trwy gyfryngau digidol yn gywir ac yn ddilys
- ymdrin ag adborth sy'n anghywir neu'n amhriodol
- cynnal presenoldeb ar gyfryngau digidol ar gyfer digwyddiadau a gynhelir llawer o weithiau
- defnyddio cyfryngau digidol yn unol â pholisi'ch sefydliad ar gyfathrebu
- ystyried yr holl ofynion o ran moeseg a chynaliadwyedd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. sut i fesur y defnydd effeithiol o gyfryngau digidol
2. y cyfryngau digidol prif ffrwd ac arbenigol a ddefnyddir mewn digwyddiadau
3. sut mae'ch sefydliad yn defnyddio cyfryngau digidol
4. y gynulleidfa darged ar gyfer defnyddio cyfryngau digidol
5. demograffeg y gynulleidfa bosibl
6. sut i gael gwybodaeth i gynorthwyo â defnyddio cyfryngau digidol
7. yr adeg fwyaf effeithiol i gyfathrebu trwy gyfryngau digidol er mwyn sicrhau ei fod yn effeithiol
8. sut y gellir defnyddio cyfryngau digidol yn fewnol ac yn allanol
9. pwysigrwydd cael effaith ar weithrediadau cyfryngau digidol
10. rheoliadau deddfwriaeth a diogelwch sy'n gysylltiedig â defnyddio cyfryngau digidol
11. sut i chwilio trwy ffynonellau cyfryngau digidol am bostiadau gan gwsmeriaid
12. pwysigrwydd anfon negeseuon clir a chryno wrth ddefnyddio cyfryngau digidol
13. pam mae'n bwysig monitro sut mae pobl yn rhyngweithio ar gyfryngau digidol, yn enwedig os ydynt o dan un deg chwech oed
14. pam mae'n bwysig ystyried yr effeithiau ar deimladau'r nifer fawr o gymunedau sy'n bodoli o fewn cynulleidfa eich digwyddiad yn unol â deddfwriaeth ar gydraddoldeb
15. y gall gwybodaeth gael ei hanfon ymlaen trwy gyfryngau digidol, a'r effaith y gall hyn ei chael
16. pam mae delwedd sefydliad yn bwysig wrth ddefnyddio cyfryngau digidol ar ei ran
17. y materion a'r cyfleoedd sy'n ymwneud â chynaliadwyedd
18. sut i reoli mynediad i ryngweithiadau gyda chwsmeriaid wrth ddefnyddio cyfryngau digidol
19. pam y gall cyfryngau digidol fod yn briodol i'w defnyddio dim ond gyda rhai grwpiau/digwyddiadau penodol
20. pam y dylid defnyddio cyfryngau digidol fel rhan o strategaeth ehangach i godi ymwybyddiaeth o ddigwyddiad
21. sut i adnabod beth ddylai fod y cam olaf mewn cyfres o ryngweithiadau ar gyfryngau digidol
22. sut i chwilio trwy gyfryngau digidol am adborth am ddigwyddiadau
23. sut i ymdrin ag adborth a gaiff ei bostio ar blatfformau cyfryngau digidol sy'n anghywir a/neu'n amhriodol
24. pwysigrwydd cynnal presenoldeb ar y cyfryngau digidol y tu allan i gyfnod y digwyddiad
25. pam y gall fod angen i chi ystyried anghenion amlieithyddol
26. sut i ddefnyddio cyfryngau digidol i wneud arian o'r gynulleidfa, os mai dyna yw amcan y digwyddiad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
| 1. Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn glir, yn gryno, yn gywir ac mewn ffyrdd sy'n hybu dealltwriaeth 2. Rydych yn adnabod newidiadau mewn amgylchiadau'n gyflym ac yn addasu cynlluniau a gweithgareddau yn unol â hynny 3. Rydych yn ceisio gwella perfformiad yn ddi-baid 4. Rydych yn llunio ac yn adnabod datrysiadau dychmygus ac arloesol 5. Rydych yn rhoi gwybod i bobl yn gyson am gynlluniau a datblygiadau 6. Rydych yn rhagweld senarios tebygol yn y dyfodol ar sail dadansoddiad realistig o dueddiadau a datblygiadau 7. Rydych yn blaenoriaethu amcanion ac yn cynllunio gwaith i wneud y defnydd gorau o amser ac adnoddau 8. Rydych yn cyfrifo risgiau'n gywir ac yn eu rheoli 9. Rydych yn adnabod materion a chyfleoedd sy'n ymwneud â chynaliadwyedd ac yn cymryd camau priodol |
Sgiliau
| Rhestrir isod y prif 'sgiliau' generig y mae angen eu cymhwyso yn y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon. Mae'r sgiliau hyn yn echblyg / ymhlyg yng nghynnwys manwl y Safon a chânt eu rhestru yma fel gwybodaeth ychwanegol. 1. Trefnu gwybodaeth 2. Rheoli prosiectau 3. Rheoli perthnasoedd 4. Dadansoddi 5. Cynllunio 6. Negodi 7. Cyfathrebu 8. Craffter busnes |
Geirfa
| Diffinnir cyfryngau digidol fel cynnwys wedi'i ddigido y gellir ei drawsyrru dros y rhyngrwyd neu rwydweithiau cyfrifiadurol. Diffinnir cynaliadwyedd fel ymagwedd barhaus a chytbwys at weithgarwch economaidd, cyfrifoldeb amgylcheddol ac ymwybyddiaeth gymdeithasol. |
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r Safon hon yn gysylltiedig yn benodol â Safonau: C3 Datblygu cynlluniau manwl ar gyfer digwyddiad C10 Rheoli'r gwaith o redeg digwyddiad D1 Gwerthuso ac adrodd ar effaith digwyddiad yng nghyfres gyffredinol y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Digwyddiadau |