Ymchwilio i gwmpas digwyddiad a chytuno arno
Trosolwg
Mae'r gwaith o reoli a chydgysylltu digwyddiad yn dibynnu ar gynllunio a threfnu gofalus. Y cam cyntaf yn y broses yw bod â chytundeb clir iawn rhwng pawb sy'n ymwneud â'r digwyddiad ynghylch beth yw ei fwriad a beth mae'n ceisio ei gyflawni. Weithiau bydd y bobl sy'n cynnig y digwyddiad yn gallu rhoi briffiad clir iawn. Ar adegau eraill bydd angen cryn dipyn o waith ymchwil i gael syniad clir o'r hyn maent yn ei ddisgwyl. Yn y naill achos neu'r llall, bydd yn bwysig nodi'r prif ofynion ar gyfer y digwyddiad, gwerthuso pa mor ymarferol yw'r gofynion arfaethedig hyn, a negodi a chytuno ar friffiad terfynol cyn i ragor o waith cynllunio gael ei wneud.
Argymhellir y Safon Alwedigaethol Genedlaethol ar gyfer Rheolwyr a Chydgysylltwyr Digwyddiadau neu bobl eraill sy'n ymwneud â chamau cynnar yn y gwaith o gynllunio digwyddiad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
nodi, casglu a dadansoddi'r wybodaeth mae ei hangen arnoch
nodi gofynion y digwyddiad yn nhermau:
2.1 rhanddeiliaid
2.2 nodau ac amcanion
2.3 cysyniad a themâu
2.4 y farchnad dan sylw
2.5 nodau ariannol
2.6 y cyd-destun ehangach y cynhelir y digwyddiad ynddo
2.7 amseru
2.8 lleoliad
2.9 maint
2.10 gofynion arbennig
2.11 yr adnoddau sydd ar gael gan gynnwys technoleg
2.12 y ffactorau hanfodol ar gyfer llwyddiant
- nodi a dadansoddi:
3.1 ymchwil berthnasol
3.2 gwybodaeth am ddigwyddiadau tebyg
3.3 gofynion cyfreithiol a rheoliadol
3.4 hyfywedd ariannol
3.5 cynaliadwyedd y digwyddiad
gwerthuso ac adrodd ar ddichonoldeb a photensial y digwyddiad arfaethedig
cwblhau asesiad risg ar gyfer y digwyddiad arfaethedig
cytuno ar ofynion y digwyddiad gyda'r prif randdeiliaid a chydweithwyr perthnasol
cydgasglu'ch holl wybodaeth mewn ffordd a fydd yn helpu i gynllunio'r digwyddiad
ystyried yr holl ofynion o ran moeseg a chynaliadwyedd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. pam mae'n bwysig ymchwilio i gwmpas digwyddiad a chytuno arno a chanlyniadau posibl peidio â gwneud hynny'n gywir
2. y prif ffynonellau gwybodaeth y gellir eu defnyddio i gasglu gwybodaeth a fydd yn diffinio cwmpas digwyddiad
3. y prif ddulliau y gallwch eu defnyddio i drefnu, dadansoddi a defnyddio'r wybodaeth hon a chymharu eu cryfderau a'u gwendidau
4. y prif fathau o wybodaeth ymchwil y byddwch o bosibl yn eu defnyddio wrth werthuso dichonoldeb digwyddiad a'r pwyntiau allweddol y dylech eu nodi
5. y prif brosesau sy'n rhan o'r gwaith o ddarganfod a yw digwyddiad yn hyfyw yn ariannol
6. y dulliau y gallech eu defnyddio i gael gwybodaeth am ddigwyddiadau tebyg a chymharu cryfderau a gwendidau'r dulliau hyn
7. y prif brosesau a sgiliau sy'n rhan o'r gwaith o gytuno ar y gofynion a'r cwmpas ar gyfer digwyddiad
8. gwahanol fodelau codi tâl am ddigwyddiadau
9. pwysigrwydd penderfynu ar amcanion y digwyddiad a chael cynlluniau wrth gefn
10. pwysigrwydd sicrhau bod risgiau wedi cael eu hasesu mewn perthynas â'r digwyddiad arfaethedig
11. sut i sicrhau bod siaradwyr ieithoedd eraill wedi cael eu hystyried
12. pam mae'n bwysig cael cytundeb gyda rhanddeiliaid a chydweithwyr perthnasol
13. buddion ymestyn y digwyddiad i gynnwys rhith-gyfranogwyr
14. pwysigrwydd cynaliadwyedd wrth gynllunio a threfnu digwyddiadau
15. y prif fathau o ddigwyddiadau a gynhelir yn eich sector
16. y mathau nodweddiadol o randdeiliaid ar gyfer digwyddiad yn eich sector a beth allai eu buddiannau yn y digwyddiad fod
17. gofynion a chwmpas nodweddiadol digwyddiadau yn eich sector
18. y gofynion cyfreithiol a rheoliadol sy'n effeithio ar ddigwyddiadau yn eich sector a'u prif oblygiadau ar gyfer dichonoldeb y digwyddiad
19. y materion a'r cyfleoedd sy'n ymwneud â chynaliadwyedd
20. hyd a lled eich cyfrifoldebau chi am ymchwilio i gwmpas a gofynion digwyddiadau a'u negodi
21. sut mae'ch rôl chi'n gysylltiedig â rolau pobl eraill yn eich sefydliad
22. prif gyfrifoldebau cydweithwyr yr ydych yn gweithio gyda nhw wrth gwmpasu digwyddiad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Rydych yn dangos dealltwriaeth glir o wahanol gwsmeriaid a'u hanghenion gwirioneddol a chanfyddedig
- Rydych yn defnyddio dulliau sy'n effeithiol o ran costau ac amser, ac sy'n foesegol, i gasglu, storio ac adalw gwybodaeth
- Rydych yn gwirio pa mor ddilys a dibynadwy yw gwybodaeth
- Rydych yn canfod ffyrdd ymarferol i oresgyn rhwystrau
- Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn glir, yn gryno, yn gywir ac mewn ffyrdd sy'n hybu dealltwriaeth
- Rydych yn myfyrio'n rheolaidd ynghylch eich profiadau chi a phrofiadau pobl eraill, ac yn defnyddio'r rhain i lywio gweithredoedd yn y dyfodol
- Rydych yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau'r sefydliad a chodau proffesiynol ac yn ceisio sicrhau bod eraill yn cydymffurfio â nhw
- Rydych yn cydymffurfio â chodau diwylliannol ac yn ceisio sicrhau bod eraill yn cydymffurfio â nhw
- Rydych yn rheoli disgwyliadau rhanddeiliaid
- Rydych yn cyflwyno syniadau a dadleuon yn argyhoeddiadol
- Rydych yn adnabod materion a chyfleoedd sy'n ymwneud â chynaliadwyedd ac yn cymryd camau priodol
Sgiliau
Rhestrir isod y prif 'sgiliau' generig y mae angen eu cymhwyso yn y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon. Mae'r sgiliau hyn yn echblyg / ymhlyg yng nghynnwys manwl y Safon a chânt eu rhestru yma fel gwybodaeth ychwanegol. 1. Ymchwilio 2. Trefnu gwybodaeth 3. Dadansoddi 4. Gwerthuso 5. Negodi 6. Cyfathrebu 7. Adrodd 8. Craffter busnes |
Geirfa
Diffinnir cynaliadwyedd fel ymagwedd barhaus a chytbwys at weithgarwch economaidd, cyfrifoldeb amgylcheddol ac ymwybyddiaeth gymdeithasol. |
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r Safon hon yn gysylltiedig â Safonau: A1 Datblygu a chytuno ar y cysyniad ar gyfer digwyddiad C1 Cynllunio a gweithredu llwybr critigol ar gyfer digwyddiad C2 Datblygu a gweithredu polisïau a gweithdrefnau ar gyfer digwyddiad C3 Datblygu cynlluniau manwl ar gyfer digwyddiad F13 Datblygu a chytuno ar gynllun busnes ar gyfer digwyddiad yng nghyfres gyffredinol y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Digwyddiadau |