Dod o hyd i gynnyrch ffres yn gynaliadwy i’w ddefnyddio mewn cegin broffesiynol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud ag ennill dealltwriaeth o ddod o hyd i gynnyrch ffres yn gynaliadwy a’r sgiliau i wneud hynny. Hefyd, mae’n ymwneud â sut mae prosesau ffermio, daearyddiaeth leol a dulliau cludiant yn effeithio ar yr amgylchedd ac ar bris a safon cynnyrch ffres a ph’un a ydyw ar gael; a sut mae technegau storio a chadw yn cyfrannu at gynaliadwyedd. Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch yn gallu gwerthuso eich cyflenwyr presennol i wneud y mwyaf o ffynonellau cynaliadwy o gynnyrch ffres ar gyfer y sefydliad.
Argymhellir y safon hon ar gyfer uwch chefs / uwch gogyddion.
Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r safon hon, byddwch chi’n gallu dangos eich dealltwriaeth o’r canlynol, a’ch gallu i:
• Ddod o hyd i gynnyrch ffres yn gynaliadwy i’w ddefnyddio mewn cegin broffesiynol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Ymchwilio i gyflenwi cynnyrch ffres
- Asesu effaith daearyddiaeth ar gynnyrch lleol
- Gwerthuso cyflenwyr cynnyrch ffres i sefydliad
- Cyfiawnhau’r defnydd o ffynonellau newydd o gynnyrch ffres i sefydliad
- Defnyddio marciau ansawdd a chanllawiau wrth ddewis cyflenwyr bwyd ffres
- Storio cynnyrch ffres yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
- Defnyddio technegau i gadw cynnyrch ffres yn unol â gofynion diogelwch bwyd a gofynion sefydliadol
- Gwerthuso llwyddiant technegau storio a chadw sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Defnyddio ffynonellau cynnyrch ffres cynaliadwy
- Marciau ansawdd a chanllawiau i’w defnyddio wrth ddewis cyflenwyr bwyd ffres
- Y berthynas rhwng y tymhorau ac a yw cynnyrch ffres ar gael
- Effaith dod o hyd i gynnyrch ffres ar filltiroedd bwyd
- Effaith dulliau cludiant ar gynnyrch ffres
- Dulliau lleihau nifer y teithiau cerbyd a wneir wrth drefnu danfon cynnyrch ffres
- Y rhwystrau rhag dod o hyd i gynnyrch ffres yn gynaliadwy
- Sut i oresgyn y rhwystrau rhag defnyddio cynnyrch ffres o ffynonellau cynaliadwy
- Effaith prosesau ffermio ar yr amgylchedd
- Y gwahaniaethau rhwng ffynonellau cyflenwi lleol neu ranbarthol neu ryngwladol
- Buddion storio a chadw cynnyrch ffres
- Effeithiau dulliau a phrosesu cadw gwahanol ar gynnyrch ffres
- Sut gall cynnyrch nad yw yn ei dymor gael ei storio a’i gadw i estyn ei oes a gwneud y defnydd pennaf ohono
Cwmpas/ystod
1. Cynnyrch ffres
13.1 cig coch
13.2 cig gwyn
13.3 dofednod
13.4 helgig
13.5 pysgod a physgod cregyn
13.6 ffrwythau a llysiau
2. Marciau ansawdd a chanllawiau
2.1 Marine Society
2.2 Tractor Coch
2.3 Organic Farmers & Growers
2.4 RSPCA Freedom Food
2.5 Tystysgrif Cymdeithas y Pridd
2.6 Marc arlwyo Food for life